Mae yna ychwaneg rhychwant na RhwngDau Gae (os gwnewch chi faddau'r ymdrech at fwyseirio) rhwng barddoniaeth Waldo a Gwyn Thomas ond mae'r dwys a'r direidus wedi apelio at y ddau fel ei gilydd. O gofio'i fod o wedi cyhoeddi o leiaf ddeg cyfrol o farddoniaeth, nid gwaith hawdd iddo oedd dethol wyth a deugain o'i amrywiol gerddi ar gyfer y gyfrol Gwyn Thomas: Pasio heibio. Mae hi'n anodd iawn meddwl am fardd mwy newydd a chyfoes ei ddelweddau na Gwyn Thomas sy'n ein synnu, dro ar ôl tro, â'r ansoddair annisgwyl a'r 'barddoni fel petaech chi'n siarad' sy' mor nodweddiadol ohono. Mae Pasio heibioyn damaid ardderchog i aros pryd llawnach. Math o lyfr erchwyn gwely ydi Parsel Nadolig: Dewis o bytiau difyr. Meddai'r broliant sydd ar gefn y gyfrol/Bob Nadolig, byddwn yn cael pleser wrth ddadlapio hen barseli ein hatgofion am Nadoligau'r gorffennol, a hynny yng nghwmni'r Nadolig cyntaf un. Yma, ceir pytiau difyr, yn straeon ac englynion, yn draddodiadau a charolau, wedi'u dewis i'w mwynhau o flaen tanllwyth braf yr ŵyl.' Dyna yn union ydi'r gyfrol. Gan fod yna ambell weinidog ac offeiriad yn prynu (neu'n benthyca) Cristion hwyrach dylwn i ychwanegu fod yma ddetholiad hwylus, arall, o ddeunydd ar gyfer sgriptio rhaglenni a gwasanaethau Dolig. Mae Pigion 2000 yn fân lyfrau hwylus 10cm wrth 15cm wedi'u cynhyrchu'n lân a deniadol ac am y pris eithriadol resymol o £ 1.99 y gyfrol. Fel gyda Cyfres y Fil, ddechrau'r ganrif, y bwriad, mae'n debyg, ydi rhoi detholion o lenyddiaeth dda yng nghyrraedd pobl am y pris isaf posibl. Denu ADOLYGIADAU mil o danysgrifwyr oedd bwriad Owen M. Edwards. 'Dwn i ddim beth fydd gwerthiant Pigion 2000 ond gan mai Cyngor Llyfrau Cymrusyn comisiynu'r gwaith mae'n rhaid credu fod yna alw am y gyfres a hynny am fwy nag un rheswm. Harri Parri, Caernarfon CYN DIFFODD Y GANNWYLL Gwenda Richards, 1998, Gwasg Pantycelyn, tt86, £ 4.00 Pleser oedd cael darllen nofel gyntaf Gwenda Richards, a'i chefndir yn ymwneud â dechrau Ymneilltuaeth yng Nghymru a'r Gororau. Cyfnod o aberth a cholli teyrngarwch teuluol i lawer, ac er lleoliad a gosodiad hanesyddol y gwaith, gall fod yr un mor arwyddocaol heddiw y dewis i ddilyn llais cydwybod yn hytrach na llais sefydliad. Mae yr awdures yn amlwg wrth ei bodd efo'r 'genre' hwn, a rhaid llongyfarch Gwasg Pantycelyn am ei chefnogi efo cyhoeddi nofel o'r fath. Myfyrdodau ar ffurf dyddiadur dyddiol a geir yma, ac fe'u hysgrifennir bob nos "cyn diffodd y gannwyll" gan Elin Glyn o'r Gwynfryn yn Llyn. Ond mae i'r gannwyll holl arwyddocâd cyforiog cannwyll ffydd, cannwyll cariad, cannwyll cyfnodau a channwyll fer oes ar y ddaear, ac mae'r rhain wedi eu plethu'n gelfydd. Mae teimlad clasurol i'r