Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

· ı Llythyr at Olygydd Cristion Annwyl Dr. Densil Morgan Gadawyd allan ran o frawddeg allweddol yn fy ysgrif dan y penawd 'Lloyd George a'i Emyn' yn rhifyn Medi/Hydref o Cristion. Cefndir y cyfieithiad Cymraeg o'r emyn 'Thy kingdom come, O! God ('Dy deyrnas doed O! Dduw') yw fod Lloyd George, yn ôl y sôn, yn dychwel adref o Ceylon yn ystod y tridegau cynnar, pan ganwyd yr emyn Saesneg adnabyddus yn ei glyw mewn gwasanaeth crefyddol ar fwrdd y llong. Fe gyffyrddodd yr emyn a'r canu â'i ysbryd, meddir, ac aeth yntau ar ddec y llong a throsi'r emyn cyflawn i'r Gymraeg mewn chwech o benillion. Yn gywir iawn 158 Ffordd Penrhos Bangor HUW WILLIAMS RHAI 0 GYFRANWYR Y RHIFYN HWN Mae Beti Wyn Davies yn hanu o Glydach, Cwm Tawe, ac yn weinidog ar Eglwys Annibynnol y Barri. Diacon yn Eglwys y Tabernacl Caerdydd yw'r Dr. Robin Gwyndaf ac yn aelod o Staff yr Amgueddfa Werin yn San Ffagan. Enillodd Myfanwy Bennett Jones glod yng nghystadleuaeth y salm heddwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n gweithio yn Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, ac mae'n byw ar Ynys Môn. CRISTION AR El NEWYDD WEDD O rifyn mis Ionawr bydd CRISTION yn ymddangos ar fformat newydd. Yn ogystal ag Agenda, Bagad Gofalon a Te Deum bydd yn cynnwys · COLOFN DELEDU · 'DOD I NABOD · TUDALEN POSAU A CHROESAIR · COLOFN ENID MORGAN · a deunyddiau eraill hefyd Bydd croeso i gyfranwyr anfon eu gwaith ar ddisg at y Golygydd: Dr. D. Densil Morgan, Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG