Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BALEDI Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG. YN rhifyn Gorffennaf, 1951, o'r Journal cyhoeddodd Syr Ben Bowen Thomas restr o faledi prif faledwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn 1952, ychwanegais at y rhestr hon. Rhoddir yma eto, 19 o faledi o weithiau'r baledwyr hynny, sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. DAFYDD JONES (Llanybydder). Can newydd yn gosod allan gyflwr truenus gweithwyr oherwydd cwmpad pris. Merthyr: T. Howells, argraffydd. Can newydd, sef drycholwg ar galedi y gweithiwr a'r trais a ddefnyddir tuag atto Merthyr Tydfil: T. Howells, argraffydd. Can newydd, yn rhoddi cyflawn a gwirionedd hanes carwriaeth Mr. Wm. Greenwood a Mary Griffiths ym mhlwyf St. Peter, gerllaw Caergrawnt. T. Howells, argraffydd, Merthyr. Can newydd, yn rhoddi hanes y llofruddiaeth arswydus a gyflawnwyd gan John Lewis, ar ei wraig, Gwenllian Lewis yn Merthyr Tydfil, dydd Sabbath, y 4ydd o Ionawr, 1857 Merthyr: T. Howells, argraffydd. OWEN GRIFFITH (Twain Meirion). Mawl-gan am y Diwygiad crefyddol trwy Dde a Gogledd Cymru. Argraff- wyd gan I. Jones, Tremadog. Ymddiddan rhwng Robert ac Evan yn nghylch ymadael a'u gwlad a myned i'r America. Llanidloes: John Pryse. Can newydd o hanes merch i wr bonheddig a roes ei serch ar arddwr ei thad Llanrwst: argraffwyd gan J. Jones. ABEL JONES (Bardd Crwst). Can alarus yn dangos y modd y rhedodd y Mail Packet i'r Hong haiam, Excelsior gerllaw Llynlleifiad, ddydd Sul, Gorphenaf 6ed, 1856. Galargan am y ddamwain ofnadwy a ddygwyddodd yn Ngwaith Glo Pendwll, yn ardal Brymbo, ger Gwrecsam pryd y collwyd 13 o fywydau dynol trwy ddwfr, dydd Mawrth, Medi 30ain 1856 EVAN GRIFFITHS (Ieuan o Eifion). Can newydd er coffadwriaeth am 108 o weinidogion yr Efengyl pa rai sydd wedi myned o wlad y cystudd mawr. Agnes fechan. E. Griffiths, argraffydd, Abertawy. Can newydd y fllangell i falchder oblegid bod y merched yn gwisgo cylchau o fewn eu peisiau, gan geisio gwneuthur eu cyrff yn harddach a rhagorach nag y lluniwyd hwy gan y Creawdwr hyd nes yr ymddangosant fel casgenau symudol yn dwyn flower pots ar eu penau gweigion disynwyr. Wfft i falchder 1 Galarus goffadwriaeth am y ddamwain ddychrynllyd a gymerodd le yn ngwaith glo Bryn Coch, ger Castellnedd, swydd Morganwg, ar y 6ed o Ebrill, 1859.