Gwasgaru a Chasglu Un o'r ymadroddion a gysylltir â'i gilydd fel rheol yw teitl hyn o ysgrif. Ond y mae i'r gair gwasgaru fel ambell air arall fwy nag un ystyr. Ystyr gyffredin y gair yw'r gwasgaru hwnnw sy'n digwydd pan fo'r heuwr yn hau yr had. Fe erys 'crefft gyntaf dynolryw' i'n hatgoffa am ddeddf gyson 'amser hau, a chasglu'r grawn'. Gwyr bob heuwr bod rhaid Iddo feddu gradd helaeth o ffydd, a bod yn barod am ambell siom, oherwydd fel yn Nameg yr Heuwr fe all rhan o'r hâd fethu. Sut bynnag, y mae'n dda cofio bod cynnyrch ffrwyth y tir da yn gorbwyso'r golled a ddigwydd i'r hâd yn y tiroedd eraill yn y ddameg. Cofiwn mai yr un yw'r ddeddf hefyd ym myd y meddwl a'r ysbryd. Bu rhywrai wrthi ar hyd y canrifoedd yn gwasgaru hadau gwybodaeth sydd erbyn hyn wedi ffrwytho er llesâd i'r holl genedlaethau. Gwyddom fod Paul wedi gwneud defnydd arbennig o'r ddelwedd hon wrth egluro'r gwahaniaeth rhwng "hau i'r cnawd, a hau i'r ysbryd." Gwelir hyn yn ei lythyr at y Galatiaid Pennod 5: 16ad; Pennod 6: lOad. Afraid ydyw manylu i egluro bod y mater hwn yn hawlio sylw arbennig, oherwydd y mae canlynladau hau i'r cnawdyn llawer rhy amlwg ysywaeth yn ein cymdeithas fydol ni heddiw. Ystyr arall y gair gwasgaru yw dileu neu ddiddymu yr hyn sy'n rhwystr i unrhyw ddatblygiad ar lefel perthynas ddwyfol a dynol. Ac fe all y rhwystr hwnnw fod ynom ni neu oddi allan inni. Y mae symud y rhwystr yn hawlio hunan-ymholiad gonest a'r parodrwydd i ?difarhau am bob tramgwydd yn ein bywyd sy'n amharu ar bob gwir berthynas. Y mae'n arwyddocaol sylwi ar y iefnydd a wna ein hemynwyr o'r gair gwasgaru wrth ddynt ddymuno bod mewn perthnas gywir â Duw. e. e. "Gwasgara Di'n gelynion trwch, A heddwch dyro inni." (Emyn 245) "Gwasgara weddill pechod cas, Selia fiâ'th rasyn drigfan." (Emyn 249) "GwasgamT few gymylau Oddiyma i dŷ fy Nhad." (Emyn 524) ^hyddhad o afael yr hyn sy'n rhwystr yw bendith rhodio m y goleuni yn ôl Epistol laf, Ioan. Oherwydd "Ymae'r hwn sy'n caru eifrawdyn aros yn y goleuni, acnidoes dim /nddo i faglu neb." (Pennod 2 adn 10.) Y trydydd ystyr i'r gair yw'r gwasganí sy'n ;olygu bod ar chwâl'. Ac efallai nad ydym bob amser yn rmwybodol o'r hyn sy'n oblygedig yn y stâd o fod ar vasgar. Un o'r termau a ddefnyddir heddiw wrth gyfeirio it haen arbennig o'n cymdeithas yw "displaced persons" Y nae y rhai hyn fel rheol yn cynrychioli'r di-gartref rhai ydd heb gyswllt uniongyrchol â chymdeithas, a rhai heb mrhyw nod arbennig i ymgyrraedd ato mewn bywyd. A hasg digon anodd yw eu cynnal mewn sefyllfa Idigyswllt. A'r un modd anodd yw adfer eu perthynas iyd yn oed â'u teuluoedd heb son am eu cyfoeswyr. Fe 11 yr un sefyllfa ddigwydd o fewn y patrwm crefyddol. gan Ieuan Lloyd Cyfeirir yn yr Hen Destament at ddychweliad "gwasgaredigion Israel'. Ac o ddarllen llyfr y proffwyd