amdano yn llawn (lawr a llofft) mewn oedfaon. Cymynrodd T.E. Jones, i raddau helaeth, oedd y fath hinsawdd ffafriol i egino ynddo. Meistrolodd ei dasg, adwaenai ei bobl yn drylwyr, ac fe'u harweiniai mewn symffoni fawr Gristnogol o weithgaredd cyffrous, digonol a lliwgar ar dro. Er ei fod yn bregethwr grymus a gwefreiddiol, rhagflaenodd ei gynyrchiadau theatraidd ddiwydrwydd anghyffredin ardal Drefach Felindre gyda'i phantomeimiau rhyfeddol o broffesiynol. Sicrhawyd y fath safon drwy harneisio pob math o ddoniau yn union fel y gwnai ein gweinidog ni. Doedd dim son am hurio set bwrpasol rhaid oedd ei llunio a'i chreu yn lleol. Stewart Rees o Drefelin ddaeth â llong Capten Hook i fodolaeth, a'i ffigwr main ef a bortreadai Mephistoffeles; roedd yno Beter Hughes Griffiths ifanc, ifanc, i fod yn gorrach bach, ac roedd William Davies, Penlon, y cynhyrchydd, wedi cael blynyddoedd o brofiad ar lwyfan y Theatre Royal, Drury Lane, a llwyfannau pwysicaf eraill Llundain a'r taleithiau. A gellid ychwanegu, fel Brenin Siam, yn "The King and I": "Et cetera, et cetera, et cetera:" Ychwaneger at hyn oll frwdfrydedd heintus yr ardal yn y cyfnod hwnnw gyda'r Mardi gras lleol! Doedd e' ddim llai. Efallai bod â wnelo iwfforia'r blynyddoedd wedi'r rhyfel rywbeth â'r peth. Nodweddid fy mamgu gan ddwylo medrus (gan gynnwys y ddawn i arlunio) a chan ysfa greadigol, ac roedd carnifal wrth fodd ei chalon. Nid heb reswm y daethai yr holl gyfarpar theatraidd sbâr o gartre'r gweinidog,ar ei ymddeoliad, i storws Tŷ Canol a'i throi yn chwaraedy wrth fy modd innau. Cofiaf imi ymddangos mewn carnifalau fel ty; fel Siani Wynwns, ac fel Sipsi. Buasai wedi bod gyda'm graen yn well o bell ffordd i fod yn bendefig o ryw fath, ond moethusrwydd oes ddiweddarach yw caniatáu i blentyn ddewis beth sydd wrth ei raen. Y gamp, bellach, gyda phlant o bob oedran (o dan gant oed!) yw darganfod beth sydd at eu dant, a rhoi'r cyfle iddynt i fod â rhyw ran mewn cywaith effeithiol i gyflwyno neges sy'n llawer mwy nag y medr unrhyw unigolyn ei ddatgan. Neges y Nadolig a'r Ymgnawdoliad gafodd fy sylw cyson i ar hyd y blynyddoedd. Bûm mor ffodus a chael fy hunan mewn olyniaeth yn digon tebyg mewn sawl ystyr i'r Parchedig T.E. Jones, sef y Parchedig J. Dyfnallt Owen. Yn addas iawn Geraint Elfyn Jones, un â'i wreiddiau ym Mhenboyr, yw cofiannydd Dyfnallt. Bu fy rhagflaenydd disglair a'i briod yn gyfrifol am lawer cynhyrchiad ysblennydd a wnaeth argraff ddofn ar bawb a fu ag unrhyw ran ynddynt, ac mae dylanwad pell-gyrhaeddol gan brofiad felly. Gwir y gosodiad ei bod yn "haws cynnau tan ar hen aelwyd", a bu gan bawb yn Heol Awst, Caerfyrddin, "galon i weithio" gyda chymorth dihafal eglwysi Smyrna, Llangain, ac Elim, Ffynnon-ddrain, yn ein Cyngherddau Nadolig Blynyddol. Dathlwyd chwarter canrif o gynhyrchiadau, Nadolig 1998, gyda 'Scrooge', ac yn ystod y blynyddoedd llwyfannwyd: Wenceslas; stori 'Tawel Nos'; 'Daw Tair o Longau'; Handel a'r 'Meseia'; Nadolig Nantygelynnen; a'r 'Ddinas a anghofiodd am y Nadolig'. Tra mod i'n credu mewn bod yn flaengar, yn ddiymatal ('uninhibited') ac arbrofol, mae'n holl bwysig, ar yr un pryd, diogelu chwaeth ac urddas mewn perfformiad crefyddol fel mewn oedfa. Gwelais arwydd rywdro yn yr eglwys nodedig honno, Santa Maria della Salute, yn Fenis, yn galw am ymddygiad teilwng yna ym mhob ffordd: 'Do not spoil the integrity of the place' meddai'r cyfieithiad Saesneg addas iawn. Mae diogelu dilysrwydd y neges yn holl-bwysig ar bob achlysur. Pwysleisio arwyddocâd arbennig pob un o roddion y Doethion oedd yr amcan blaenllaw mewn un cyngerdd Nadolig. Oedolion oedd yn chwarae'r tri y flwyddyn honno, a chefais fenthyg thuser gan yr offeiriad Pabyddol lleol a chyflenwad da o thus. Bu arogldarthu brwd y dwthwn hwnnw yn un o gapeli Anghydffurfiol mwyaf hanesyddol Cymru, ond nid wyf yn tybio am foment inni "gywilyddio'r tadau yn eu heirch". Ar y Pasg un flwyddyn, wrth bortreadu'r croeshoelio yr oedd rhywun yn yr esgyll yn morthwylio hoelen fawr i bren trwchus. Bu hwnnw'n brofiad crefyddol dwys i mi, ac ni pheidiodd y swn a diasbedain hyd y foment hon. Mewn oedfa neu gyflwyniad y cyweirnod priodol yw parchedig ofn. Dyna pam rwy'n anesmwytho wrth glywed geiriau cyntaf ambell un wrth gyfarch cynulleidfa mor ben- chwiban ar ddechrau oedfa â phetai mewn ffair. Mae yno i arwain cynulleidfa i nesau at Dduw, a 'dyw hynny ddim mor fach o beth ag ef. Nid dyna'r lle i fod yn 'slic' ac yn 'ewn'. Nid unrhyw anniddigrwydd ynglyn â chysegredigrwydd adeilad yw achos yr anwedduster i'm tyb i o guro dwylo mewn oedfa chwaith. Mae 'na ddigon a gapeli yn tebygu i theatr neu neuadd gyngerdd, ond mewn oedfa, dod yno i fawrhau Duw wnaethom ni, ac nid i ganmol ein hymdrechion tila ni ein hunain, ac iddo Ef yn unig y byddo'r gogoniant.