gan Beti Wyn James Neilltuir un Sul y flwyddyn, ym mis Mawrth, yn Sul y Mamau. Ond beth yw ystyr y Sul hwn i ni? Ymhlith y cyfeiriadau sydd gennym yn llenyddiaeth ein cenedl at Fam, fe gofiwn i Waldo ddweud am ei rieni yn un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, Y Tangnefeddwyr, 'Pa beth heno, eu hystad, Heno pan fo'r byd yn fflam? Mae Gwirionedd gyda 'nhad, Mae Maddeuant gyda 'mam, Gwyn eu byd yr oes a'u clyw, Dangnefeddwyr, plant i Dduw.' Yn ogystal â Moli'r Fam ar ffurf Salm, 'Rhoes yr Arglwydd yn hon angor i deulu ac amddiffynfa i gartref.' canodd W Rhys Nicholas yn hyfryd am ei fam ei hun, 'Bu fyw'n dda, bu fyw'n ddiwyd A lle bu hon, mae gwell byd.' A phwy ohonom nad yw, yn ddistaw bach, efallai wedi llunio cerdd yn ei galon (ei chalon) i'r un a'n magodd ar ei bron ac a siglodd ein crud? Mewn un man yn yr Hen Destament, mae Duw yn ei gyffelybu ei hun i fam trwy ddweud, 'fel y cysurir plentyn gan ei fam, byddaf fi'n eich cysuro chwi' (Eseia 66:13), ac mewn man arall fe gawn bortread lliwgar iawn o'r wraig, neu'r fam, rinweddol 'sy'n fwy gwerthfawr na gemau y mae'n sylwi'n fanwl ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod. Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio, a bydd ei gur yn ei chanmol' (Diarhebion 31). A phan drown at y Testament Newydd fe'n cyflwynir i'r wir fam fedrus a rhinweddol, sef Mair, mam lesu, mam yr edrychir arni yn y traddodiad gorllewinol felpatrwm i bob mam ac yn fodel mamolaeth. Mae'n wir nad ydym ni Brotestaniaid yn addoli Mair, nac ychwaith yn galw arni hi yn ein gweddïau, ond rydym yn ei hanrhydeddu hi, oherwydd trwyddi hi y daeth 'Duwdod mewn baban i'n byd.' Wrth i Elisabeth deimlo'i baban yn llamu yn y groth pan gyfarchwyd hi gan Mair ar ei hymweliad â thy Sachareias, llefodd Elisabeth â llais uchel 'Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth', llef y bu i Sut y Mamau Mair ymateb iddi ar gân yn ei Hemyn o Fawl 'Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd, a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy ngwaredwr. (Luc 1:39-55). Ychydig a wyddom ni am Mair ond, ar bwys yr hyn a wyddom, ni allwn ddim llai na gweld ynddi, yn un peth, ei hufudd-dod, a pheth arall, ei gostyngeiddrwydd. Ei hufudd-dod Pan ddywedwyd wrthi hi gan yr angel y byddai'n esgor ar fab, Mab y Goruchaf 'fe'i cythryblwyd drwyddi' Ac er na ddeallodd Mair yn iawn beth yn union oedd ystyr y cyfarchiad hwnnw, fe ddywedodd 'Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di'. (Luc 1 :38). Ufuddhaodd heb ddeall yn iawn. Ac onid dyna yw ffydd? Cymryd Duw ar ei Air ac ufuddhau iddo ef? O ganlyniad i'w hufudd-dod, daeth Mair i'w hadnabod fel yr Efa Newydd. Anufudd-dod oedd y ddelw ar weithredoedd yr Hen Efa. Roedd y demtasiwn i fod fel Duw yn ormod iddi ei gwrthsefyll, ac fe gymerodd o ffrwyth y pren a'i fwyta a'i roi hefyd i'w gwr. A'r pris a dalwyd, ac a delir o hyd, am bob anufudd-dod tebyg yw doluriau a blinderau'n byd. Ond yn ufudd-dod Mair, yr Efa newydd, daeth gobaith newydd i fyd trallodus oherwydd trwyddi hi fe aned 'Ceidwad a fyddai'n gwaredu ei bobl'. Yr olwg olaf a gawn ar Mair yw wrth droed y Groes, yn gweld ei Mab yn dioddef a marw. Ond fe gadwodd hi y cyfan yn ddiogel yn ei chalon. Mewn ymateb i waith lesu yn bwrw cythraul allan o ddyn mud fe'i cyfarchwyd yn emosiynol iawn,