Diwinyddiaeth Marwolaeth Duw. Bu farw'r gair Duw ar wefusau efengylwyr yn arbennig a phregethwyr ac offeiriaid i raddau líai. Dywed un o ddiwinyddion marwolaeth Duw, Paul van Buren, fod yn rhaid i ni bellach feddwl am berson hanesyddol. Crefydd hanesyddol yw Cristnogaeth. Hwn, wrth gwrs, oedd safbwynt cyffredinol diwinyddion Cymru yn nauddegau'r ganrif. Nid oedd Duw wedi marw yn eu ysgrifau ond yr oedd yr lesu'n ddigon i'r profiad crefyddol, a gellid felly ymwrthod a phoeni am natur a hanfod yr anfeidrol Dduw. Yr ymwadu deallusol hwn oedd yr hoelen olaf yn arch Cristnogaeth i Galfiniaid go iawn. Yn y cyfnod hwn cawsom gyfrolau nodedig o waith Calfiniaid fel Packer. Mae'n anodd credu y gall Calfiniaeth gael yr oruchafiaeth fyth eto ym myd diwinyddiaeth Brotestanniaid. Ond rhaid cofio mai o'r Galfiniaeth honno y daeth y rhai o wyrthiau yr ugeinfed ganrif. Cymerer, fel enghraifft, addysg a'r pwyslais ar addysg ddiwinyddol ar gyfer y weinidogaeth, y pwyslais ar ryddhau pobl a gaethiwyd ar gam, ac o'r gwersyll hwn y daeth rhai o wrthwynebwyr pennaf apartheid; y pwyslais ar Iywodraeth wleidyddol mewn byd ac eglwys. Nac anghofiwn y pwyslais ar y Beibl fel Gair Duw. Galw Calfin y Beibl yn 'Iais Duw' ac awduron y Testament Newydd fel 'amanuenses' sicr a dilys o dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Dywed ymhellach fod llythyren yr ^I4^MMIZ35 Noel Davies, Wales: Language, Nation, Faith and Witness. Gospel and Cultures Pamphlet 4, Cyhoeddiadau Cyngor Eglwysi'r Byd, Genefa, 1996, tt. x + 62. Wrth wahodd Noel Davies i gyflwyno Cymru, ei ffydd a'i thysyiolaeth, i'r eglwys fyd-eang ni allai Cyngor Eglwysi'r Byd fod wedi dewis yn well. Ac yntau'n Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi Cymru ac yn awr CYTUN am bron i ugain mlynedd mae'r awdur mewn sefyllfa unigryw i bwyso a mesur cyfraniad y gwahanol eglwysi yng Nghymru i fywyd y gymdeithas gyfoes Gymreig. Bwriad y gyfres yw archwilio'r ffyrdd y mae Cristnogion o amrywiaeth o gefndiroedd yn byw ac yn cyhoeddi'r efengyl o fewn cyd-destun eu diwylliant. Y cwestiwn sylfaenol a ofynnir (yn wreiddiol yng Nghynhadledd Cyngor Eglwysi'r Byd ar genhadaeth ac efengyleiddio ym 1996) yw: Beth yw'r berthynas rhwng yr un efengyl a'r llu o ddiwylliannau gwahanol sydd yn y byd? Gorchwyl Noel Davies, felly, yw ateb y cwestiwn hwn ar ran Cymru a'i diwylliant. Ni fyddai'r mwyafrif ohonom am ddadlau ã'i ddadansoddiad. Yn ei farn ef y mae'r dystiolaeth Ysgrythyrau yn farw ar wahân i'r Ysbryd Glân sy'n rhoi bywyd ynddynt. YDASG Tasg bennaf diwinydd ydyw troi i'w Feibl gan mai'r Beibl yw ffynhonnell sylfaenol diwinyddiaeth. Honnwyd fod diwinyddiaeth y Beibl wedi'i hesgeluso yng Nghymru ond er 1918 pan gyhoeddodd Karl Barth Esboniad ar y Rhufeiniaid, daeth tro ar fyd. Y mae i'r gri yn ôl at y Beibl ei pheryglon gellir cyfreithloni pob dim o'r Beibl fel crogi'r dihiryn a Nosgi gwrachod ond eto dyma fel y dadleua John Calfin yw lîais awdurdodol Duw i'n byd, ac i'w Eglwys ac i ddisgyblion ei Fab, lesu Grist. A chofiwn yn anad dim fod John Calfin wedi galw yr Eglwys ar y ddaear i warchod y gwirionedd am yr Ysbryd Glân. Swydd yr Ysbryd Glôn yw gwneud lesu hanes yn Grist profiad ac argyhoeddi'r credadun mai un o weision a llawforynion yr Arglwydd ydyw. Trwy'r Ysbryd Glan y dywedwn fod lesu'n Arglwydd a'n bod ninnau'n blant i Dduw. Cyflawnodd John Calfin a Chalfiniaeth lawer iawn ddoe a'i bwyslais heddiw ydyw ar weinidogaeth oleuedig a blaenoriaid ac aelodau diwylliedig sy'n gweld eu cyfle mewn byd ac eglwys i wasanaethu'r Duw a'u hetholodd. Gristnogol yng Nghymru yn rhan annatod o'r diwylliant Cymraeg (ei iaith) ac o ganlyniad mae'n rhan o ymwybyddiaeth y Cymry o fod yn genedl ar wahân. Mae'n olrhain cychwyniad y dystiolaeth Gristnogol yn yr eglwys Geltaidd; mae'n rhoi sylw teilwng i gyfraniad y Piwritaniaid ac Ymneulltuaeth Gymraeg yn y cyfnod wedi'r Diwygiad Protestannaidd, ac yn cyflwyno'n gwbl onest y dystiolaeth am y dirywiad enbyd ym mhoblogeiddrwydd a dylanwad yr eglwysi Crristnogol yn ystod yr ugeinfed ganrif. Wrth gyflwyno'i achos y mae'r awdur yn troi'n aml iawn at feirdd Cymru yr ygeinfed ganrif, ac yn enwedig Saunders Lewis, Euros Bowen, Gwenallt a Waldo ynghyd ag R.S.Thomas, i gyfiawnhau ei argyhoeddiad nad yw'r cyfan ar ben ar y ffydd Gristnogol yng Nghymru. Y mae'r dewis o feirdd yn ddiddorol ac arwyddocaol. Yn bersonol rwy'n cydymdeimlo â'u hagwedd at ddiwinyddiaeth. Yn wir, gellid dadlau mai'r beirdd yw'r unig ddiwynyddion gwreiddiol yn y Gymru sydd ohoni. Ar y Ilaw arall, rhaid cydnabod fod pob un o'r beirdd yma yn perthyn i genhedlaeth sydd erbyn hyn wedi mynd heibio. Y perygl, felly, yw fod eu hymwybyddiaeth o'r traddodiad Cristnogol Cymraeg a'i gyfoeth diwylliannol yn marw gyda hwy. Serch hynny, dylid diolch i Noel Davies am ei gymwynas nid yn unig i'r eglwys fyd-eang, ond hefyd i ninnau yng Nghymru wrth gyflwyno ffydd a thystiolaeth Cymru dros y canrifoedd mewn modd eglur ac effeithiol. D.P.Davies.