GEIRWIREDD Y GAIR Gwelir hynny'n amlwg yn y gyfres hir a chyfoethog o astudiaethau ar themâu diwinyddol a gyhoeddodd o'r 1940au ymlaen. Ymddangosodd gyfrolau ar Gyfiawnhad (1949), Sancteiddhad (1949), Rhagluniaeth (1950), Datguddiad (1951), Person Crist a'i Waith (1952 a 1953), y Sacramentau (1954), astudiaeth eithriadol dreiddgar a ffres ar Etholedigaeth (1955), y Ddynoliaeth (1957), Pechod (1959- 60), a'r Eglwys (1961-3). 'Studies in Dogmatics' yw'r teitl Saesneg, ac o'u cyfrif gwelaf fod pedair-ar-ddeg ohonynt ar fy silffoedd heb sôn am hanner dwsin o gyfrolau eraill o'i eiddo (gan gynnwys copi mewn Is-almaeneg o'i gyfrol gynnar ar Barth (1936) a brynais yn ail-law yn Amsterdam flynyddoedd yn ôl). Yr un gyfrol a fu'n fwyaf o gymorth i mi oedd Holy Scripture (1975). Trwy feistroli'i gynnwys ac mae fy nghopi'n frith o danlinellu a nodiadau ymyl y ddalen -dysgais nad oedd dim rhaid cadw at y math o syniadau rhesymoliaethol ynghylch diwallusrwydd geiriol y Beibl a oedd de rigeur yn y cylchoedd efengylaidd y trown ynddynt ar y pryd, ond bod Duw wedi'i ddatguddio ei hun yn gwbl ddibynadwy trwy ddogfen ddigon dynol ei gwead. 'Byddwn yn euog o gymylu dirgelwch yr Ysgrythur os anghofiwn mai trwy gyfrwng y dynol y daeth Gair cadarn Duw atom', meddai. Ni raid tynnu casgliadau ar dir rhesymeg cyn mentro cyffesu 'Gair ein Duw ni a saif byth'. Ffydd sydd ar waith yma, gyda rheswm yn ei ategu ond nid yn ei reoli. Roedd hyn mor LLYFRAU NEWYDD Aled Jones Williams RHAID I TI FYNED Y DAITH HONNO DY HUN' Gwasn P«»t»t<l,» GWASG CAERNARFON, Ffôn: iachus o wahanol i fethod prennaidd ac afreal B.B.Warfield, J.I.Packer a'r Cymro Gwyn Davies (yn y gyfrol Y Grym a 'r Gwirionedd ) a oedd mor ddylanwadol ymhlith fy nghyfoeswyr colegol chwarter canrif yn ôl. CEISIO A CHAEL Yn 1990 pan oedd yn 86 oed, cyhoeddodd Berkouwer hunangofiant sylweddol o'r enw Zoeken en Vinden ('Chwilio a Chael'). Ni chafwyd cyfieithiad Saesneg hyd yn hyn. Mae'n gyfrol bwysig i'r sawl a fyn ddeall hanes Calfiniaeth yr Iseldiroedd yn ystod y ganrif sydd bellach wedi dod i ben. Ynddo mae'n crybwyll ei ofidiau yn ogystal â'i lwyddiannau, a fel y sylweddolodd fod y syniadaeth sy'n tarddu'n uniongyrchol o waith John Calfin lawer yn fwy agored, goddefgar a chreadigol na'r teip sy'n deillio o waith ei ddilynwyr ac a amlygwyd yn synod enwog yr Eglwys Ddiwygiedig a gynhaliwyd yn Dordtrecht yn 1618-9, sef y synod a roes i ni 'Bum Pwynt Calfiniaeth'. Treuliodd ei yrfa, yn enwedig o'r 1950au ymlaen, i ddadlau o blaid y cymesuredd a'r ysbryd catholig hwn, a defnyddiodd ei feistrolaeth ddigymar o holl fanylion y traddodiad Calfinaidd, i brofi'i bwynt. Bellach mae'n fud, ond bydd ei weithiau cyfoethog yn golofn iddo o hyd a chadernid ei bwyslais yn ysbrydiaeth i'r genhedlaeth sy'n codi fel y bu i wr ifanc delfrydgar ar hyd haf tesog cofiadwy gymaint flynyddoedd yn ôl. o Wasg Pantycelyr RHAID I TI FYNED Y DAITH HONNO DYHUN ALED JONES WILLIAMS. Pris: E4.95 Y LLEW OEDD AR Y LLWYFAN ERYL WYN ROWLANDS COFIO'R ADNABYDDIAETH EDWARD WILLIAMS 1906-1992 O. ARTHUR WILLIAMS O SGREPAN TEITHIWR GWILYM H. JONES