Y diwylliant arall Ar ôl rhoi cystadleuaeth olaf yr Wyl Gerdd Dant ar dâp (sef y corau yn canu cerdd Mei Mac i'r Trydydd Byd a gweddi Rhys Nicolas dros Gymru yn gyfanwaith grymus) fe'i chwalwyd gan y gyntaf o ddwy raglen, Dan DyDrwyn. Un diwylliant yn chwalu un arall? Beks (Rebekah Walters) oedd yn cyflwyno Dan DyDrwyn fel rhan o Wythnos Atal Cyffuriau. Yr ydym yn gyfarwydd bellach â byw mewn 'diwylliant cyffuriau' a'r diwylliant hwnnw yn rhan o ddiwylliant byd-eang. Yr oedd yn galonogol iawn felly gweld y teledu yn rhoi sylw arbennig i'r Wythnos Atal Cyffuriau gyda'r nod clir o addysgu pob oed, yn rieni a phlant (ac y mae rhai yn rhoi mwy o fai ar anwybodaeth rhieni nag ar yr arbrofi mae 60% o bobl ifanc rhwng 11 15 yn ei wneud) ac i gefnogi pob ymdrech arall (e.e. gan Gyngor Ieuenctid Cymru a Chyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill, Mudiad Hybu Iechyd a.y.b.) Yr oedd y ddwy raglen Dan Dy Drwyn a'r rhaglenni eraill a ddarparwyd gan BBC Cymru/Wales (Know your poison ac eitemau Newyddion ar y teledu a Ra- dio Wales ac eitemau dyddiol ar y ddau bost ar Radio Cymru) yn addysgiadol iawn. Yr un wythnos fe ymddangosodd Howard Marks ar Meca hefyd gan roi lle i'r lleisiau sydd am gyfreithloni rhai cyffuriau. Aeth y rhaglenni o'u ffordd i beido 'pregethu' na 'moesoli'. Addysgu a chynghori oedd y nod. Y mae cyffuriau, boed i arbrofi gyda hwy, neu fel rhan o'r diwylliant cyfoes, i'w cymryd yn gwbwl ganiataol bellach fel ag y mae alcohol wedi bod ers canrifoedd. Yr oedd un gwendid yn rhaglenni'r BBC. Fe gawsom bobl go iawn' yn trafody broblem meddyg, seiceiatrydd, gweithwraig gymdeithasol, swyddog cyffuriau, ac un fam. Ond ni welwyd un person oedd wedi dioddef o effeithiau cyffuriau. Actorion, lleisiau ffug a chysgodion a welsom. Mae rhywun yn deall yr angen a'r dymuniad i fod yn 'anhysbys'. Ond mae'n anodd deall, wrth ymdrin â phwnc mor bwysig, nad oedd yna bobl a fuasai wedi bod yn barod i siarad Barn ar Y Bocs Pryderi Llwyd Jones yn agored. Fe gawsom ddrama awr gan HTV hefyd a'r gwyn fwyaf yn erbyn Knucklehead(a ffilmiwyd yn Am- sterdam, Cairo a Chymru dan gyfarwyddyd Peter Watkins-Hughes o Frynmawr) oedd y dylai wedi bod ar amser cynharach er mwyn cyrraedd rhai ieuengach er mor erchyll oedd ambell olygfa. Nid oes oriau diogel ym myd cyffuriau. Daeth digidol Gan ein bod mewn sefyllfa ryfedd o sôn a thrafod rhaglenni digidol, ond heb eu gweld, cystal i Cristion ymuno yn y drafodaeth!! Y cyhuddiad sy'n cael ei wneud a'r ofnau sy'n cael eu creu, yw y bydd safonau yn gostwng gyda'r angen i S4C lenwi cymaint o oriau. Y ddadl arall yw cofio na fydd neb yn gweld y rhaglenni beth bynnag ac y bydd y safon wedi codi cyn y caiff neb feirniadu. A'r 'arlwy' grefyddol? Mae Elidir yn paratoi rhaglen ddwyawr 0 2.00 4.00 pob prynhawn Sul. Hanfod yw teitl y rhaglen sydd yn cynnwys 40 munud yng ngofal Euros Rhys sydd yn becyn am fawl ac emynau a cherdd ar wahanol themau; deng munud o fyfyrdod/defosiwn; a phecyn newyddion crefyddol byd-eang Mae'r gweddill yn raglen gylchgrawn yn cael ei chyflwyno gan Lyn Davies ac yn delio ag amrywiaeth eang o faterion crefyddol, moesol a chymdeithasol. Mae'n dasg enfawr ac yn gyfrifoldeb mawr. Mae'n gofyn am amynedd a dyfal-barhad gan y rhai sydd ynglyn â'r rhaglenni oherwydd nid oes ganddynt unrhyw sicrwydd fod ganddynt wylwyr!! Efallai y dylid nodi dau beth wrth ddymuno'n dda i griw Elidir: gobeithio na fydd S4C yn sefydlu rhyw 'gornel grefydd' ar brynhawn Sul a gobeithio hefyd nad yw'r cwmni, wrth ddatblygu syniadau newydd, yn mynd i flino cyn y bydd pobl Cymru yn cael gweld Hanfod. Y mae'r angen am raglen gylchrawn grefyddol mor fawr ag erioed. Nos Sul Digidol ai peidio mae Dechrau canu, dechrau canmol yma o hyd ac yn rhoi rhyw stamp arbennig ar nos Sul. Ai doeth ai peidio oedd dewis wyneb cyfarwydd, poblogaidd, diogel Huw Llewelyn Davies i gyflwyno'r rhaglen sydd yn rhywbeth yr oedd Elidir yn siwr o fod wedi ei ystyried yn ofalus. Nid yw'n hollol yr un fath â gofyn i Ina Heno roi sylwebaeth ar gêm rygbi, wrth gwrs, oherwydd nid oes angen arbenigedd i gyflwyno rhaglen grefyddol. Ond os yw rhywun am ddatblygu, neu os yw rhywun am wneud DCDC yn raglen grefyddol fentrus a chyffrous, yna mae angen mwy. Mae Sermons from St. Albions (HTV) wedi sirioli nos Sul yn ddiweddar. Harry Enfield yw'r pregethwr trendi ac mae'r eglwys drwy lygaid Private Eye yn werth cymryd sylw ohoni. Mae'n braf cael dychan grefyddol amserol (cyhoeddi marwolaeth drist News at Ten oedd un o'r cyhoeddiadau ar nos Sul Tachwedd 22ain.) a phwy yn well na chriw Private Eye i wneud hynny? Deg munud o bregeth, deg munud o raglen, ac er nad yw'n taro deuddeg pob tro, y mae'n ychwanegiad sylweddol i nos Sul. Gwaetha'r modd mae'r gyfres gyfredol o Everyman wedi mynd ar ôl pynciau mwy ymylol yn ddiweddar ac y mae'r rhaglen wedi colli ei min a'i threiddgarwch Mae'n werth aros tan tua 10.30 i weld Sermons from St. Albions. Fe wnaiff les i grefyddwyr sydd yn rhy ddwys i chwerthin ac yn rhy feichus i weld gobaith mewn dirywiad. Ond nid yw'n werth aros tan tua hanner nos i weld SundayNight(HTV) Rhaglen gylchgrawn o stiwidio ITV Central ydyw gyda Fiona Philips a Steve Chalke yn cyflwyno. Mae rhaglen awr yn gofyn am adnoddau arianol sylweddol, ond mae'n amlwg nad yw'r adnoddau ar gael. Y canlyniad yw rhaglen ddi-fywyd, os nad arwynebol. Y mae un eitem wythnosol ar ffilm am y Saith pechod marwolac ar adegau mae rhywun wedi cael y teimlad ein bod yn edrych ar deldu dabloid grefyddol! Does na dannedd na chyfeiriad i'r rhaglen ac y mae sylw Blake Morrison am ei brofiad o grefydd ieuenctid (yn ei gyflwyniad i Efengyl loan yn y Canongate Pocket Canons) yn addas iawn: 'fe fysa'r Iesu yma yn fwy tebygol o droi gwin yn ddwr na dwr yn win Gobeithio fod Elidir yn gwneud yn well ar y digidol.