Siaradais yn ddiweddar â rhywun a oedd wedi dechrau ei "daith" Gristnogol fel Annibynnwr ond wedi symud at y Presbyteriaid ar ôl briodi. Dywedodd nad oedd wedi sylweddoli bod llawer o wahaniaeth rhwng y ddau draddodiad nes ei fod wedi cael ei dderbyn fel blaenor a dechrau darganfod trefn ei enwad newydd. Yn wir yn yr eglwysi "anghydffurfiol" Cymraeg, rydym yn rhannu ein pregethwyr ac yn dilyn yr un patrwm addoli â'n gilydd. Pe basech yn dechrau holi ein haelodau am eu cred, byddai'r gwahaniaethau o fewn pob enwad efallai yn fwy amlwg na'r gwahaniaethau rhyngom. Ein trefn Eglwysig yw'r agendor amlwg ac efallai dyna pam y mae'r rhan fwyaf o'r ddogfen "Y Ffordd Ymlaen" yn delio â'r strwythur. Ychydig dros dwy dudalen sydd i'w wneud ag "Athrawiaeth". Serch hynny, y tu ôl i bob trefn enwadol y mae diwinyddiaeth. Mae cymeriad pob enwad yn ganlyniad cydadwaith cymhleth rhwng ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a chrefyddol. Mae gan bob enwad ei bwyslais, ond faint o'r aelodau bellach sydd yn gwybod beth yw eu pwyslais arbennig nhw? Beth sydd ei eisiau mewn enwad unedig newydd yw dull newydd i'n athrawiaeth sy'n adlewyrchu ein hanes diweddaraf, ein cymdeithas ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, a'r datblygiadau crefyddol diweddaraf. Trafodaeth agored a gonest ar bob lefel o'r eglwysi sydd ei heisiau er mwyn i ni ddod o hyd i'r athrawiaeth i'n huno. Yn y trafodaethau ar lefel enwadol yr ydym wedi trin a thrafod nifer o faterion, a thrwy'r drafodaeth wedi dod yn agosach at ein gilydd fel pobl, ond yn gorfod cydnabod gwahaniaeth barn sylweddol ar rai bwyntiau. Cynigir yn awr i'r eglwysi lleol (yn unigol, ond yn fwy pwysig ar y cyd) Eglwys Unedig Cymru Yr Athrawiaeth Pamela Cram y cyfle i gael yr un fath o drafodaeth a'r un fendith. Y cwestiynau mwyaf sylweddol efallai yw "Beth yw "eglwys"?", "Beth yw ystyr bod yn aelod", a "Beth yw gofynion Duw i ni heddiw ar ran cenhadu a gwasanaethu?" Beth yw "Eglwys? Mae rhai yn meddwl am "eglwys" yn fwy mewn termau'r gynulleidfa leol ac felly yn tueddu i drefnu eu bywyd eglwysig yn "gynulleidfaol". Mae eraill, er yn cydnabod pwysigrwydd y grwp lleol o Gristnogion, yn gweld yr eglwys mewn termau ehangach o lawer yn fyd-eang (ystyr y gair "catholig" yn y credöau). Maent yn tueddu i ymddiried awdurdod a chyfrifoldeb i'w cyrff taleithiol a chenedlaethol. Mae'r gwahaniaethau hyn hefyd yn effeithio ar ein trefn ordeinio a chyflogi gweinidogion, cydnabod pregethwyr lleyg ac awdurdodi'r rhai a fydd yn gweinyddu'r Cymun. Yn gysylltiedig â'r cwestiwn am natur yr eglwys yw ein dealltwriaeth diwinyddol o'r weinidogaeth. Mae'n debyg y byddai'r enwadau dan sylw i gyd yn pwysleisio "offeiriadaeth yr holl saint", ond beth a ydy ei ystyr? A ydy yn golygu bod pob Cristion yn gyd- radd ac y gall unrhywun wneud y pethau y mae'r gweinidog yn eu gwneud? Neu a ydy'n golygu ein bod ni, y cwmni o Gristnogion gyda'n gilydd, i gyflawni ein gwasanaeth i Dduw trwy roi i rai yr awdurdod a'r fraint o wneud tasgau arbennig ar ran pawb, gan gynorthwyo ein gilydd ac ymgynghori ymhlith ein gilydd fel "corff Crist" yn y cyd-destun lleol. Dydy'r ddau safbwynt ddim o angenrheidrwydd yn gwrthddweud ei gilydd, ond y maent wedi arwain at berthynas wahanol rhwng gweinidog a'r bobl yn ein gwahanol draddodiadau. Beth yw ystyr bod yn aelod yn yr Eglwys? Yma eto y mae gwahaniaeth sylweddol ymhlith yr enwadau, yn arbennig ynglýn â bedydd (sacrament mynediad i'r Eglwys). Y mae'r cymalau yn ei gylch yn "Y Ffordd Ymlaen" wedi cael eu newid nifer o weithiau yn ystod y trafodaethau, heb ddod o hyd i "fformiwla" a fyddai'n dderbyniol i bawb. Y mae'r argoelion presennol yn awgrymu y bydd bedydd plentyn yn mynd yn llai cyffredin yn y dyfodol, wrth i'n cymdeithas golli cysylltiad â'r grefydd Gristnogol. Felly y bydd y ceisiadau am fedydd credinol yn cynyddu ar draws yr enwadau. Mae tri o'r partneriaid llawn yn y trafodaethau yn bedyddio plant neu gredinwyr, er y byddai rhai heb ganiatáu i rywun a fedyddiwyd yn blentyn gael ei ail- fedyddio, yn dadlau y byddai caniatáu i hynny ddigwydd yn tanseilio'r honiad bod bedydd plentyn yn ddilys. Mae eraill yn dadlau ei bod yn anodd, yn fugeiliol, gwrthod bedydd i oedolyn newydd ei ffydd os taw dyna ei ddymuniad. Unwaith eto mae athrawiaeth sylfaenol y tu ôl i'r ddadl a ydy gras Duw yn rhagflaenu edifeirwch a ffydd, neu a ydy ein penderfyniad dros Crist yn agor y drws i'w ras yn ein bywydau?