Songs ofPraises Welsh-rooted Churches beyond Britain. Jay G Williams III. Gwenfrewi Santes Press, Clinton, New York (1996) $25.00. tt 335. ISBN 0-9629662-3-1. Memory Stones. A History of Welsh Americans in Central New York and their churches. Jay G Williams HI. Purple Mountain Press, Fleischmanns, New York. (1993) $16.50. tt 210. ISBN 0-935796-43-6. CalvinistsIncorporated- Welsh Immigrantson Ohio's Industríal Fron- tier. AnneKellyKnowles. The University of Chicago Press (1997) £ 19.95. tt 330. ISBN 0-226-44853-3. Wales in Ameríca Saranton and the Welsh 1860-1920. William D Jones. University of Wales Press (1993) tt 269. ISBN 07083-1202 NewLivesin the lélley-SJate Çuarríes and Quarry Villages in North Wales, New Yorkand lèrmont. Gwilym R Roberts. New Hampshire Printers, Somersworth, N.H. (1998) £ 15.99 tt 470. Gyda'r newyddion fod Eglwys Unedig Dewi Sant yn Toronto, Canada wedi hysbysebu am weinidog Cymraeg newydd, ar ôl i'r Parch. Alwyn Evans dderbyn swydd yn Aberystwyth, mae'r pum llyfr uchod, a gyhoeddwyd rhwng 1993 a 1998, yn ein hatgoffa o'r llu enfawr o gapeli (ac ambell eglwys) Cymraeg a sefydlwyd gan ein cyd-Gymry ar draws y byd. Mae pedwar llyfr yn astudio ardaloedd bychan lle bu ymsefydliad dwys o Gymry, gyda'r pumed ohonynt yn portreadu capeli sy'n sefyll ar draws y byd. Scanton, Pennsylfania oedd yr ardal bwysicaf o safbwynt y nifer o bobl o Gymru a sefydlwyd mewn unrhyw fan y tu allan i Loegr. Erbyn 1900 roedd 17% o'r holl boblogaeth yr CYMRY'R BYD gan Clive James UDA a anwyd yng Nghymru yn byw yn Scanton a Wilkes-Barr (18 milltir i ffwrdd). Dinas glo a haearn oedd Scanton gyda'r Cymry diwydiannol cyntaf yn cyrraedd yn yr 1850au, gyda gwasanaethau Cymraeg o 1853 ymlaen. Gorllewin y ddinas oedd cartref y rhan helaeth o'r Cymry, yn arbennig ardal Hyde Park, mewn strydoedd gydag enwau fel Price Street, Jones Street, Evans Court, Roberts Court, Edwards Court ac Eynon Street. Ar ôl i'r Bedyddwyr, Annibynwyr a Methodistiaid Calfinaidd sefydlu eu capeli cyntaf yn y 1850au, bu twf yn y cynulleidfaoedd a nifer y capeli. Erbyn 1870 roedd saith capel yn y ddinas, gyda phob un o'r enwadau uchod efo'u prif demlau gyferbyn a'i gilydd yn ardal Hyde Park, pob un gyda seddi ar gyfer dros 800 o bobl. Y prif enwad, oherwydd y mudo 0 ardaloedd diwydiannol de-orllewin Cymru yn bennaf, oedd y Bedyddwyr. Roedd gan bob capel ei gymdeithasau amrywiol, yn ogystal â'r gwasanaethau arferol a'r ysgolion Sul. Fodd bynnag, byr iawn oedd yr oes aur. Sefydlwyd yr achos Saesneg cyntaf ym 1871, gydag aelodaeth y capeli Cymraeg yn cyrraedd eu brig tua 1890. Erbyn degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif roedd y capeli Cymraeg yn dirywio ond bu diwygiad byr ym 1907. Cynhaliwyd gwasanaethau ac ysgolion Sul yn y Gymraeg tan y 1920au, ond erbyn hynny roedd pob un o'r achosion Cymraeg wedi dechrau gwasanaethau Saesneg. Yn ôl "Songs of Praise", cynhaliwyd y gwasanaethau Cymraeg wythnosol olaf ym Methania (MC) ym 1910, ac yn Ebenezer (MC) ym 1952. Bu hanes y mudo yn y 1830au a'r 1840au o ardal Mynydd Bach yn ardal Ceredigion i siroedd Jackson a Gallia yn ardal deheuol talaith Ohio yn un gwahanol. Aethant o ardal wledig i ardal wledig, o amaethyddiaeth i amaethyddiaeth. Y prif wahaniaeth oedd newid statws o denantiaid i berchnogion tir! Methodistiaid Calfinaidd oedd mwyafrif yr arloeswyr. Ym 1836 agorwyd Capel Moriah ynghanol treflan Madison, gyda chapeli eraill mewn patrwm o'i amgylch Horeb (1838), Centreville, Soar, Bethel (i gyd ym 1841), Sardis (1843), a Bethania (1846). Wedyn adeiladwyd Tabor (1848), Oak Hill (1850), Bethesda (1856), Salem (1862) a Pheniel (1870). Roedd y capeli Methodistaidd yn bennaf yn nhreflannau Madison a Jefferson, gyda chapeli'r Annibynwyr a Bedyddwyr ar ymylon y fro Gymraeg newydd, yn bennaf yn y de- ddwyrain. Achosion yr Annibynwyr oedd Ty'n y Rhos ac Oak Hill (1841), Centreville (1843), Carmel (1847), Berea (1850), Nebo (1855) a Siloam (1860). Sefydlwyd cynulleidfaoedd gan y Bedyddwyr yn Ebenezer (1842), Centreville (1844), Oak Hill (1845) a Bethlehem (1869). Bu achos Wesleaidd ac eglwys Anglicanaidd yn Centreville rhwng 1843 a 1845. Tan 1845 roedd y gymuned yn un amaethyddol, ond ychydig i'r de roedd diwydiant haearn golosg yn defnyddio adnoddau lleol haearn, calc, dwr a glo. Gyda dyfodiad y rheilffyrdd i'r fro Gymraeg, roedd posibl ystyried arallgyfeirio 0 amaethyddiaeth. Ondprinder