Y Gynulleidfa Leol yng Nghenhadaeth Crist gan Dafydd Andrew Jones Mewn cyfnod o ddirywiad yn hanes eglwysi a chyfundrefnau Cristnogol yn y Gymru ôl-fodernaidd hon tybed nad yw'r ddelwedd o bererindod a phererinion yn llawn ystyr a chyfeiriad i ni sy'n ceisio cynnal fflam y ffydd yn olau heddiw. Fel yr hen genedl gynt mae'n ddelwedd sy'n ein hatgoffa mai pobl ar daith ydym, heb eto gyrraedd ein nod. Mae'r bererindod hon yn cynnwys holl bobl Dduw drwy'r oesoedd ac yn ymestyn ymlaen i'r cenedlaethau i ddod i sylweddoli'n llawn fwriadau Duw yng Nghrist o "nef newydd, daear newydd", a dynoliaeth newydd. Cwestiwn sylfaenol felly yw pa gyfraniad a wnawn yn ein hamser ni i'r bererindod hon? Gwnaeth llawer o'n rhagflaenwyr gyfraniad arhosol a ffurfiannol i fywyd ein cenedl ni yn nhermau ysbrydoledd, diwylliant a hunaniaeth ein pobl a hynny weithiau drwy ymdrech ac aberth. Ond a fu erioed Gymru fel ein Cymru ni sy bellach yn aml-ddiwylliannol, yn gynyddol aml- grefyddol ac aml-hiliol. Y mae'r Eglwys Gristnogol o'i mewn felly mewn sefyllfa sy'n fwyfwy cenhadol. Her i'r Eglwys gyfan yw ymateb i'r sefyllfa newydd hon. Mae'n ddiau fod gan diwinyddion, athronwyr, cymdeithasegwyr ac ati lawer i'w ddweud i'n cynorthwyo i ddadansoddi a deall ein sefyllfa a phwyntio at bosibiliadau cyfoes i'r bererindod. Diau hefyd bod gan drefniadaeth eglwysig gyfraniad mewn cynllunio a galluogi. Ond y mae gan pob cynulleidfa leol ei chyfraniad unigryw a hollbwysig fel dylanwad pobl Dduw o fewn cymdeithas a chymdogaeth leol. Y gynulleidfa leol drwy ei haddoliad, ei gweddïau, ei thystiolaeth a'i gwasanaeth o fewn ei chymuned yw prif erfyn lledaeniad teyrnas yr Arglwydd Iesu Grist. Mi fydd ei chyfraniad yn adlewyrchu ei maint, ei lleoliad, egnïon a thalentau ei haelodaeth ac, yn fwy na dim, ei ffydd a'i hymrwymiad i ledaenu Teyrnas ein Harglwydd. Mae cwestiynau fel pam dani'n bod?, sut dani'n bod? i be dani'n bod? i bwy dani'n bod? yn rhai sylfaenol bwysig i bob cynulleidfa. Mae'r atebion yn gymorth i lunio gweledigaeth a ffurfio cyfraniad a fydd yn gorgyffwrdd ag oes ac amser yn lleol. Ceisiwn amlinellu yma dri phroses sy'n gymorth i gynnig atebion o wahanol safbwyntiau diwinyddol. Mae'r tri yn cychwyn gyda'r gred mai'r eglwys leol, ble bynnag ei lleoliad, yw prif erfyn cenhadaeth Duw yng Nghrist. Y maent, fel petai, yn ail ddarganfod pwysigrwydd cenhadol eglwys leol ac yn ein herio i feddwl mewn ffordd wahanol am y cynulliad lleol y perthynwn iddo. GROUNDSWELL Y mae'r Gynghrair Efengylaidd yn hybu "Groundswell", proses yw hon i helpu cynulleidfaoedd bach a mwy i sylweddoli eu lle allweddol mewn rhannu a thystio i'r efengyl heddiw. Mae'n sôn am "ddulliau priodol o efengylu" a'r rheini'n cydweddu â sefyllfa ac anghenion a chyfleon o fewn y gymuned leol. Y mae felly yn ceisio meithrin ymagweddu cenhadol o fewn cynulleidfa. Y man cychwyn, fel gyda phob gweithgarwch cenhadol, yw