Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Roland Howard, The Rise and Fall of the Nine O'Clock Sen/ice, Gwasg Mowbray, 1996. 158 tt. Pris: £ 6.99. Ym mis Awst 1995 yr ymddangosodd y stori yn y wasg; arbrawf o fewn Eglwys Loegr, o dan arweiniad clerigwr ifanc, wedi mynd o chwith, a honiadau ymhlith ei gyn- ddilynwyr ei fod wedi manteisio ar ddegau o ferched, er, meddid, nad oedd unrhyw weithred rywiol dreiddiol (penetrative sex) wedi ei chyflawni. Er hynny, yr oedd digon o wybodaeth yn dod i'r amlwg i achosi annifyrwch a blinder i hierarchiaeth yr Eglwys, ac yr oedd hynny, wrth gwrs, yn fêl ar fysedd llawer o newyddiadurwyr. Trwy eu cyfraniadau hwy i golofnau'r papurau dyddiol datblygodd diddordeb mawr ymhlith y cyhoedd ynglŷn â beth yn union oedd wedi bod yn digwydd yn Sheffield. Yng nghyfrol Roland Howard fe gawn yr ateb. Ymdrech ydyw roi inni hanes yr hyn a ddigwyddodd mewn mwy o fanylder nag a gafwyd yn y papurau. Cawn ddisgrifiad o ddatblygiad y weledigaeth oedd y tu ôl i sefydlu y Nine O'Clock Service (NOS), ac esboniad mai'r freuddwyd oedd darparu ffurf o wasanaeth a fyddai'n apelio at y genhedlaeth ifanc oedd bellach yn byw mewn cyfnod technolegol, ôl-fodernaidd. Byddai gwneud hynny yn sicrhau dyfodol yr eglwys yn Lloegr, ac yn diogelu'r dystiolaeth Gristnogol yn y Gorllewin. Nid rhywbeth ar gyfer Sheffield yn unig oedd NOS; dim ond y dechrau oedd hyn, ac yr oedd gobaith y gwelid ehangu'r gweith- garwch yn fuan. Dyma, felly, oedd yr arbrawf. Yn hytrach na glynu at yr hen batrymau, aethpwyd ati i harnesu holl allu technolegol ein cyfnod i wneud addoli yn brofiad byw i'r ifanc; defnyddio cyfrifiaduron, offer sain a thechnegau fideo i gyfleu'r hen wirion- eddau, ac arbrofi gyda diwinyddiaeth trwy ddod â materion gwyrdd a pharhâd y fi JàYfjÊ ffâJW* wmWwIê blaned ym themâu canolog. Canlyniad y cyfan oedd fod pobl ifanc yn tyrru i'r gwasanaethau; yr oedd y dechnoleg mor soffistigedig fel fod clybiau nos yr ardal yn ymddangos yn ddôf o'u cymharu. Ond y tu ôl i'r llwyddiant yr oedd tristwch, a'r gweinidog, Christopher Brain, oedd yn gyfrifol. Tra'r oedd ei ddilynwyr yn byw bywydau syml er mwyn rhoi arian tuag at wireddu y weledigaeth fawr, yr oedd ef yn byw bywyd o foethusrwydd dilyffethair. Yr oedd yn gymeriad oedd yn gallu dylanwadu ar bobl dyna sut y llwyddodd i ysbrydoli cymaint-ond yr oedd ochr dywyll i'w ddefnydd o rym, a thrwy chwarae pobl yn erbyn ei gilydd a throi pob dwr i'w felin ei hun, yr oedd wedi creu sefyllfa na ellid ei disgrifo ond gyda'r gair 'cwlt'. Nid fod y mwyafrif o'r rhai oedd yn mynychu'r gwasanaethau yn sylweddoli fod dim o'i Ie; edrych ymlaen yr oeddent hwy at y profiad ysgytwol o gael bod dan ei weinidogaeth ar nos Sul. Ond yr oedd cylch mewnol o amgylch Brain, pobl oedd yn ei ystyried yn broffwyd ac yn offeryn yn llaw