Cyn sicred â'm cred yn offeiriadaeth pob credadun mae'r gred hefyd fod dawn a thalent arbennig i ryw gyfeiriad gan bob aelod o eglwys a phryd bynnag y gellir harneisio'r doniau yma i gyd mewn cywaith er gogoniant i Dduw, pwy fedr osod terfynau ar y potensial? Dyna'r gred a'r argyhoeddiad a'm symbylodd ers blynyddoedd lawer wrth gyflwyno'r genadwri Gristnogol (ynglyn â'r ymgnawdoliad yn arbennig) drwy ddulliau theatrig, yn Heol Awst, Caerfyrddin. Saif Soar, Penboyr, y capel lle cefais i fy magu, yng Nghwmpengraig, ryw dair milltir i'r ochr ddeheuol (a'r ochr orau!) o Ddyffryn Teifi. Pan godwyd y capel presennol ym 1895 gwnaed rhywbeth hynod ddoeth, peth digon syml ac ymarferol, ond anarferol iawn hefyd, am ryw reswm. Yn hytrach na'i ddymchwel, cadwyd yr hen gapel i'w ddefnyddio fel festri helaeth. Yn ddiweddarach dilewyd ei ffrynt nodweddiadol (y pulpud a dau ddrws a ffenestri bob ochr iddo) a chodi 'bloc' yn cynnwys llwyfan pwrpasol gyda llenni helaeth a goleuadau godre. Dyma theatr fach i ryfeddu, ymhell cyn bod sôn am yr adeiladau eglwysig amlbwrpas a ddaeth oes yn ddiweddarach, gan dybio, fel gyda chynifer o bethau eraill, fod y syniad yn wreiddiol newydd. Ar estyll y llwyfan hwnnw y rhwygodd fy nhroed (draean ei maint presennol) 'urddas benthyg crand' y 'dressing-gown' gwychaf a wisgodd un o Ddoethion y Dwyrain erioed; yno fel y Barwn Owen y syrthiais yn gelain wedi sgarmes ffyrnig â chleddyfau gydag un o Wylliaid Cochion Mawddwy; ac yno y bu bron imi chwythu ffiws fy ymennydd pan drois stethosgop Nyrs Luke, Henllan, at y dorf afieithus, yn hytrach na'i anelu, fel doctor da, at fol plastig babi Hillary Angorfa. Doedd gweithgareddau Thesbiaidd LLWYFANNU'R GENADWRI gan J. Towyn Jones o'r fath yn gysylltiedig ag eglwys yn y cyfnod hwnnw (ac a oedd yn gymaint rhan o'm magwraeth) ddim mor anghyffredin â hynny, ond prin fod y rhelyw o'm cenhedlaeth wedi etifeddu y fath theatr fach ddelfrydol at iws capel i berfformio ynddi. Ysgogydd a sylfaenydd y cyfan oedd yr hen weinidog annwyl, i mi, yr anghymarol Barchedig Thomas E. Jones, pregethwr huawdl a theimladwy, gweinidog na fu ei well, cynhyrchydd sioe gerdd a drama, yr oedd heb ei ail yn ei alwedigaeth. Fûm 1 enoea yn greaaur emosiynoi iawn, ond pan ddaeth fy nhad adref un nos Sul pan own i'n saith mlwydd oed â'r newydd fod T.E. Jones yn ymddeol ac yn mynd o Soar, fe lifodd fy nagrau yn ddi-atal, ac ni fynnwn fy nghysuro. Mi roddwn lawer am fedru credu y buasai rhyw blentyn o'r fath â chymaint o hiraeth ar fy ôl i. A ydwyf, efallai, yn gwybod, y rheswm, ond yn amharod i dalu'r pris llawn? Pa weinidog arall o'i genhedlaeth sych-bruddaidd a fuasai'n ddigon rhydd-freiniedig i rowlio chwerthin pan ddywedais rywbeth wrtho unwaith a ystyriai fy mam (wedi'r llys cangarw byrraf yn hanes dynoliaeth) yn drosedd a haeddai 'solitary confinement'? Pwy fu'n gyfrifol am roi'r powdwr i mewn, wn i ddim, ond y fi saethodd yr ergyd ar foment strategol. Gwyr y cyfarwydd (fel y dywedent slawer dydd) am wreiddioldeb Dafydd Ifans, Ffynnon- henri (1778-1886; aeth ei gofiant gan Myfyr Emlyn i lawer argraffiad), a pha mor agos at y pridd oedd ei ymadroddi yn aml. Un diwrnod, wedi cael digon ar blagio T.E. Jones (ac yntau ar ymweliad â'm cartref; petawn yn ysgrifennu yn Saesneg, 'visitation' fyddai'r term a ddefnyddiwn) am gael fy nghlywed yn adrodd, rhedais i ris drws y gegin orau. Yno gwaeddais arno fersiwn Ffynnon-henri o'r hyn a waeddodd Moses ar Pharo wedi iddo groesi'r Môr Coch (ac os oedd Dafi Ifans yn iawn efallai mai dyna sut y cafodd y lle yr enw!) Gwyddai fy ngweinidog goleuedig yn dda am ffraethineb chwedlonol y gwladwr o Fedyddiwr o ardal gyfagos ac o'r oes o'r blaen, a gwnaeth ymdrech arwrol i amddiffyn bachgen direidus rhag erlyniaeth a barn! Digon tebyg y buasai'r mwyafrif o'i safle wedi "ffromu yn aruthr" ac wedi ymateb yn debycach i'r brenin yn yr hanes nag i'r sawl a aned, ond T.E. Jones oedd hwn. Gwr â'i ddirnadaeth yn ddyfnach o dipyn na'r cyffredin, a'i fedrusrwydd yn amlochrog oedd ef, a phetai wedi cael y clod haeddiannol buasai wedi ei ddyrchafu yn un o gardinaliaid yr Annibynwyr. Cododd chwech ohonom i'r weinidogaeth, a pha ryfedd hynny oblegid roedd yn trin pob bachgen, am a wn i, fel darpar weinidog, gan roi tasgau bach bob hyn a hyn i hybu'n datblygiad. Mae capel Soar o faintioli sylweddol ac er nad wyf finnau yn hen, cofiaf yn dda