Cylchgrawn Cynnar, Helyntion a Heulwen Cylchgrawn cynnar Cymraeg ar gyfer plant yr Ysgol Sul oedd Trysorfa yr leuenctid. Misolyn oedd o a barhaodd o lonawr 1833 hyd Rhagfyr 1834 ac mae yna gopïau cyflawn ohono yn Llyfrgell Prifysgol Bangor ac eithrio rhifynnau Mawrth a Mehefin 1834. Josiah Thomas Jones oedd argraffydd y cylchgrawn, ac mae'n debyg mae ef gyda'r Parchedig William Jones, Amlwch, oedd yn gyfrifol am ei gyhoeddi, a bod William Jones yn ei olygu. Roedd Josiah Thomas Jones wedi cyrraedd Caernarfon erbyn gwanwyn 1828, mi fu yn y dref am wyth mlynedd, a hanes ei yrfa dymhestlog ar lannau'r Fenai ydi cynnwys y geiriau hyn. Fe ddaeth i Gaernarfon i olynu William Jones yn weinidog eglwys Pendref, stryd Bangor, capel elegant sydd bellach gyferbyn â llyfrgell y dref ac ychydig is na chapel newydd sylweddol Seilo. Doedd Josiah Thomas Jones ddim yn olynydd uniongyrchol i William Jones fe fu Pendref heb fugail am dipyn ar ôl i'r gweinidog hwn adael y dref am Amlwch yn 1826. Ond roedd y ddau yn cyd-weithio a'i gilydd erbyn 1833 ar rifyn cyntaf Trysorfa yr leuenctid. Roedd y ddau ohonyn nhw'n annhebyg iawn William Jones yn sefydlog fel 'William Jones, Amlwch,' y cai o ei nabod ar ôl symud i'r dref fach honno, a Josiah Thomas Jones yn anniddig a nomadaidd. Fe'i ganwyd yng Nghwmhir Clydau yn nwyrain Penfro yn 1799, a chafodd addysg yn ei gynefin, cyn cychwyn ar ei yrfa symudol, yn pregethu yma ac acw. Wedyn yn eu ugeiniau cynnar fe gasglodd ychwaneg o addysg yn arbennig yn academi Newport Pagnell yng ngogledd Sir Buckingham. Athrofa a oedd yn hyfforddi gweinidogion Anghydffurfiol oedd hon. Roedd gan Josiah Thomas Jones ddigon o Saesneg ar gyfer gofynion yr academi. Roedd ganddohefyd ddigon o Saesneg i ennill calon Rebbecca, merch hynaf Augustus Lines o blwyf Aston Abhotts yn nyffryn Aylesbury yng nghanol y Sir. Roedd ei chartref y 'Windmill Hill Farm' ar godiad tir yn y fro hyfryd hon, gyda bryniau'r Chilterns yn fwclis ar y gorwel. Y mae i'r 'ferch hynaf ryw swyn trist yn llenyddiaeth Saesneg y cyfnod hwn, a lledneisrwydd yn amod pob perthynas a ddeuai i'w rhan hi. Felly y mae rhamant Rebbecca Lines hithau a'i llythyrau yn llawenhau am Iwyddiant Josiah Thomas Jones yn y weinidogaeth yn ôl yn sir Benfro, a'r Ilythyrau yn raddol, yn ofalus,/yn tyfu i fod yn gan Maldwyn Thomas TBYSORFÄ YR IEUENCTID ddatganiad o serch. Y mae ei diddordeb byw yn ei waith yn dwysau ar ôl i'w hanwylyd symud i Gaernarfon a chael ei sefydlu yn weinidog ar eglwys Annibynnol Pendref yng ngwanwyn 1828. Mae Cymru a Chaernarfon mor bell o erwau Aston Abbotts: 'Do the people at C on in general speak English and are the forms and customs much the same as in this part of the country?' yw cwestiwn mawr ei llythyr ar 4 Awst 1828, ddeuddydd cyn sefydlu Josiah Thomas Jones yn weinidog Pendref. Ei sefydlu mewn seremoni rwysgfawr a Williams o'r Wern yn amlwg ymysg y pedwar ar ddeg o weinidogion a fu'n arwyddo tystysgrif ei sefydlu. Yn ystod yr un amser yr oedd Rebbecca Lines hithau yn brysur wrthi'n potelu ffrwythau yng nghegin y fferm yn Aston Abbotts ac yn pacio anrhegion ar