'Dawn Môn' gan Emlyn Richards Hawliodd pregethu a phregethwyr le amlwg yn 'hanes' Môn yn y ganrif dd'wethaf fel y dengys E.A. Williams yn ei lyfr 'Hanes Môn'. Ymffrostiai Môn yn ei phregethwyr yn fwy na neb. Mae'n debyg nad oes unrhyw ran o Gymru a gododd fwy o bregethwyr a chymaint o'r rheini yn bregethwyr mor amlwg a phoblogaidd. Bu'r Ynys yn dynfa i bregethwyr o'r tu allan hefyd, rhai fel John Elias a Christmas Evans a oedd yn arweinwyr eu henwad. Gyda'r holl fri ar bregethu mae'n naturiol i'r pregethwyr gael eu dosbarthu ar gyfrif eu doniau. Daethpwyd i adnabod pregethwr wrth ei ddawn. Ceir cyfeiriadau at ddoniau gwahanol rannau o'r wlad dawn Arfon, dawn Llyn, dawn Sir Gaer a dawn Dolwyddelen, ond 'dawn Môn' oedd yr enwoca, a'r ddawn a fu byw hwyaf. Bellach fydd neb yn sôn am y doniau eraill a nodwyd, ond clywir o hyd gan rai ar Ynys Môn sôn am 'ddawn Môn', gan restru'r pregethwyr hynny a gysylltid â'r ddawn arbennig honno. Nid rhyfedd i bobol o'r tu allan i'r Ynys dueddu i fod yn sbeitlyd ohoni! Ar ei ymweliad â Choleg y Bala fe holodd Pulston Jones un o'r myfyrwyr yn ddigon coeglyd "Oes ym lawer o ddawn Sir Fôn tua'r Coleg yma rwan"? Mi fydd rhai yn amau a oedd y fath ddawn, unigryw i Fôn, yn bod o gwbwl. Credai Tudur Jones mai gwedd ar 'yr hwyl Gymreig' yw 'dawn Môn' gyda'r lled- ganu a chwafro'r llais yn felodaidd, ac iddi ymddangos pan oedd tanau mawr y Diwygiad Efengylaidd yn oeri. Mae peth gwir yn hyn, yn siwr, ond nid y gwir i gyd. Gan mai eco yn y gorffennol yw'r ddawn hon bellach, y mae'n anodd iawn rhoi disgrifiad ohoni ar lafar neu mewn print. Er mor sefydlog fu ymgais Cofianwyr da fel Owen Thomas a Hugh Jones i gyfleu rhin pregethu mawr Cymru yn y ganrif ddiwethaf, eto ni lwyddodd yr un o'r ddau i atgyfodi cyfaredd llais nac angerdd ysbryd John Jones, Talysarn na William Roberts, Amlwch. Yr oedd y Dr Hugh Williams, Amlwch yn gryn awdurdod ar'ddawn Môn' ac fe ysgrifennodd erthyglau amdani yn y Drysorfa (1942). Yn ôl Hugh Williams yr oedd i'r ddawn hon bum nodwedd, y nodwedd gyntaf yw arafwch a phwyll. Yr oedd y nodwedd yma yn amlwg iawn yn rhai o bregethwyr dawnus Môn ac yn rhai o'r gweddiwyr. Fe ddywed R.R. Hughes am ddawn Môn mai dawn i siarad yn soniarus, heb frys na rhuthr ydyw. Lleisio, yw'r ail nodwedd y sonia Hugh Williams amdani gan y siaradai pregethwyr Môn yn hynod o yddfol gyda llais dyfnach a thrymach na phobol y tu allan i Fôn. Yna aiff yr awdur ymlaen i gyplysu tair nodwedd â'i gilydd gwres, dwyster a deigryn. Y mae'r rhain yn nodau amlwg yn nawn Môn yn ôl Hugh Williams, er y ceid y nodau hyn yn nawn Sir Gaer hefyd. Yna, fe gyfeiria'r Dr at y bedwaredd nodwedd sef tonyddiaeth felodaidd. Dyma'r nodwedd amlyca a berthyn i'r ddawn, a nodwedd nas ceir i'r un graddau mewn un ddawn arall. Yr ydym yn ddyledus iawn i Hugh Williams am ddangos inni rai o'r nodau a berthynai i 'ddawnMôn'. Ar sail y nodau hyn mi fyddo'n haws adnabod y pregethwyr a oedd yn ei harddel a'i harfer. Ond ni ddylid cyfyngu'r ddawn hon i'r pregethwyr a'u pregethu. Byddai rhai o'r blaenoriaid yn eu gweddïau yn medru canu'r 'ddawn'. Fe gaent hwy gyfle beunyddiol i ymarfer y ddawn mewn gwasanaethau teuluaidd, yn enwedig ar ffermydd Môn. Gresyn na fyddai mwy o atgofion am y gweddiwyr cyhoeddus hyn. Fe gred rhai y byddai'r Dr Thomas Williams, Gwalchmai yn felysach yn gweddïo nac yn pregethu. Ond, heb os, y 'ddawn' o'r pulpud a gyfareddodd y Werin ym Môn. Ond paham 'dawn Môn'? Yr ateb naturiol, mae'n debyg, am ei bod yn perthyn i Diriogaeth arbennig. Mae Ynyswyr yn fwy tueddol o gredu y perthyn iddynt rhyw nodweddion nas ceir yn unman arall. D'yw hyn ddim mor wir am bobol Môn ag a fu yn y gorffennol. Ond fe berthyn i'r bobol sy'n byw yn y diriogaeth a elwir Ynys Môn rhyw nodweddion arbennig. Y mae gan Hugh Williams, Amlwch ddisgrifiad da o bobol Môn "Nodwedd amlwg trigolion Môn yw arafwch. Symudent yn araf a phwyllog gyda phob peth. Anfynych iawn y gwelir llawer o arwyddion prysurdeb a phwdan rhyw hamdden a phwyll a'u nodwedda ym mhob cylch. Araf y siaradant, araf y cerddant ac nid cyflym iawn y meddylient ac y deuent i benderfyniad ynglyn ag unrhyw beth". A pha ryfedd o gofio mai amaethwyr oedd yr helyw o bobol yr Ynys yn oes y pregethwyr mawr. Gwlad amaethyddol fu Môn er yn gynnar yn y ganrif dd'wethaf. Yn ôl Elizabeth Ann Williams eto, a rydd ddwy bennod helaeth i 'amaethyddiaeth' yn ei 'Hanes Môn' y ganrif dd'wethaf, prif ddiwydiant yr Ynys oedd Amaethyddiaeth. Yn ôl y Dr John Owen, Morfa Nefyn "Yn gyffredin cyfrifir yr amaethwr yn ddyn nodedig o bwyllog ac araf. Sieryd yn araf a cherddai'n hamddenol, pa ryfedd ac yntau'n byw beunydd yn agos agos at Natur a'i hamdden dawel urddasol hi." Rhoes John Jones, Talysarn gymeradwyaeth uchel iawn i bobol Môn "nid oes bobol mewn un man yn gosod eu hunain mewn gwell osgo i'r efengyl eu trin na phobol Môn, Elias a Roberts, Amlwch a'u gwnaeth nhw fel yma." Mae'n naturiol fod gan amgylchedd gryn ddylanwad ar agwedd a natur pobol. Cred cymdeithasegwyr diweddar fod effaith ein hamgylchfyd yn fawr iawn arnom. Ond nid i diriogaeth yn unig y perthyn 'dawn Môn', yr oedd hon yn eiddo i ddynion neilltuol. D'oedd y ddawn