Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE JOURNAL OF THE Welsh Bibliographical Society. VOL. VII. JULY, 1951. No. 2. RHESTR 0 FALEDI RHAI 0 BRIF FALEDWYR CYMRU YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG. CYFYNGWYD y rhestr hon i weithiau'r baledwyr canlynol:- Richard Williams (Bardd y Gwagedd), Dafydd Jones (Llany- bydder), Owen Griffith (Ywain Meirion), Abel Jones (Bardd Crwst), Levi Gibbon, Thomas Harries (Trefdraeth ac Abertawe), Evan Griffiths (Ieuan o Eifion), J. W. Jones (Nantyglo), Stephen Jones (Llanfaeryw), Hugh Roberts (Pererin Mon), Edward Jones (Mon), Richard Hughes, Evan Griffiths (Ieuan Cadfan). Cynhwysir enghreifftiau o gyd-awduriaeth. Rhydd argraff deg o gynnwys holl faledi'r cyfnod a gwelir cryfder cymharol apel y gwahanol fathau o faledi yn y dadansoddiad dilynol ohonynt. Rhoddwyd y drefn a'r dosbarth canlynol ar faledi'r awduron: Crefyddol; Gwleidyddol; Materion cartrefol; Materion tramor; Digwyddiadau hynod; Beirniadaeth ddigrif, pleserau; Carwriaeth, helyntion mab a merch; Llongddrylliadau; Damweiniau diwyd- iannol; Cymdeithasol, gwledig a diwydiannol; Llofruddiaethau. Dylid nodi- 1. Bod amryw gopiau o rai o'r baledi hyn i'w cael yn y prif gasgliadau, megis y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor, a Llyfrgell Dinas Caerdydd. 2. Bod copiau o lawer o'r baledi i'w cael mewn casgliadau eraill yn ogystal ag yn y casgliad lie priodolir hwy yn y rhestr hon. 3. Bod mwy nag un ffurf ar deitlau rhai ohonynt. Mater o argraffiad ac argraffydd ydoedd yn fynych. 4. Bod rhai baledi o waith yr awduron hyn yn ddiau