Williams) a glywodd a chanu rhai o'i emynau am y tro cyntaf. Ym 1986 ymddangosodd y gyfrol Defosiwn a Direidi sef cerddi dwys ac ysgafn D.R. Griffith wedi'u golygu gan Robin Gwyndaf. Y mae'r rhan fwyaf o'r gyfrol yn nodweddiadol o gynnyrch y bardd-bregethwr a dengys yr emynau a gynhwysir ei ddiddordebau ysgolheigaidd yn y Testament Newydd a hefyd yr angen i gyfansoddi emyn i gyd-fynd â cheisiadau personol neu achlysuron neilltuol. Mae'n debyg mai 'O! Grist Ffisigwr mawr y byd' yw ei emyn gorau, ac yn Defosiwn a Direidi ceir cyfieithiad y bardd ei hun ohono. Unoliaeth thema a delwedd a rydd i'r emyn hwn ei rym a'i apêl. Eiriolaeth ffyddiog y ddynoliaeth am gyflawnder bywyd yng Nghrist y Meddyg Mawr sydd yma yn y sicrwydd y ceir iachâd am bob pechod wrth y groes: Down yn hyderus atat ti, Ti wyddost am ein gwendid ni; Gwellhad a geir ar glwyfau oes Dan law y Gwr fu ar y groes. Heb y waredigaeth honno, ofer ein byw. W.J. Gruffydd Y mae Duw yn Neffror Gwanwyn Mae'r Cyn-Archdderwydd W.J. Gruffydd yn adnabyddus dros Gymru benbaladr. Enillodd y Goron yn yr Eistedd- fod Genedlaethol ddwywaith ym 1955 a 1960, a bu'n Archdderwydd rhwng 1984 a 1987. Bu darllen brwd ar ei straeon 'Tomos a Marged', a phawb yn mwynhau arabedd a naturioldeb y sefyllfaoedd, gan ymserchu yn y ddau. Un o feibion Ffair Rhos gerllaw Pontrhydfendigaid, Ceredigion ydyw, a roes oes o wasanaeth i enwad y Bedyddwyr gan weinidogaethu mewn amryw o ofalaethau. Cyfansoddodd yr emyn 'Y Mae Duw yn Neffro'r Gwanwyn' ar gais gyfansoddwraig y dôn Preseli y cenir iddo fel arfer sef Mrs. Joan Osborne Thomas. Amcan yr emynydd yw portreadu'n delynegol y Creawdwr sydd ar waith yn ei greadigaeth yn ystod pedwar tymor y flwyddyn, gan mai Ef yw awdur y prydferth a'r cain. Mawl yw'r cyfeirnod trwy'r emyn: Dwed yr Haf â'i fwyn diriondeb Am ogoniant mawr yr Iôr; Mae hyfrydwch yn y mynydd Mae cyfaredd yn y môr. Testun moliant nef a daear yw'r prydferthwch tragwyddol rhyfeddol hwn. Tudor Davies 'Cofia'r Newynog, Nefol Dad' Gweinidog gyda'r Wesleaid yw'r Parchedig Tudor Davies. Fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Emynau Cymru ym 1997 er cydnabod ei gyfraniad i'r Gymdeithas honno a'i waith emynyddol. Emyn a gyfansoddwyd adeg Wythnos Cymorth Cristnogol 1971 yw 'Cofia'r newynog', a daeth yn arbennig o boblogaidd ers ei briodi â'r dôn Arizona yn Atodiady Methodistiaid. Daeth y geiriau i'r emynydd yn ddigymell bron un noson a'u trosglwyddo fore trannoeth i gyfaill a sicrhaodd eu cyhoeddi ar unwaith yn Y Goleuad. Da hynny gan fod y geiriau'n gwbl berthnasol i'n hoes, ac yn farddoniaeth goeth, grefftus yn ogystal. Gellir mentro disgrifio'r emyn fel emyn y Samariaid Cyfoes. Yn y pennill cyntaf fe'n hwynebir gan y math o ddelweddau a ddaw atom ar sgrin y teledu ar adegau argyfyngus, enbyd o newyn a sychder pan welwn gyrff â'u hesgyrn yn cnocio rhwng eu croen. Fe'n hatgoffir yn yr ail bennill mai teulu yw'r ddynoliaeth wedi'r cyfan, ac y dylem oll feddu ar drugaredd Duw wrth ymwneud â'n cyd-ddyn. Rhaid i ni gofleidio'n cyfrifoldeb fel Samariaid meddai'r trydydd pennill, ac anrhydeddu'r cyfrifoldeb hwnnw yn ôl y pedwerydd. Daw'r emyn i'w uchafbwynt naturiol a grymus yn y pennill olaf: Holl angen dyn, tydi a'i gwyr, D'Efengyl a'i diwalla'n llwyr, Nid digon popeth hebot ti: Bara ein bywyd, cynnal ni. CYHOEDDIADAU'R GAIR Y Beibl Bach i Blant £ 9.99 Beibl newydd lliwgar ar gyfer y plant lleiaf gyda 64 o storïau. Y Beibl Lliw i Blant £ 17.95 Beibl newydd i blant 7-11 oed (Dorling Kindersley). Y Beibl Graffig £ 17.95 Beibl lliwgar i rai dros 11 oed. Hefyd ar gael erbyn yr Eisteddfod: Y Blynyddoedd Cynnar £ 9.99 Llyfr cofnod ac albwm lluniau ar gyfer 5 mlynedd cyntaf plentyn. Esboniad yr Ysgol Sul gan Alun Tudur: Y Bregeth ar y Mynydd a'r Effesiaid £ 5.95 250 o DEITLAU CRISTNOGOL MEWN PRINT. DEWIS HELAETH o GARDIAU, POSTERI A NWYDDAU AR GAEL. Dewch draw i Babell y Cyngor Ysgolion Sul yn yr Eisteddfod i weld ein llyfrau newydd. Ar gael gan eich siop Gymraeg leol, neu gan y cyhoeddwyr yn uniongyrchol CLUDIANT AM DDIM (catalog llawn ar gael): Cyhoeddiadau'r Gair, Ysgol Addysg PCB, Safle'r Normal, Bangor. Gwynedd. LL57 2PX. Ffôn:(01248) 382947.