Cadwyneiriau Dyma'r cadwyneiriau y gellir eu gweld yn weddol glir 8 hyn[iw] 12 y 13 Duw, 14 ydoedd 18 Eraill 19 Gristianogion 22 (go-)goniant Teip :Y 'Llythyr' 35 llinell+llinell bennawd a llinell odre 140 (c. 148) x 82mm. (t. [5]). Y Bregeth 43 llinell+llinell bennawd a llinell odre 140(148) x 82mm. (t.9 a t.19). Rhufeinig gyda pheth italig, a theip y 'Llythyr' yn frasach na theip y bregeth. Copi Llyfrgell Salisbury, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (DG 16.61D). Fel y gwelir, yr awdur oedd y Dr. Dafydd Maurice (1626-1702), mab Andrew Maurice, Deon Llanelwy. Cafodd yrfa ddisglair fel myfyriwr yn Rhydychen ym mhumdegau'r ail ganrif ar bymtheg, a bu'n dal nifer o swyddi eglwysig yn Esgobaeth Llanelwy cyn ei benodi'n Ficer Abergele a Betws-yn-Rhos yn 1684, ac yn 1696, ychwanegwyd bywoliaeth Llanarmon-yn-Ial atynt. Bu farw yn 1702, yn 76 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Abergele, lie y mae beddargraff Lladin yn ei goffau.1 Y mae'n ddiddorol nodi ei fod ef a William Jones, y gweinidog Piwritanaidd a'r cyfieithydd o Ddinbych, yn briod a dwy chwaer, a Dafydd Maurice, a oedd yn Ficer Llanasa ar y pryd, a draddododd y bregeth yn angladd William Jones yn 1679.2 Cyfieithiad ydyw Cwnffwrdd i'r Gwan Gristion o bregeth Saesneg a draddododd Dafydd Maurice ei hun yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy tua 1688. Dyna gyfnod teymasiad yr Esgob William Lloyd yn Esgobaeth Llanelwy, sef o 1680 hyd 1692, ac yn y 'Llythyr at fy Mlhwyfolion' ar ddechrau Cwnffwrdd i'r Gwan Gristion, dywed Maurice 'yr Escob a ddywedodd wrthif, os cymmerwn i yr boen i gyfieuthu yr bregeth honno yn gymraeg, y bydde efe yn y gôst iw phrintio hi.' Pa feirniadaeth bynnag a ddygir yn erbyn Lloyd fel Eglwyswr digymrodedd, nid oes amheuaeth ynglyn â didwylledd ei bwyslais ar bwysigrwydd pregethu effeithiol ac ar le hanfodol yr iaith Gymraeg ym mywyd a gwasanaethau'r Eglwys yng Nghymru ar y pryd. Syndod, er hynny, yw gweld ei gofiannydd yng nghanol yr ugeinfed ganrif yn son am hyn fel 'Lloyd's obsession with the idea that Welsh-speaking benefices should be served only by Welsh- speaking parsons.'3 Beth bynnag, ni ddigwyddodd dim y pryd hwnnw ynglyn A chyhoeddi cyfieithiad o'r bregeth i'r Gymraeg. Ond tua 1698, trawyd Dafydd Maurice yn wael, a chan na allai fyned i'r eglwys i bregethu yn 61 ei arfer, penderfynodd gyfieithu 1 D. R. Thomas, The History of the Diocese of St. Asaph (1908), I, 334-5. 2 T. Richards, Y Bywgraffiadur Cymreig, 490. 3 A. Tindal Hart, William Lloyd 1627-1717 (:London, S.P.C.K., 1952), 84.