O dan y pedwerydd pwynt, casgla Wyre y gwahanol syniadau y bu'n eu trafod at ei gilydd, gan edrych arnynt yn awr mewn perthynas â gwaith cyfryngol yr lesu. Yn ôl Gore a Sanday, geilw dau beth ar eni'r lesu fod yn wyrthiol, sef yr Yrngnawdoliad, a gwaith yr lesu. Os na anwyd lesu'n wyrthiol, sut y gallai fod yn ymgnawdoliad o Fab Duw, a sut y gallai'i waith Ef fod yn wahanol eraill? Yn erbyn hyn, dadleua'r ysgol a gynrychiolir gan Lobstein (Paul Lobstein, oedd yn athro mewn Athrawiaeth ym Mhrifysgol Strasbourg) nad y geni gwyrthiol a roes lesu Ei ddwyfoldeb, ond yr Atgyfodiad, ac mai nid y geni gwyrthiol a wnaeth Ei waith yn arbennig, ond Ei ewyllys gref yn wyneb rhwystrau bywyd. Cyhuddir Lobstein gan Wyre o amau'r gwyrthiol, ac er na chaiff Gore yntau ddienydd yn ddi-anaf, gydag ef y mae Wyre yn cydymdeimlo. Wrth gloi, dywed 'yn ddi- ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd' (1 Tim. 3 ad. 16). Yn hynny o beth mae ganddo neges sy'n berthnasol ninnau'r nadolig hwn. RHAI DIWEDDAR A I L .W Y Meddwl Cymreig golygwyd gan W.J. Rees, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995, tt.247, £ 9.95. Trwy gyhoeddi'r gyfrol ddeniadol hon mae Gwasg y Brifysgol wedi gwneud tro eithriadol dda bawb a ddymuna wybod mwy am hanes y diwylliant a'r gwareiddiad Cymreig ar hyd y canrifoedd. Detholiad hynod gyfoethog ydyw o erthyglau swmpus ond diddorol a welodd olau dydd gyntaf ar dudalennau'r Efrydiau Athronyddol. Gan ddechrau yn yr Oesoedd Canol goleuir ni am gyflwr addysg y genedl gan Glanmor Williams, ei meddwl hi gan y diweddar Myrddin Lloyd a'i gwleidyddiaeth hi gan J. Beverly Smith. O droi at y cyfnod modern -sydd, haneswyr, yn ymestyn o oddeutu 1520 hyd at 1900-ceir ysgrif arwyddocaol R. Tudur Jones ar 'Resymeg y Piwritaniaid' ac eiddo y diweddar Gwyn Alf Williams ar 'Dwf Hanesyddol y Syniad o Genedl yng Nghymru' heb sôn am ddeunyddiau eraill o law R. Geraint Gruffydd, Geraint H. Jenkins ac eraill. (fmrhâd o dudalen 19) Noson Daionsy Sêr, Bob Hartman addasiad Emily Huws. Dyma lyfr arbennig o addas ar gyfer plant hyn yr ysgol gynradd neu flwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd. Stori'r Bugeiliaid a geir yma eto ond mae'r stori yn fwy treiddgar ac yn defnyddio sylwadau a syniadau dyfnach na'r Ileill i beri i'r plant feddwl mwy. Llifa'r naratif yn rhwydd iawn a'r ddeialog yn naturiol iawn. Hoffaf y lluniau yn fawr iawn, maent yn wahanol iawn i luniau arferol stori'r Nadolig ac yn wreiddiol a deniadol iawn, gan Tim Jonke. Ymhlith y gwaith o'r cyfnod diweddar ceir ysgrifau gan y diweddar R.I. Aaron, Dewi Z. Phillips a Walford Gealy. Mae Adran Athroniaeth Urdd Graddedigion ein Prifysgol wedi cyfrannu'n sylweddol ers degawdau at loywi'n dealltwriaeth o'n gorffennol yn ogystal â hogi'n meddwl cyfoes, a da felly yw cael oddi mewn i gloriau un llyfr beth o gyfoeth cynnyrch y blynyddoedd. Da hefyd yw cael ein hatgoffa drachefn pa mor greiddiol fu'n Cristionogaeth gynnwys y Meddwl Cymreig ar hyd y canrifoedd. Hir y parhao hi felly. r urycn r\nsinogawi, goiygwyd gyda rhagymadrodd gan Geraint Bowen, Gwasg Prifysgol Cymru, 1996, tt.322, E35. Dyma goron ffrwyth ymchwil oes Dr. Geraint Bowen ar lenyddiaeth y reciwsan- tiaid Cymraeg o'r 16eg ganrif. Mae'rtestun yn mynd â ni nôl i oes y Frenhines Elisabeth y Cyntaf pan oedd Protestaniaeth Ein Calendr Nadolig addasiad Cymraeg Sian Lewis Os ydych am brynu calendr yr adfent i'r plant eleni dyma'r un i chi. Cant ddigonedd o labedau lliwgar i'w codi i ddilyn stori'r Nadolig, ac fe gant hepgor y siocledau cudd eleni. Mae'r calendr yma yn llawer mwy difyr nag un a welais ers tro byd. Ar ôl cyrraedd dydd Nadolig cant wneud llusern ohono i'w hongian fel addurn Nadolig. Dyma fargen atyniadol dros ben. Diolch i Gyhoeddiadau'r Gair am eu holl gynnyrch eleni eto. A.B.M. o hyd yn ansefydlog oddi mewn i'rdeyrnas a'r Catholigion hwythau yn gwneud eu gorau geisio adfer hawliau 'yr hen ffydd'. Argraffwyd peth o gynnwys y testun sy'n sail i'r gyfrol ysgolheigaidd hon mewn ogof yn ymyl y Gogarth yn Llandudno ganrifoedd yn ôl, gweithred fradwrus yn ôl safonau'r dydd a allai fod wedi peri i'r awdur wynebu'r gosb eithaf. Ni chynnwys y gyfrol ddim byd mwy bygythiol mewn gwirionedd na thraethiad ar 'y Pethau Diwethaf', Angau, Barn, Nef ac Uffern. Mae'n anodd mewn oes fel hon sylweddoli pa mor greiddiol bwysig oedd crefydd yn y Gymru a fu, ac bobl fod yn fodlon wynebu'r stanc am y gwyddent fod materion o bwys tragwyddol yn y fantol. Ychydig a ddywed y Dr. Bowen ar y materion hyn yn uniongyrchol; llenyddol yn hytrach na diwinyddol yw natur ei ymdriniaeth ef. Serch hynny bydd credin- wyr yn falch fod y testun hwn ar gael i'r cyhoedd darllengar mwyach yn hytrach na'i fod yn eiddo i'r arbenigwyr yn unig. D.D.M.