nofel a hawdd gweld sut y plesiodd rhai beirniaid yn arbennig yn y Fedal Lenyddiaeth, ac yn haeddiannol felly. Mae Cymraeg graenus, urddasol sy'n gweddu i'r cyd-destun, ac eto y gallu i amrywio tafodiaith i rai cymeriadau ym myd Elin. Mae'r Dyddiadur yn ddyfais effeithiol i neidio amser, a theimlaf fod Elin Glyn yn fwy na neb arall yn dod yn gymeriad hollol fyw wrth ymagor i ni'r darllenwyr. Gwelwn haenau yn ei chymeriad gyda ei chyfaddefiad personol ar dudalen 59 er enghraifft. Nid santes mohoni. Mae'r genre yn caniatáu creu awyrgylch a naws effeithiol yn aml megis y disgrifiad o'r Pla, ac fe geir rhag-rybuddio a pharatoi y darllenydd yn gyson ar gyfer nifer o is-themâu fydd yn datblygu maes o law. Mae ôl ymchwil trwyadl ac uniaethu yma, a dydy'r swmp o wybodaeth a gyflwynir ddim yn mynd ynfwrn. Maeambellberloddydde.e. Y Gwynfryn Mai 1660. O Awst 1660 ymlaen gwelwn y cyfnod gwleidyddol cythryblus yn effeithio ar fywydau y par priod, a Harri ac Elin yn symud i ardal y Gororau Bromfield, Henffordd, Much Wenlock i ardal oedd yn agored i ddylanwadau newydd, yn union fel yr oedd Morgan Llwyd yn Wrecsam yn y cyfnod. Cyflëuir dieithrwch y byd newydd yn effeithiol, ac yn yr adran hon manteisir ar arddull ôl fflachiadau. Llwyddir i gyflwyno gwrthdaro'r cyfnod gan ei adlewyrchu ar sgrîn bywyd teuluol. Mae'r ffotograffau a gynhwysir o'r safleoedd yn ddefnyddiol i gadarnhau sail hanesyddol y nofel, ond nid ydynt yn angenrheidiol. Maent yn rhoi naws gwerslyfr ar adegau. Teimlaf fod dieithrwch Harri braidd yn arwynebol, ond efallai fod hyn gogyfer â'r newidaddawyn ei gymeriad. Ni allaf lai na meddwl y byddent wedi mynd i'r afael â rhai o'r problemau yfed a gor-wario. Mae hyn yn cyrraedd penllanw ar dudalen 54. Ond eto oes y peidio mynegi anhapusrwydd oedd hi, oes y goddef, oes y priodi am byth. Mewn mannau gwelwn orfoledd mawr yn cyferbynnu'n sydyn â marw disymwth Harri Bach. Mae hyn yn effeithiol tu hwnt. Hefyd mae cameos bach trawiadol fel yr ymweliad â marchnad Llwydlo. Ond yn sicr un peth canolog i'r llyfr yw'r neges sylweddol bod yn rhaid sefyll yn gadarn a diffuant dros ein credoau fel yr ydym yn eu gweld nhw, ac fel y medrwn eu mynegi nhw. Nid oes, diweddglo hawdd, slic, sydyn Hollywoodaidd, dros nos, i'r nofel fel y cewch weld wrth ei darllen. Fe'n gadewir ni ag ymdeimlad cryf o'r real a'r credadwy. Nodweddion yw'r rhain sy'n amlwg ym mherson yr awdures ei dysg a'i diffuantrwydd yn ogystal. Hoffwn longyfarch Gwenda Richards ar ei champ yn creu llyfr cryno ac ymataliol ar un wedd, ac eto cyforiog a diddorol ar y llaw arall. Bydd cryn ddarllen arno, a gobeithio bod mwy i ddod efallai dilyniant i'r gyfrol hon. Aled Lewis Evans, Wrecsam