awydd cynulleidfa i fod yn genhadol. Galwad yw i ffyddlondeb i'r efengyl ac effeithiolrwydd yn ei lledaenu. Y mae'r gynulleidfa yn penodi tïm cenhadol i'w harwain i ganfod a hyrwyddo ei thasg genhadol. I'w helpu i ddiffinio'r dasg honno paratowyd Cydymaith sy'n chwarel oawgrymiadau i hyrwyddó broses. Mae pedwar ffocws i'r broses ffurfio gweledigaeth, cynllunio i'w gwireddu, gweithredu'r weledigaeth, adolygu a gwerthuso'r hyn a gyflawnwyd. Cryfder y broses yw ei bod, fel y Cydymaith ei hun, yn syml a chlir fel y gall eglwys fechan fanteisio ar ei dilyn a thyfu yn ysbrydol ac mewn tystiolaeth. Y mae'n cymryd o ddifri cyd-destun y gynulleidfa ac felly'n pwysleisio na ellir cyflwyno'r efengyl mewn gwacter. Ond yn ychwanegol at y Cydymaith mae'r Gynghrair yn penodi a hyfforddi Galluogwr Cenhadol nad yw'n perthyn i'r eglwys ond yn hytrach yn sefyll oddi allan iddi ac yn ei helpu dros gyfnod penodol o amser i ddatblygu'r weledigaeth, defnyddio'r Cydymaith, asesu'r datblygiad ac adnabod a goresgyn unrhyw rwystrau. Bellach y mae mwy na 60 o eglwysi wedi ymrwymo i'r broses. Disgwylir ymrwymiad llawn gan gynulleidfa fel ag y gwneir gan y Galluogwr Cenhadol a'r Gynghrair. CODI PONTYDD GOBAITH Efallai na fyddai geiriau a chysyniadau "efengylaidd" Groundswell at ddant pob eglwys ac felly trown at "Godi Pontydd Gobaith" (Building Bridges of Hope), proses o ddysgu dan nawdd Comisiwn Cenhadol Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon sy'n ymgyrraedd at yr un nod o ffurfio cynulleidfaoedd cenhadol ond o gyfeiriad gwahanol. Mae'r bwriad yn ddeublyg: helpu eglwysi i ymwneud â chymdeithas a chyfrannu at ffurfio ei gwerthoedd; hybu ailffurfio bywyd cynulleidfaoedd, strwythurau eglwysig a gweinidogaeth. Nid oes yma baratoi llawlyfr na phenodi personau ond yn hytrach gasglu gwybodaeth am brosiectau ac ati sy wedi'u sefydlu, elwa ar brofiadau nifer o weinidogion, canolfannau ac arweinwyr gyda'r bwriad o ddysgu drwy'r profiadau rhain a chanfod egwyddorion y gellir gweithredu ymhellach arnynt. Mae tri cham i'r broses yn gyntaf archwiliadau cychwynnol, ymchwil a phrofi er mwyn canfod sut y mae adfywio cynulleidfaoedd, sut y daw cynulleidfaoedd yn effeithiol yn eu hymwneud â'r gymdeithas ehangach, beth yw'r ddiwinyddiaeth/misioleg sydd ar waith, pa alluogi sydd yn angenrheidiol, pa strwythurau, pa rwystrau ysbrydol, materol a threfniadol sy i'w goresgyn. Yna, sefydlu egwyddorion ac arbrofi gyda chynulleidfaoedd dethol. Y trydydd cam fydd rhannu ac annog eglwysi i weithredu'r canlyniadau. Yng Ngwanwyn 1998 cyhoeddwyd taflen wybodaeth sy'n disgrifio'r broses fel a ganlyn: Beth a olygai i fod yn eglwys genhadol yn eich ardal chi? Mae "Codi Pontydd Gobaith" yn enw ar broses cyffrous sy a'i fwriad i helpu eglwysi i ddysgu oddi wrth eu profiad eu hunain ac eglwysi eraill wrth iddynt ymestyn allan a chodi pontydd newydd, o obaith yn Nuw, gyda'r gymuned ehangach.