SAÌ.M l'R TANGfNUEFEDDWYR Arglwydd ein heddwch, Ohonot Ti y tardd pob tangnefedd; Ti yw ffynhonnell pob dedwyddwch A sail pob cymod. O ganol bwrlwm ein bywyd, At bwy y trown i geisio tawelwch ond atat Ti? Ti yn unig a all lonyddu'r ysbryd anniddig Ac estyn balm i enaid mewn gwewyr. Bu i rai o'th blant ddrachtio mor ddwfn o'th gostrelau dihysbydd Nes dyfod ohonynt hwythau Yn llestri i weini gwin dy hedd. Drwyddynt hwy fe brofwyd y grym sydd mewn gwasanaeth; Cadernid disyflyd eu hargyhoeddiad A amlygwyd mewn gweithredoedd o drugaredd. Y rhai hyn a wisgodd dy heddwch fel mantell, Ac a wasgarodd gymod fel gwlith. Diystyriwyd eu safiad gan y cib-ddall; Fe'u galwyd yn Gynddilig gan y di-ddeall. Daeth i'w rhan ddirmyg rhai a fu'n gyfeillion, Gwawd ac amarch rhai gynt a fu'n unfryd â hwy. Eto buont fodlon dioddef anfri, Gan gadw eu hurddas yn wyneb awelon croes. Bu iddynt fyw eu proffes yn Ewrop y cysgodion; Safasant yn iawn dros gyd-garcharorion yn eu hofn a'u gwendid. Yn dawel dodasant eu henaid yn bridwerth, A'u henwau a gyfyd fel arogldarth dros domenni'r blynyddoedd. Awdur pob heddwch, Molwn Di am bob un a ddyrchafodd lef o'th blaid, Y llef sy'n atseinio ar awelon y Preselau, Yn sibrwd yn suon tonnau glannau Llyn. Am yr eneidiau tyner fe bery sôn yn yr Alltwen a Rhydcymerau, A meini yn Nhregaron a Llansannan a lefarant amdanynt hwy. Baneri a ddyrchafwyd yn Aldermaston A phebyll a godwyd yn Greenham Gan rai a heriai yn ddi-drais Gynddaredd a dinistr. Gwae ni a fu inni gyd-gerdded â hwy i leisio ein hofnau, Na chyd-eistedd i ddatgan ein hanfodlonrwydd. Gyda dyfod blagur Mai o flwyddyn i flwyddyn Neges plant Cymru a gerdda donnau'r awyr Gyda'i chyfarchiad o heddwch i ieuenctid byd. Erfyniwn am galonnau parod i gofleidio neges y Golomen Ac i droi'r gair yn weithred o gymod led-led ddaear. Dywysog ein Tangnefedd, Ymlid á gilfachau ein calonnau egin malais a chenfigen, Rhag gwreiddio ohonynt a ffynnu, A thyfu'n ddrain dialgar i dagu ysbryd cariad a thangnefedd. Dyro i ni nerth i fod yn dyner, Cadernid i sefyll dros y gwan. Yna, Dad pob addfwynder, Gwna ninnau yn gostrelau dy heddwch, Yn llestri i ddwyn tangnefedd ar y ddaear. MYFANWY BENNETT-JONES Y Dwylo Gweddigar (Myfyrdod ar ddarlun Albrecht Dürer) Ymhleth mae'r dwylo garw wrthi'n dyrchafu cri, dwylo a wyr y briffordd at Dduw, debygaf fi. Dywedant nad yw gweddi yn newid troeon blin; ein newid ni mae honno trwy'n cynnal yn y drin. Dywedant na wna drosom y tasgu anodd chwaith, ond rhoi i ni o'i chymorth i'w gwneuthur ar ein taith. Dywedant nad llefaru wrth Dduw yw gweddi i gyd ond cyfle iddo Yntau ddweud gair pan fyddom fud. A bellach pan weddïwyf, boed awr y wledd neu'r clwy', gwelaf y rhain, a chofio eu neges fythol hwy. JOHN EDWARD WILLIAMS