Gan Alwyn Charles y daeth yr ysbrydiaeth. Roeddwn newydd gwblhau fy ngradd BA yn y Brifysgol ym Mangor a'r haf o fy mlaen cyn dychwelyd i'r Coleg Gwyn er mwyn dechrau ar gwrs y BD. Gwyddwn mai'r 'Athrawiaeth Gristionogol am Ddyn' fyddai'r maes ym mlwyddyn gyntaf y cwrs diwinyddol-1976 oedd hi, ymhell cyn sôn am 'iaith gynhwysol' ac ymgyrchoedd y mudiad ffeministaidd ac roeddwn yn awyddus iawn i wybod rhywbeth am y pwnc cyn dechrau ei drin yn swyddogol ym mis Medi. 'Darllenwch Berkouwer', meddai Alwyn Charles, athro Athrawiaeth Gristionogol ym Mala-Bangor (ac un o gymeriadau mawr ei genhedlaeth), pan ofynnais iddo sut y dylwn baratoi yn ystod misoedd yr haf, 'Bydd y cwbl sydd arnoch ei angen yn ei gyfrol e' Felly dyma fi'n gafael yn y gyfrol drwchus Man: the Image ofGodyn y llyfrgell, ei rhoi o dan fy nghesail ac adref â mi i Dreforus er mwyn ei darllen. Haf hirfelyn, tesog oedd yr haf hwnnw haf godidog Eisteddfod Aberteifi a dyna pryd y deuthum i yn un o edmygwyr mawr y diwinydd Berkouwer. GYRFA Ganed Gerrit Cornelis Berkouwer yn yr Hâg, yr Iseldiroedd, yn 1903, i deulu â'i wreiddiau'n solet ym nhraddodiad eglwysig Diwygiedig ei wlad. Athro ysgol oedd ei dad, a maged y mab i fawrygu dysg a duwioldeb, a chredu, fel Calfin da, bod a wnelo sofraniaeth Duw â chynnal gwareiddiad yn ogystal ag achub yr enaid unigol. Astudiodd y clasuron, ieithoedd modern, hanes a mathemateg y 'gymnasium' fel y'i gelwid cyn cychwyn ar gwrs diwinyddol ym Mhrifysgol Rydd Amsterdam, y brifysgol Galfinaidd a sefydlodd y gwladweinydd Abraham Kuyper ac a fu'n gymaint ysbrydiaeth i wyr fel Bobi Jones ac R.Tudur Jones yn ein gwlad ni. Yn ei gyfrol gyfareddol a gyfieithiwyd o dan y teitl A Half Century of Theology: Movements and Motives (1977), mae Berkouwer yn dwyn ar gof y trafodaethau bywiog ymhlith ei gyfoeswyr ifainc yn y 1920au ar gymaint o faterion yn ymwneud â'r ffydd. Gwr o'r enw Valentinus Hepp oedd ei athro diwinyddiaeth, Calfin caeth ei syniadau a rhesymoliaethol ei bwyslais, ond gan mai dyna etifeddiaeth Berkouwer yntau, ni welai ddim o'i le arno ar y pryd. Dim ond yn ddiweddarach y sylweddolodd fod rhaid i ffydd ragflaenu rheswm yn hytrach na fel arall, er mwyn i'r ffydd honno fod yn ddilys Galfinaidd. Perthynai'r athro a'r disgybl i'r Gereformeerde Kerk, sef y gangen Ddiwygiedig a ymneilltuodd oddi wrth yr Hervormd Kerk neu Eglwys Galfinaidd sefydliedig yr Iseldiroedd yn y 19eg ganrif er mwyn gwarchod purdeb y ffydd. Ordeiniwyd Berkouwer yn weinidog pentref yn Ffrislan yng ngogledd y wlad yn 1927 cyn symud yn ôl i fugeilio eglwys yn y brifddinas a'i benodi yn olynydd i Hepp yng nghadair Athrawiaeth Gristionogol y Brifysgol Rydd yn BERKOUWER gan D Densil Morgan 1945. Ac yno yr arhosodd, yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd ei enwad, ei brifysgol a'r eglwys ehangach cynrychiolodd y Gereformeerde Kerk fel ei sylwebydd swyddogol yn Rhufain yn ystod sesiynau Ail Gyngor y Fatican yn 1962-5 gan ymddeol o'i gadair yn 1970. Roedd y Cristion mawr hwn yn llenor toreithiog ac yn ddiwinydd gyda'r praffaf, a bu farw, yn hen wr 92 oed, yn 1996. TORRI EI LWYBR EI HUN Fel dehonglwr o waith Karl Barth y daeth ei enw i sylw rhyngwladol gyntaf. Pan ddilynais ddarlithoed R.Tudur Jones ar syniadaeth Gristionogol gyfoes yn 1973, cynghorodd ni i ddarllen y cyfieithiad Saesneg o De Tríomf Der Genadeneu 'Buddugoliaeth Gras yn Niwinyddiaeth Karl Barth'(1956), sef yr arweiniad gorau a mwyaf treiddgar a oedd ar gael y pryd hynny i feddwl y diwinydd enwog o'r Swistir. Roedd gwaith Barth yn cael ei fawr amau yn y cylchoedd efengylaidd a'i ystyried (gan bobl na ddarllenodd air ohono erioed, am a wn i) yn rhyw fath o ryddfrydiaeth gudd a pheryglus, ond roedd hi'n amlwg fod Berkouwer (fel Dr Tudur) yn ystyried Barth yn gyd- Galfinydd diledryw er gwaethaf y beirniadaethau miniog a wnaeth arno yn ei lyfr o dro i dro. Dim ond yn ddiweddarach y deuthum i sylweddoli fod yr Iseldirwr duwiol a dysgedig hwn yn torri llwybr croes i duedd sgolastig a pholemig ei eglwys ei hun gan fynnu dod â'r Galfiniaeth glasurol i ganol y trafodaethau ecwmenaidd gyfoes. Aeth yn fwyfwy beirniadol o'r rhesymoliaeth anefengylaidd a bwysleisiodd reswm ar draul ffydd, y ddeddf ar draul gras, a theorïau ynghylch diwallusrwydd geiriol yr Ysgrythur ar draul digonolrwydd tystioleth fewnol yr Ysbryd Glân. Nid mater o dynnu casgliadau gwrthrychol ar sail ffeithiau a ddatgelwyd oddi fry oedd diwinyddiaeth iddo, ond yn hytrach mater o ymateb mewn ffydd i'r datguddiad yng Nghrist a hynny yn neinamig pefriol yr Ysbryd. 'He has released theology from the tyr- anny of logic', meddai rhywun, 'and set it within the freedom of faith'