Eseciel, fe welwn fod y proffwyd yn disgrifio Israel fel rhai a wasgarwyd ar "ddydd cymylau a thywyllwch". Gwelir y darlun yn Pen.34, ac fe gofiwn bod Eseciel fel proffwydi eraill yn llefrau wrth y genedl ar lwybr yr adferiad wedi dyddiau'r argyfwng. Cawn ein hatgoffa gan y Parch Cynwil Williams yn ei esboniad ar Eseciel mai "adrodd a wna Permod 34 am rai o'r pethau positifmae Duw wedi dechrau'u cyflawni er mwyn ei enw da, gofalu, gwaredu, casgluabugeilio. Ygrym y tu cefn i'r meddwl positif hwn yw sandeiddrwydd Duw, a'rcanlyniad, gobaith newydd." (td. 171.) Gwyddom fod ein hamgylchiadau ni heddiw yn wahanol i gyfnod Eseciel, ond y mae'r darlun yn un eitha cyfoes wrth inni fel enwadau geisio ystyried y ffordd ymlaen i gyfeiriad Eglwys Unedig Cyrnru. Efallai na fuasai rhai yn barod i gydnabod eu bod ar chwâl, er bod amryw o'n heglwysi o fewn ein patrwm enwadol yn tueddu i fod ar wasgar erbyn hyn. Gwyddom ein bod ninnau fel Israel gynt yn rhan o ddyddiau'r argyfwng, ac yn dymuno gobeithio gweld gwawr dydd yr adferiad. Y mae Gwenallt yn ei gerdd i'r Esgob William Morgan yn ei ddisgrifio fel un a welodd, "Ei bobl yn eistedd y tu hwnt i derfynau gras, Fel defaid ac wyn ei gynefin yn crwydro ar eu cythlwng Ar y mynyddoedd estron heb ganddynt yr un blewyn glas". Ac er bod digon o'n cyfoeswyr yn feddiannol ar Feibl William Morgan a'r Beibl Cymraeg Newydd, y mae lle i ofni bod y cynnwys yn ddieithr iddynt. Gwyddom bod cyfran helaeth o'n haelodau erbyn hyn yn 'wasgaredig'. Magwyd llawer ohonynt yn swn yr Efengyl. Ond erbyn hyn y maent ar chwâl yn ein dinasoedd a'n trefi, ac fe geir eu gwehelyth hefyd gwaetha'r modd yn ein pentrefi a mannau diarffordd ein gwlad. Yn ystod ein trafodaethau wrth ystyried Eglwys Unedig Cymru bydd rhai o'n syniadau yn debyg o gael eu llywio gan ragfarnau ac opiniynau o bob math. Ond y mae gwir angen i'n gweledigaeth fod yn un eang. Bydd hynny'n gymorth i'n codi uwchlaw fframwaith gul ein cyfundrefnau. Prif bwrpas casglu ynghyd y rhai a wasgarwyd yn nyddiau'r proffwyd Eseciel oedd gwarchod gweddill Israel ar gyfer eu cenhadaeth yn enw eu Duw. Diben Pen Mawr yr Eglwys oedd dod i gyflawni'r genhadaeth honno, a thasg yr Eglwys ar hyd y canrifoedd yw gwarchod a hyrwyddo'r un genhadaeth. Ac mewn byd sy'n dioddef gan rwygiadau o bob math, ac effeithiau adfydus y gwasgaredig rai, y mae gwir angen cryfhau yr undod newydd yng Nghrist. Cofiwn fod Eseciel Pennod 34, yn ernes o'r hyn a gawn yn Ioan Pennod 10, a bod gweddi fawr ein Gwaredwr yn Ioan Pen 17, yn cadarnhau y cyfan. Ac wrth inni ystyried gwir ystyr aberth y Bugail Da, fe welwn mai trwy undod y 'praidd' y gwireddi'r hyn yn llawn. Cadarnheir yr adferiad yn I. Pedr. Pennod 2.ad 25. "Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ondynawrtioesoch atFugaila Gwarchodwreich eneidiau.