EHANGA' MRYD ♦ EHANGA' MRYD Cymorth Credwn mewn byw cyn marw a chwarae teg yn cael ei gymryd drosodd gan gwmnïau preifat, masnachol sy'n cael eu rhedeg ar yr egwyddor o wneud elw? Fe ddarganfu pobl Cochabamba yn Bolivia yr ateb, pan werthwyd eu cyflenwad dwr i gonsortiwm preifat o fuddsoddwyrtramor. Ycanlyniad, cynnydd aruthrol ym mhris eudr! Trwy geisio llacio a rhyddhau gwasanaethau y mae'r CMB yn gyfrifol am gynyddu anghyfartaledd. Neu cymerwch wedyn TRIPS, y cytundeb sydd am roi hawl unigryw i berson dros y defnydd a wneir o'r hyn a grëwyd ganddo fe neu hi. Y nod meddir yw diogelu a gwobrwyo dyfeisgarwch dynol gan sicrhau fod ymchwil, arbrawf a darganfyddiadau newydd yn parhau. Ond yn ymarferol y mae'r cytundeb yn amddiffyn busnesau enfawr ym maes biotechnoleg, fferyllol, meddalwedd cyfrifiadurol a.y.y.b. Yn ddiweddar gwelwyd DeAffrica, sy'n ceisio delio â phroblem enfawr HIV/AIDS lle mae'r tlotaf a'r mwyaf bregus yn y gymdeithas yn dioddef, yn gorfod amddiffyn ei hun yn y llysoedd barn yn erbyn achos llys gan 42 0 gwmnïau fferyllol rhyngwladol. Bwriad y cwmnïau hyn yw rhwystro llywodraeth De Affrica rhag pasio deddf fyddai'n caniatáu mewnforio cyffuriau HIV/AIDS, o wledydd lle maent yn cael eu cynhyrchu a'u gwerthu yn rhad. O gael yr hawl i fewnforio'r cyffuriau hyn gellid sicrhau eu bod nhw ar gael i'r mwyafrif nad ydynt yn gallu eu fforddio ar hyn o bryd. Neu beth am y cytundeb amaethyddol Y nod medd y CMB yw gwella mynediad i'r marchnadoedd gan leihau y cymorthdaliadau sy'n ystumio masnach ar hyn o bryd. Ond y gwir yw fod y cytundeb yn cael effaith andwyol ar y nifer sylweddol o ffermwyr bach ar draws y byd. Does gan y gwledydd tlotaf ddim adnoddau i gefnogi eu ffermwyr bach, ond mae'n rhaid iddynt fod yn agored i fewnforion o'r Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd, sy'n Cristnogol para i dderbyn cymorthdaliadau sylweddol. Tra bod miliynau o ffermwyr bach yn brwydro i fyw ar lai na £ 260 y flwyddyn, y mae'r ffermwr o America yn derbyn ar gyfartaledd tua £ 15,000 y flwyddyn a'r ffermwr o Ewrop tua £ 11,500. Pa fath o gystadleuaeth gyfartal a theg yw hyn? Ar ben hynny y mae masnach rydd mewn bwyd yn hyrwyddo ansicrwydd bwyd yn y gwledydd tlotaf, oherwydd fel arfer, yr unig gynnyrch sydd gan y gwledydd hyn i'w allforio i'r gwledydd cyfoethocaf yw cynnyrch amaethyddol. Mewn gwlad fel Kenya, ceir 40% o blant, rhwng 6 ac 16 oed, yn gweithio yn y planhigfeydd coffi, te, pinafal a siwgr, gan dderbyn tua$0.50 am 8 awr o waith. Bwydydd yw'r rhain sy'n cael eu tyfu er mwyn eu hallforio i'r gwledydd cyfoethog, a hynny tra bod tua 4 miliwn o boblogaeth Kenya yn wynebu newyn. Yn ogystal, fe osodir cyfyngiadau llym ar yr hyn y gall y gwledydd tlawd eu gwerthu i'r gwledydd cyfoethog, yn wir y mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif bod y gwledydd tlotaf yn colli tua$700 biliwn y flwyddyn, oherwydd rheolau masnach sy'n cyfyngu ar eu hawl i werthu yn rhyngwladol. Newid y rheolau Does dim dadl fod rheolau masnach ryngwladol yn niweidio miliynau o bobl dlawd, gan gynyddu tlodi byd-eang, yn hytrach na'i leihau. Eisoes mae o leiaf 1,117miliwn o boblogaeth y byd yn byw ar lai na 1$y dydd, ac heb weithredu radical fe all y ffigwr hwn ddyblu o fewn 5 mlynedd! Wrth i fasnach fyd-eang dyfu, gwelwyd dwf hefyd yn y gwahanaieth rhwng cyfoethog a thlawd. Rai blynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd adroddiad ary bwlch rhwng cyfoethog a thlawd, oedd yn cynnwys arolwg o enillion pobl mewn gwledydd gwahanol. Yr oedd Americanwr yn ennill ar gyfartaledd 30% yn fwy na pherson tebyg iddo yn yr Almaen, 40% yn fwy na Siapanead, bron i 50% yn fwy na Phrydeiniwr, ond 5,500% yn fwy na pherson yn Ethiopia! Y mae'r bylchau hyn yn warth ac yn sgandal, ac os na wneir rhywbeth i newid y gogwydd presennol fe fyddant wedi dyblu erbyn canol y ganrif nesaf. Y mae'n rhaid newid rheolau masnach gan wneud delio â thlodi yn brif nod. Dyma mae Cymorth Cristnogol, mewn partneriaeth parhâdardudl9