Duw. Ymhlith y rhain y tyfodd y cwlt, ac oherwydd eu mudandod hwy y llwyddodd Brain droi'r arbrawf yn artaith i gymaint o bobl. Ni ellir mewn adolygiad fel hwn roi unrhyw syniad o'i allu lywio meddyliau pobl, ond yn ei gyfrol fe Iwydda Howard wneud hynny'n effeithiol iawn. O ganlyniad, mae darllen y stori yn brofiad cymysg i Gristion; mae'n teimlo balchder ar un llaw oherwydd y llwyddiant a gafwyd, a dychryn ar y llaw arall oherwydd y modd y datgymalodd y cyfan mor sydyn. Yn ychwanegol at hynny, mae'r hyn sydd ar un olwg yn ymddangos yn gwbl anhygoel yn troi mewn amrantiad yn ddychrynllyd o gredadwy, a dyna pam nad yw'r darllenwr, unwaith y mae wedi dechrau darllen, yn gallu rhoi'r llyfr heibio a chadw gweddill y stori at rhyw amser arall. Un o'r pethau sy'n achos rhyfeddod yw na fu rywun yn Sheffield dynnu sylw yn gynharach at yr hyn oedd yn digwydd, ond methiant cynifer o bobl godi eu llais yn rhoi rhyw fath o syniad inni o allu Christopher Brain Ar yr un pryd mae'n ennyn cydymdeimlad ynom tuag at bobl fel Stephen Lowe, Archddiacon Sheffield, gwr a fu'n gefnogol i'r arbrawf, yn cymysgu gyda Brain a'i ddilynwyr ac yn mynychu'r gwasanaethau am gyfnod sylweddol o amser cyn iddo sylweddoli fod rhywbeth o'i Ie. Pan glywodd y sibrydion gyntaf yr oedd yn amharod i'w derbyn oherwydd nad oedd ef ei hun wedi gweld unrhyw amryfusedd, ond pan ddywedodd un o'r merched wrtho, 'They're used to dealing with people like you; go and look in the corners and find out what's really going on', dyna'n union a wnaeth. Nid esboniad o'r hyn a ddarganfu a gawn gan Howard, ond disgrifiad, ac mae hwnnw'n siwr o arwain y darllenwr feddwl yn ddwys am yr angen oruchwylio pob gweithgarwch Cristnogol. Peth braf yw brwdfrydedd a pheth cynhyrfus yw llwyddiant, ond nid trwy gamdrin a sathru pobl y mae cyflawni gwaith y Deyrnas. Tra bo pontio'r bwlch diwylliannol yn gwbl angenrheidiol mewn Cristnogaeth gyfoes, a thra bo'r arbrawf a gynhaliwyd yn Sheffield yn rhywbeth i'w edmygu mae'r hyn a ddigwyddodd yno yn dangos yn eglur y dylai pob arweinydd Cristnogol fod yn atebol i'w frodyr a'i chwiorydd yn y ffydd, ac nid yn ei ynysu ei hun fel pe byddai uwchlaw pob beirniadaeth. Mae'n bosibl y byddai rhai Cristnogion yn cael eu dychryn gan gynnwys y llyfr hwn, ac o ganlyniad yn teimlo na ddylent fod wedi ei ddarllen o gwbl. Credaf y dylem ddarllen y llyfr, nid er mwyn cael ein difyrru gan hanes cwymp un oedd wedi dod feddwl amdano ei hun ei ffigur meseianaidd ac wedi defnyddio'i rym a'i awdurdod foddhau ei nwydau a'i chwantau ei hun, ond er mwyn dysgu gwersi fydd yn ein gwneud yn ddoethach pobl. 'Byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod', meddai lesu Grist. Trychineb Christopher Brain oedd iddo gyflawni'r rhan gyntaf o'r anogaeth, ac esgeuluso'r ail mor llwyr a chyfangwbl. GERAINT TUDUR