Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Erbyn i'r rhifyn hwn o Gristion eich cyrraedd bydd yr etholiad cyffredinol wedi'i gynnal a bydd gennym Iywodraeth newydd. Ar ôl chwech wythnos o ymgyrchu dibaid ynghyd a'r enllibio defodol a fu'n rhan mor syrffedus ohono y peth olaf fydd eisiau arnoch fydd truth boliticaidd. A chytunaf a chi yn galonnog. Ni hoffwn golli'r cyfle, fodd bynnag, i gymeradwyo un cyfraniad gwleidyddol a fydd yn aros ymhell ar ôl i newydd-deb y llywodraeth bresennol bylu sef y gyfrol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror gan Jonathan Sacks, Prif Rabbi carfan uniongred Iddewon Prydain, o dan y teitl The Politics of Hope. RHYDDID YR UNIGOLYN Er nad oes nemor ddim yn y llyfr sy'n trafod crefydd yn uniongyrchol, mae mae ei gynnwys yn hynod berthnasol i Gristnogion (ac Iddewon a phawb arall) sy'n gofidio am gyflwr cymdeithas ar drothwy'r mileniwm. Yn ôl Sacks mae gan y gorllewin ddwy gysyniad o gymdeithas, un sy'n rhoi pwyslais ar ryddid yr unigolyn a'r llall wedi'i sylfaenu ar yr egwyddor gymunedol. Hyd yn hyn mae pob plaid wedi cymryd y cysyniad cyntaf yn ganiataol gyda phobl y Chwith yn rhoi grym i'r wladwriaeth fel y gall gynorthwyo'r unigolyn i gyflawni ei amcanion ei hun a phobl y Dde yn tocio ar rym y wladwriaeth er mwyn cyrraedd yr un amcan. Ond yr EÌstedcHodGenedloetíiolUrtWGobaîHiCymro Mcri 1997 Ceir nerth a wyneb mebyd Yn nhir Gwent i Gymru i gyd! Mae yn awr yn ein cwm ni Sachaid o groeso i chi Yn ardal y ffin a thir yr adfywiad y cynhelir prifwyl ieuenctid fwyaf Ewrop yng Ngwanwyn 1997. Rhoddir croeso twymgalon i chi yn Islwyn ymunwch a ni yno am wyl o hwyl i'r teulu cyfan. Lleolir yr Eisteddfod ar Barc Waunfawr, Crosskeys, safle hardd yng nghysgod Mynydd Islwyn. Mae yn yr ardal amrywiaeth gyfoethog o atyniadau twristaidd a gweithgareddau diddorol, y cyfan o fewn cyrraedd hwylus i'r maes. Nid yw Castell Caerffili nac Amgueddfa Hanes Llancaiach Fawr, ond ychydig funudau o'rfan. Dewch i'r maes, i grwydro ymysg y stondinau niferus, i edmygu'r arddangosfeydd, ac i'r pafiliwn, i weld Cymry ifanc afiaethus ac hyderus ar eu gorau mewn cystadlaethau, sioeau, a seremonïau. Gyda'r nos, cewch fwynhau cyngherddau o'r safon uchaf. Tocynnau ar werth o 1 Mai ymlaen. I archebu Rhaglen Swyddogol, cwblhewch y ffurflen isod: Enw: Cyfeiriad: Côd Post Rhif Teleffon: Dychwelwch at: Sioned Jones-Williams, Trefnydd yr Eisteddfod, Swyddfa'r Urdd, Hall & Pickles, North Blackvein Ind Estate, Watsville, Crosskeys, Gwent NP1 7PX. Ffôn: 01495 271168 Cyflunydd: 01495 270860 hyn sy'n sylfaenol i'r ddwy ochr yw hawliau diymwad yr unigolyn. Pan fo Margaret Thatcher yn mynnu nad oes ddim mo'rfath beth a chymdeithas, dim ond unigolion a theuluoedd, a Tony Blair yntau yn dweud nad oes gan gyfraith gwlad mo'r hawl i ymyrryd i achub plant yn y groth rhag cael eu herthylu yn groes i ddymuniad y fam, fe welir pa mor bell mae ideoleg yr unigolyn wedi teyrnasu. Preifateiddiwyd moesoldeb a'i gyrru o'r byd cyhoeddus i fyd yr unigolyn: a dyma yn union bwynt Jonathan Sacks. YMDDATOD Yr hyn sy'n amlwg wrth inni wynebu diwedd y ganrif yw'r ffaith fod moesoldeb gyhoeddus wedi ymddatod. Fandaliaeth, trais, torpriodas a'r chwôlfa deuluol ynghyd a'r ymdeimlad cyffredinol o sinigiaeth, dyma'r pethau sy'n nodweddu'n cymdeithas. Ond a oes modd allan o'r impasse hwn? Oes medd yr awdur hwn, os gorseddwn drachefn yr egwyddor gymunedol. Yn ôl y cydsyniad hwn daw'r unigolyn o hyd i gyflawnder bywyd nid trwy fynnu hawliau ond trwy ymwadu a'i hun oddi mewn i'r gymuned y perthyna ef neu hi iddi. A bellach meddai, mae pobl y Chwith a phobl y Dde yn gweld hyn ac yn gweithredu yn ei oleuni.