Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWNFFWRDD PR GWAN GRISTION (RHYDYCHEN, 1700) COFNODIR y llyfr hwn gan Moses Williams yn Cofrestr o'r holl Lyfrau Printjedig yn y Faith Gymraeg (1717), ond yn y 'Short-title list of Welsh Books, 1546-1700', JWBS, 11(1916-23), 268, dywedir: 'No copy known'. Cofnodir ef hefyd gan Falconer Madan yn A Chronological List of Oxford Books 1681-1713 (1954), ond ni cheir arwydd iddo weld y llyfr. Yn ffodus, y mae copi yn Llyfrgell Salisbury, Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Nid yw'n Ian nac yn ber- ffaith, ond y mae'r testun yn gyflawn, a hynny am fod ugain tu- dalen mewn llawysgrif ar y diwedd—llaw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn 61 pob tebyg. Y mae godre'r tudalennau printiedig wedi eu tocio'n ddrwg, ac o ganlyniad, diflannodd yr arwyddnodau a'r cadwyneiriau bron yn gyfan gwbl. Ers ugain mlynedd, bum yn chwilio'n obeithiol am gopi perffeithiach, ond yn ofer, a dyma gynnig disgrifiad o'r copi hwn ar gyfer darllenwyr y Journal. D. Maurice, Cwnffwrdd i'r Gwan Gristion (Rhydychen, 1700). Y Teitl: CWNFFWRDD I I'R GWAN GRISTION, Neu'r I GORSEN YSYG I Mewn Pregeth Gan DAVIDD Maurice D.D. [addurn-30 x 50mm.] Printiedig yn y THEATRE [Tociwyd godre'r tudalen-teitl, ond credaf y gellir gweld y mymryn lleiaf o frig y llythrennau 'RHYDYCHEN', a hwyrach fod y dyddiad yno hefyd, neu, o bosibl, yn dilyn 'THEATRE', gan fod cornel de godre'r tudalen wedi ei dorri ymaith yn ogystal.] Tudaleniad [8] 1—24=32tt.+20 tudalen mewn Ilawysgrif. [Yr unig arwyddnodau y gellir eu gweld ydyw B(=t.9), a C2(=t.19). Rhifnodir y tudalennau ar frig chwith y verso ac ar frig de y recto, ac eithrio t.1, sydd rhwng cromfachau ar ganol y brig. Nid yw'r tudalennau llawysgrif wedi eu rhifo.] Cynnwys [1] teitl [2] gwag [3] 'Llythyr at fy Mlhwyfolion.' [wedi ei arwyddo ar] t.[8] 'D.M.' 1 'Cwnffwrdd ir gwan gristion, &c. MATT. XII. 20. Corsen yssig nis tyrr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn ifuddugoliaeth.' Teitlau Parhaol LLYTHYR At Fy MLHWYFOLION. [4] —[7]. LLYTHYR AT Fy MLHWYFOLION. [8]. Cwnffwrdd ir gwan gristion. 2-5, 7-24. Cwnffwrdd ir gwan gristion. 6