adran o'r eglwys fel y'i gilydd. Pwysleisiodd y dylid sylfaenu'r Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol ar yr egwyddor, 'y bydd i'n Harglwydd roi i'w eglwys ar y ddaear y tangnefedd a'r undeb a fu'n rhan o'i feddwl a'i fwriad pan weddïodd, cyn ei groeshoeliad, i bawb o'i ddilynwyr fod yn un'. Llwyddodd Couturier i sicrhau cefnogaeth ei esgob i'w awgrym, ond nid oedd pawb oddi mewn i'r rhengoedd Catholig yn barod i arddel y fformiwla, a dadleuai rhai nad oedd ond cyfaddawd ar egwyddorion a ystyrid yn sylfaenol i'r Ffydd Gatholig. Mynnodd Brodyr y Cymod yn yr Unol Daleithiau, a'r Tad Charles Boyer, pennaeth canolfan 'Unitas' yn Rhufain, y dylid datgan yn eglur yn yr wythnosau gweddi safbwynt yr Eglwys Gatholig ar gwestiwn undeb. Er gwaethaf y gwrthwynebiadau hyn bu cefnogaeth gynyddol i safbwynt Couturier a'i olynydd yn Lyons, y Tad Pierre Michalon, a hynny am fod y cynsail a awgrymwyd yn galluogi Cristnogion o bob traddodiad, ymron i ymuno â'i gilydd mewn gweddi. Bu farw Couturier ar Fawrth 24, 1953. Ni ellir gorbwysleisio ei gyfraniad allweddol i dwf ecwmeniaeth gan mai ef, yn anad neb arall, a sefydlodd yr wythnos weddi fel ag y mae yn ei ffurf bresennol. Ac 'roedd ei Alwadau i Weddi, y llenyddiaeth ddefosiynol a gyhoeddai'n flynyddol, yn gymorth tra gwerthfawr i'r ymgyrch. CYDWEITHREDIAD Yn ystod y blynyddoedd dilynol cafwyd mwy o lawer o gydweithrediad rhwng yr Eglwys Babyddol a Chyngor Eglwysi'r Byd. Eisoes ym 1942 'roedd y Mudiad Ffydd a Yr erys o hyd anawsterau mawr a dyrys ar y ffordd i undeb Cristnogol a heb rym gweddi nid oes unrhyw obaith i'w datrys. Threfn wedi diwygio amser cynnal yr Wythnos Weddi a drefnwyd ganddo er mwyn iddi gyd-redeg â'r wythnos Gatholig. Ym 1958 dechreuwyd cyd-lunio'r defnyddiau a'r gwasanaethau ar gyfer yr wythnos weddi, ac ym 1966 daethpwyd i gytundeb cyflawn ynglyn â chynnwys y darpariaethau hyn. Oddi ar hynny grwp cyd-enwadol sy'n gyfrifol am baratoi'r taflenni defosiwn. Prin fod angen nodi yr erys o hyd anawsterau mawr a dyrys ar y ffordd i undeb Cristnogol a heb rym gweddi nid oes unrhyw obaith i'w datrys. Mae'n fuddiol cofio mai prif arf y Mudiad Ecwmenaidd o'r cychwyn cyntaf fu'r cymdeithasau gweddi; 'hebddynt hwy fe fyddai pob gweithgarwch ecwmenaidd yn ofer, yn wir yn beryglus'. (A History of the Ecumenical Move- ment, 1517-1948, gol. Rouse a Neill, Llundain, 1967, tud. 345). Deil gweledigaeth Couturier i fod yn berthnasol heddiw; mynnai ef 'y gwneir y cyfraniad mwyaf tuag at undeb gan yr eglwys sydd fwyaf parod i ganiatau i'r Ysbryd Glân ei diwygio a defnyddio'. Ar gyfrif ei weledigaeth mai ar lwybr gweddi y deuwn i sylweddoli ein gwir undod yng Nghrist, ac ar gyfrif ei gyfraniad unigryw i barhad a pherthnasedd yr Wythnos Weddi, haedda Paul Couturier le arbennig yn hanes datblygiad y mudiad ecwmenaidd. 'Nid oedd yn syndod fod y gwasanaethau a gynhaliwyd yn Lyons yn dilyn ei farwolaeth yn gyfystyr â thystiolaeth i'r byd bod ffiniau'r frawdoliaeth ecwmenaidd yn cyflym ehangu.' (The Ecumenical Advance A History of the Movement, cyfrol 2, gol. Harold E. Fey, tud. 321). 'O DDYDD I DDYDD' A ydych wedi archebu o Ddydd i Ddydd am 1996? Darlleniadau Beiblaidd am bob dydd o'r flwyddyn Awduron 1996 lonawr Mawrth- Parchg. Iwan P. Lewis Ebrill Mehefin- Parchg. Irfon Jones Gorffennaf Medi Parchg. Densil John Hydref Rhagfyr Parchg. Emlyn Richards Copïau unigol o'ch siop Iyfrau- £ 1 y copi Tanysgrifiad blwyddyn drwy'r post £ 4.50 Archebion at O DDYDD I DDYDD Cyngor Llyfrau Cymraeg, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, SY23 2JB