Mi ydw i wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i hanes sefydlu'r Ysgol Sul yng Nghymru a naturiol ddigon oedd dechrau lloffa am wybodaeth o gwmpas diwedd y ddeunawfed ganrif. Ymhlith amryw o wyr amlwg y cyfnod hwnnw mae Morgan John Rhys (Morgan Rees, Morgan ab loan Rhûs neu Morgan Shôn Rhees i roi'r amrywiol enwau arno.) Bedyddiwr (a dyna blesio'r Golygydd!) oedd ymhell o flaen ei oes, a gefnodd ar Gymru ym 1794 a throi ei wyneb tuag America ac yno arhosodd hyd ei farwolaeth, yn bedair a deugain oed, ym 1804. Pigion o'i Yrfa Cyfnod difyr a dadlennol oedd ei ddeng mlynedd yng Ngogledd America. Yno sefydlodd wladfa Gymreig a'i henwi'n Cambria ac yn y brif dref, Beula, sefydlodd ysgol, llyfrgell ac eglwys Gristnogol lle câi pobl 0 bob enwad gydaddoli a chyd gymuno a chred yr aelodau yn syml oedd: Iesu Grist yn ben, aelodau yr eglwys i gredu ynddo a dysgeidiaeth y Testament Newydd i'w rhwymo'n frawdoliaeth. Casglodd Rhys yr ymfudwyr o bob enwad at ei gilydd i sefydlu'r eglwys newydd hon a'i henwi 'Yr Eglwys Gristnogol.' O am weledigaeth Morgan John Rhys yn y Gymru grefyddol y dyddiau hyn! Ond mae a wnelo ni yn yr erthygl hon â chyfraniad Rhys cyn ei ymadawiad i'r wlad bell. Cyn iddo gael ei ordeinio'n weinidog gyda'r Bedyddwyr dywedir ei fod wedi agor ysgol rad i blant ei ardal rhwng 1780 a 1786. Yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd bregethu ac iddo ar 23, Awst 1786 ddechrau ar gwrs mewn diwinyddiaeth ym Mryste. Blwyddyn union yr arhosodd yno; ac yn ôl pob hanes gadawodd y Coleg heb ganiatâd a mis Hydref y flwyddyn honno fe'i hordeiniwyd yn weinidog eglwys Pen- y-garn ger Pont-y-pwl. Byr fu ei arhosiad yno hefyd, ac o fewn cwta bedair blynedd roedd wedi gadael Cymru am brifddinas Ffrainc. Ymhen chwe mis dychwelodd i Gymru gan deithio'r wlad gan Huw John Hughes benbaladr yn sefydlu cymdeithasau er mwyn codi arian i argraffu Beiblau Ffrengig. Canolbwyntiwn yn awr ar ei gyfnod byr yng Nghymru cyn ymfudo i America. Dwy agwedd arbennig o'i genhadaeth yn ystod y cyfnod hwn oedd ei gynyrchiadau a'i deithio mynych ledled Cymru yn pregethu a darlithio. Mae'n bur debyg mai cyhoeddi'r 'Cylchgrawn Cymraeg' oedd antur fwyaf Morgan John Rhys yma yng Nghymru. Cyhoeddwyd pump rhifyn a rheiny yn ymddangos o dair gwasg wahanol. Ymhob rhifyn ymdriniwyd â phynciau'r dydd heddwch, rhyddid crefyddol a gwleidyddol, masnach, addysg a'r genhadaeth dramor. Ond nid yn unig y trwm a difri geid o fewn y tudalennau ond hefyd erthyglau ar fyd natur, hanes dyn gwyllt y coed (Ourang-Outang) a'r morgrug rhyfelgar, ambell ddarn o farddoniaeth ac yn wir ambell jôc. Dyma un ohonyn nhw yn y rhifyn cyntaf: Offeiriad yn gofyn i actor pam fod y chwaraedai'n llawn a'r eglwysi'n wag. A'r ateb, "Canys yr ydym ni yn gosod y pethau nad ydynt, fel pe byddent, ond pan fyddoch chi'n pregethu, yr ydych yn gosod allan y pethau sydd fel na byddant." Daeth hon o rifyn Chwefror 1793. Sut y byddech chi'n pwyso a mesur pregeth dda? Dyma'r hyn a gawn yn rhifyn 5 (Ionawr, Chwefror 1794) "Mae pregeth dda yn cyffroi'r serchiadau, yn goleuo'r deall yn hyfforddi'r meddwl, yn rhwymo'r ewyllys, ac yn argyhoeddi'r gydwybod, yn meithrin ein rheswm, yn sefydlu gwirioneddau yn y cof, yn bywhau, yn cynhyrfu'r serchiadau, ac yn eu tywys i'w iawn ddefnydd, mewn edifeirwch a gwir dduwioldeb, yn arfogi'r holl enaid yn erbyn pechod, yn cryfhau ffydd, ac yn annog i gariad a gweithredoedd da, yn cysuro a bywhau'r golau yn erbyn y diafol, y byd ac angau, ac yn cyfoethogi'r enaid â gwybodaeth ysgrythurol trwy'r ysgrythurau, wedi eu heglurhau'n ddoeth a hardd. Dyma fy marn i am bregeth dda." Wn i ddim beth ydi ymateb cynulleidfaoedd Cymru i eiriau fel hyn ond yn sicr mae'n codi braw ar y rhai sy'n esgyn i bulpudau, coeliwch fi! Ei weledigaeth A dyma ddod at ei sylwadau yn y "Llythyr at y Cymry oddi wrth Oruchwylwyr y Cylchgrawn Cymraeg." Mae'n mynd ati i ofyn cwestiynau rhethregol ac mae'n werth eu nodi: "Paham y mae'n rhaid i'r Cymry fod fel caethion.a phaham na byddem yn ymdrechu i gael gwybodaeth o ddynion a phethau yn ein hiaith ein hunain? Paham yr ydym yn fwy ynfyd nag un genedl arall trwy ymarferyd y ffordd wrthyn o ddysgu ein plant mewn iaith estronol cyn dysgu iaith eu mam yn gyntaf? Y mae hyn wedi bod yn foddion i wneud miloedd o'r Cymry yn fwngleriaid anwybodus hyd y dydd hwnnw, fel y mae profiad alaethus yn dangos yn rhy eglur. Paham, gan hynny, na byddem ni megis un gwr yn dysgu darllen y iaith yr ydym yn ei deall orau." Pan mae'n dod i'r afael â gofynion addysg yn yr ysgolion dyddiol a'r ysgolion Sul mae'n bell o flaen ei oes. Yn ei waith olaf a gyhoeddodd sef 'Anerchiad difrifol i'r Cymry,' gyda'r bwriad i'w hannog i sefydlu Ysgolion Cymraeg i ddysgu plant y tlodion i ddarllen eu Beiblau, mae'n cyfeirio at ei ymdrechion ef ei hun dros addysg 'yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.' (1793) Yn dilyn ei ymdrechion mae'n apelio, ei apêl olaf i'w gyd-wladwyr i: