Cerdded beirniadol", gan ddiwygiad dydd y Pentecost, ac fe ddilynwyd ei uchafbwynt yng ngwaith doethuriaid Alex- andria. "Yn dilyn y cyfnod beirniadol hwn, ymledodd ton o ddiwygiad yn anorchfygol dros Ogledd Affrica a rhan o Asia Leiaf". Dilynwyd hyn gan gyfnod beirniadol pellach pryd y gosodwyd y Canon yn ei ffurf derfynol ac y lluniwyd Credo Nicea. Dilynwyd hyn beth bynnag gan gyfnod maith o dywyllwch pryd yr "ysgydwyd terynwialen haiarn o gadair Pedr yn Rhufain". Ond, dilynwyd hynny gan y diwygiad Protestannaidd oedd "yn gymaint o feiriniadaeth ar yr Ysgrythurau ag o ddiwygiad ar fywyd". Gwnaed ymdrechion cydwybodol gan yr eglwys Gristnogol wedi hynny i garcharu'r meddwl, ac fe gyhudda Wyre yr eglwysi rhyddion o fod mor euog a changhennau eraill o'reglwys drwy fygu rhyddid barn. Y trydydd rheswm dros ddweud bod y ddau fudiad yn agos i'w gilydd yw'r ffaith iddynt gyfarfod yn yr un personau. Cyfeiria Wyre yma at gymeriadau dywiol fel F.B Meyer a Dr Horton, gan nodi iddynt gefnogi'r Diwygiad Cymreig i'r carn, ac ychwanegu nad oedd hynny'n eu rhwystro rhag derbyn Uwchfeirniadaeth na'i chyhoeddi'n wrol ac yn ddewr. "Nid ydyw dweud fod rhai beirniaid yn gor-wneud pethau yn rheswm digonol dros wrthod yr oll." Roedd "llawer o ddiwygwyr wedi gorwneud pethau", ond ffolineb fyddai gwrthod y Diwygiad oherwydd annoethineb rhai. AGWEDD YR EGLWYS Dyna'r tri rheswm a rydd Wyre dros ddweud fod y ddau fudiad yn agos i'w gilydd. O dan yr ail ben, mae'n edrych ar ymddygiad yr eglwys tuag atynt. Gwna ddau bwynt yma sy'n dangos beth ddylai agwedd yr eglwys fod tuag at y ddau fudiad. Yn gyntaf, dywed na ddylai'r eglwys ymddwyn yn elyniaethus nac yn ddifater tuag atynt, ond fe ddylai baratoi meddyliau dynion ar eu cyfer. Roedd yr eglwys wedi bod yn elyniaethus tuag at feirniadaeth ac yn ddifater tuag at ddiwygiad. Nid oedd hi'n barod ar ei gyfer pryd y torrodd allan yn sydyn fel llifeiriant annisgwyl. Canlyniad hynny oedd iddi wylltio, gan golli pob rheolaeth arni'i hun. Pe byddai hi wedi paratoi'i hun ar gyfer y Diwygiad, byddai wedi "diogelu ei ddylanwad yn hwy", ac ni fyddai galluoedd daionus wedi mynd yn ddisberod. "Prawf o hyn", meddai, "ydyw iaith goreuwyr y wlad pan yn dweud, pe yr ail ddychwelai y don, y buasai eu hymddygiad tuag ato yn wahanol". Mewn perthynas a beiriniadaeth, gelyniaeth a nodweddai agwedd yr eglwys tuag at hon, a chaiff Wyre anhawster i ddeall hyn o'i safbwynt fel Protestant, a mwy fyth o'i safbwyntfel Bedyddiwr. "Onid Beibl agored ydyw ein hymffrost?" Wrth ymddwyn yn y fath fodd, beth bynnag, ymddengys mai'r unig wahaniaeth "rhyngom a'r Pab" yw gwahaniaeth graddau. Dylid paratoi meddwl dyn i farnu drosto'i hun. Paham y gadewir i feddyliau'r ifanc gyfarfod a damcaniaethau y beirniadau eithafol yng ngholofnau'r "Raionalist Press", a chael eu harwain ar gyfeilion "gan resymoldeb ymddangosiadol yr ysgrifennwyr hyn?" Onid gwell fyddai paratoi meddwl yr ifanc ar ei gyfer yn yr Ysgol Sut neu'r cyfarfod darllen fel y byddant yn barod i'w wynebu? Gorau po gyntaf y deffry'r eglwys i'w dyletswyddau yn hyn o beth. GWYLIO Yr ail bwynt a wna Wyre am agwedd yr eglwys tuag at y ddau fudiad yw y dylasai hi fod wedi eu gwylio ar ôl iddynt ddod i'r amlwg. Pe byddai hi wedi cadw golwg ar eu gweithrediadau a'u dwyn o dan ei llywodraeth, gallasai fod wedi osgoi'r afreolaeth a ddilynodd y Diwygiad. Ni olyga hynny fod yr Ysbryd yn cael ei rwystro rhag gweithio yn ôl Ei Ewyllys Ei Hun oherwydd yr eglwys yw'r cyfrwng a ddewisodd Duw i weithio drwyddi. Ffolineb yw dweud bod anrhefn yn arwydd o bresenoldeb yr Ysbryd. "Symudai yr Ysbryd yn y dechreuad ar wyneb dyfnderoedd yr Ysbryd y chaos, er mwyn gwneud trefn ohono; ond yn ôl tyb y diwygwyr diweddaf, gweithia i'r gwrthwyneb". O ran beirniadaeth, yr un fath o beth a ddywed Wyre yma hefyd, sef mai "gwell fyddai dwyn y mudiad dan Iywodraeth yr eglwys". Yr unig baratoad, gwaetha'r modd, a geir ar gyfer ymosodiadau beirniadaeth yw "cyfeiriadau gwatwarus ambell i bregethwr yn ei bregeth, neu eiriau enllibus ac ymhongar ambell i ddiacon". Onid gwell fyddai dwyn beiriniadaeth o dan Iywodraeth yr eglwys oherwydd nid oes ar y gwirionedd angen ofni ymchwil?! Pe byddai'n "rhaid i ni newid ein syniadau am ambell i gwestiwn, ac edrych fel dameg ar yr hyn a ystyrid gennym yn ffaith, pa wahaniaeth ydyw?" Nid yw'r byd yn dlotach am fod dynion yn esbonio'r temtiad fel ymdrech feddyliol yn hytrach nag ymdrech gorfforol, ac fe ellir dweud peth tebyg am lyfr Job a Luc 15. Nid y llythyren sy'n ysbrydoledig, ond yr egwyddorion tragwyddol. I ddod o hyd i'r egwyddorion hynny, rhaid mantoli'r llythyren yng nghlorian rheswm. Yn wyneb hyn, onid gwell fyddai dwyn y gwaith hwn o dan wyliadwriaeth yr eglwys yn hytrach na'i adael yn nwylo'r gelyn? "Credwn fod llawer o alluoedd grymusaf y diwygiad wedi eu colli oherwydd panic yr eglwys", ac ychwanega fod hynny'n fwy gwir am feirniadaeth. "Ond tra yn dadlau dros i'r eglwys gymeryd beirniadaeth yn fwy dan ei llywodraeth, priodol ydyw pwysleisio yr angenrheidrwydd am ddoethineb, rhag dygwydd peth a fyddo gwaeth". Dyna'r diwedd ar yr erthygl hon. Gwelwn fod Wyre wedi delio'n glir ac yn gynhwysfawr a'i bwnc, a'i fod wedi troedio'n ofalus lle roedd tir peryglus dan draed. Rhaid ei ganmol am ei ymdrech ddeheuig i gau'r agendor rhwng y Diwygiad a beirniadaeth Feiblaidd, gan ddangos gymaint o dir cyffredin oedd rhyngddynt. Deliodd yn fedrus ag agwedd yr eglwys tuag at y ddau fudiad, heb ofni beirniadu'r eglwys pan welodd yr angen i wneud hynny. Dadleuodd ei achos yn gryf, a daeth ei arweiniad cadarn i'r wyneb. Y Ilwybr canol a gerddodd, ac eithafion y ddau fudiad a geisiodd eu hosgoi.