GWEDDÏO CYMUNO CYMODI Tua thair blynedd yn ôl gofynnwyd imi gynrychioli Cytun ar grwp o dan nawdd Eglwysi Ynghyd yn Lloegr sy'n ymwneud â materion diwinyddol ac ecwmenaidd, a hynny ar draws ystod eang iawn o draddodiadau Cristnogol. Bydd y grwp yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn, ac mae arno gynrychiolwyr o bob rhan o Loegr, un o ACTS (Eglwysi Ynghyd yn yr Alban), a minnau o Gymru. Caiff y prif enwadau i gyd eu cynrychioli, gan gynnwys y Pabyddion, yn ogystal âg eglwysi eraill megis y Lutheriaid, yr eglwysi Uniongred, yreglwys Goptig, Byddin yr lachawdwriaeth, rhai eglwysi duon a IIu o eglwysi llai. Barn y rhai sydd yno yw bod y pynciau sy'n cael eu trafod yn ddiddorol a chyfoes, y cyflwyniadau bob amser yn wybodus, a'r drafodaeth yn oleuedig. Un broblem sydd: sut mae rhannu ffrwyth y trafodaethau hyn o fewn yr eglwysi'n gyffredinol? Gwelais gyfle i wneud hynny'n ddiweddar pan anfonodd Golygydd Cristion neges ataf yn gofyn am gyfraniad. Gan fod Aled yn cael hwyl mor dda ar y gwaith, a minnau wedi cael blas eithriadol ar rifyn cyntaf 2006, sut allwn i ei wrthod? Ar yr un pryd, dyma gyfle euraid i rannu ychydig o'r hyn a roddodd gymaint o foddhad i mi yn nghyfarfodydd TUG (Theology and Unity Group) y llynedd. Nodaf, felly, dri phwnc a gododd yn y cyfarfod diwethaf. GWEDDI AC YMBIL Cyflwynodd Elizabeth Templeton o'r Alban bapur hynod ddiddorol ar gwestiwn gweddi ac ymbil. Er bod yr Arglwydd lesu'n ein cymell sawl gwaith i weddïo'n gyson ac yn daer, gan ein sicrhau mai 'i'r hwn sy'n curo yr agorir y drws', fe erys llawer o broblemau os ydym yn onest â ni'n hunain. Ayw'n iawn ystyried gweddi fel rhywbeth sy'n 'gweithio'? Os ydyw, yna sut fyddwn ni'n ymateb pan nad yw'n 'gweithio'? A yw'n iawn gweddïo, fel y gwna rhai, am bethau materol? Beth wedyn, am ein hymbiliau dros bobl benodol: a oes perygl ein bod yn gofyn am ffafriaeth oddi wrth Dduw ar gyfer ein cyfeillion ni, ein teulu ni, ein sefyllfa ni, ac yn y blaen? 'lntercession cannot be the selective special pleading for exceptional favour for, say, a loved one, while the rest of the world goes to hang', meddai. gan Glyn Tudwal Jones Ymosododd yn bur hallt ar y traddodiad Calfinaidd (a hithau'n Bresbyteriad o'r Alban!), gan gyfeirio at ddysgeidiaeth Calfin ar 'ragordeiniad dwbl' fel cabledd. Beth yw'r ateb, felly? Daw goleuni wrth inni gofio na all yr unigolyn fyth fodoli gerbron Duw heb iddo/iddi fod mewn perthynas âg eraill. Wrth weddïo rydym yn cyfranogi yn Archoffeiriadaeth Crist, a phan fyddwn yn gweddïo dros berson neilltuol sy'n wybyddus inni, dylem ystyried ein bod yn meddwl am y person hwnnw/honno fel cynrychiolydd dros bawb: nid gofyn ffarfriaeth a wnawn, ond cyflwyno'r hyn a wyddom i Dduw yn y ddealltwriaeth ein bod yn gweddïo dros y cyfan. Dyna'n harwain at eiriau gwerthfawr Richard Hooker, y diwinydd Anglicanaidd o'r16g: 'God hath created nothing simply for itself, but each thing in all things, and ofeverything each part in each other have such interest that in the whole world nothing is found whereunto any thing created can say "I need thee not" RHANNU CYMUNDEB A bod yn fanwl, 'Rhannu Cymundeb mewn byd newynog' oedd testun y drafodaeth hon. Nid cyd- gymuno fel y cyfryw oedd y pwnc, er bod cynrychiolwyr y Pabyddion wedi ei gwneud yn gwbl glir droeon ymhle mae'r eglwys honno'n sefyll ar y cwestiwn hwn: cafodd y gwaharddiad ar gymuno ar draws y ffin rhwng Pabyddion a Phrotestaniaid ei gadamhau gan y Pab loan Paul II, ac nid yw pethau'n debyg o newid dan y Pab presennol. Ond y pwnc dan sylw tro hwn oedd agweddau ar ystyr cymuno. Nodaf rai dyfyniadau y mae'n werth sylwi arnynt: 'Cofiwn fod yna filiynau o bobl yn ein byd sy'n cael llai i'w fwyta mewn diwrnod nag y byddwn ni'n ei dderbyn wrth y Bwrdd'. 'Un ymhlith nifer o brydau bwyd a fwytaodd lesu gyda'i ddisgyblion yw Swper yr Arglwydd, felly dylem ei ddehongli yng ngoleuni'r cyfan'.