Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE JOURNAL OF THE Welsh Bibliographical Society VOL. III. JULY, 1930. No. 7. Sion Rhydderch yr Almanaciwr, 1673-1735. I. GAN MR. BOB OWEN, CROESOR. Coffadwriaethau llurguniedig ydyw yr oil a draethwyd ynghylch Sion Rhydderch yr Almanaciwr, oherwydd darfod i'w holl fywgraffwyr lygindio wrth y manylion anghywir hynny a geir am dano yn Llyfryddiaeth y Kymry (Gm. Lleyn). Ymlynasai pob ysgrifennydd wrth y manylion a gyflenwesid gan Gwilym Lleyn a Changellor D. Silvan Evans hyd y dyddiau diweddar hyn, a rhyfedd yw gorfod hysbysu y syrthiasai y gwyr hynod hynny, sef y diweddar Brifathro J. H. Davies a'r diweddar Thomas Shankland, M.A. i'r un trobwll, ac er mor ofalus y bu Mr. Ifano Jones, M.A. pan ysgrifennai am dano yn ei lyfr rhagorol ar Hanes y Wasg yng Nghymru a Mynyw, eto tripiodd yntau i rigolau cyfeiliorn. Bwndelau o anghysonderau ydyw popeth a ysgrifennwyd ynghylch ei deulu, a'i ardal enedigol, ac y mae'r hyn a draethwyd am ddyddiadau ei Almanaciau yn anobeithiol o anghywir. Pan gychwynasom chwilio i mewn i'r testun trafod uchod ogyfer a'r Gymdeithas Lyfryddol anymwybodol oeddym o'r ffaith fod y tri wyr enwog uchod wedi delio