GOLYGYDDOL Erbyn i'r rhyfyn hwn o Cristion ymddangos bydd cynrychiolwyr yr enwadau Ymneilltuol wedi cael eu cyfarfod cyntaf i drafod y posibilrwydd o ffurfio 'Un Eglwys Rydd Gymreig'. Trafodaeth sy'n deillio 0 gynhadledd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru ym mis Hydref 1994 fydd hon, cynhadledd a alwyd i ystyried dyfodol Ymneilltuaeth yng Nghymru a phenderfynu sut orau y gellid gwarchod ei thystiolaeth mewn i'r mileniwm nesaf. Er gwaethaf y beirniadu twp ac annheg a fu ar y trefn- iadau gan rai o'r tu fewn i'r eglwysi ac o'r tu allan, byddai arweinwyr Anghydffurfiaeth wedi bod yn anghyfrifol pe na fyddent wedi cymryd y cyfle hwn i geisio rhoi eu ty mewn trefn. Gwyr y llipryn gwannaf ei grebwyll nad ymgais i 'achub' yr egwlysi mo'r symudiad hwn, ac ni fydd iachawdwriaeth i'r genedl yn deillio ohono. Mae'r beirniad sy'n mynnu darlunio'r trafodaethau fel ateb y 'sefydliad' crefyddol i argyfwng ysbrydol dwys yn camgymryd y sefyllfa'n enbyd ac yn fwriadol, dybiwn i. Prin bod angen i neb ddweud wrthym na fydd yr hyn a bender- fynir yno yn esgor ar achub, ond dyna â ddywedir wrthym, a haerir, yn simplistig ddigon, mai'r cwbl sydd ei eisiau er mwyn adfer i Ymneilltuaeth ei gogoniant a'i bri yw i'w deiliad weddîo'n daerach ac i'w phregethwyr draethu gyda mwy o awdur- dod. Yr awgrym, wrth gwrs, yw na fu gweddi'n rhan o gynhysgaeth ein ffydd ac i'n pregethu fod yn amddifad o'r efengyl. O wybod am arwriaeth rhai o'n cynulleid- faoedd ac am loywder defosiwn eu gweinidogion, dyma feirniadaeth sy'n anodd iawn i rai ohonom ei stymogi, yn enwedig gan iddi hi gael ei gwneud fwyaf gan bobl na welsant y tu mewn i gapel 'enwadol' ers blynyddoedd. Oes, mae lle i feirniadu, ond beirniaded nid o'r tu allan ond o'r tu fewn, a hynny gyda thegwch, tosturi a gras. PELAGIAETH Un o agweddau mwyaf digrif y beirniadu hwn yw ei sawr Pelagaidd. Diwinyddiaeth ceiniog-yn-y-slot yw Pelagiaeth: ond i ddyn wneud ei ran, bydd Duw yntau'n siwr o ymateb; dychweled capelwyr Cymru a'r 'y wir ffydd' ac mi fydd eu capeli dros nos yn llenwi. Pelagiaeth yw hyn bid siwr, er ymgadachu ohoni'n anghydnaws Galfinaidd! Y gwir yw fod pob achos crefyddol Cymraeg, boed enwadol neu beidio, yn wynebu ar yr un argyfwng, ac nid rhywbeth sy'n gyfyngedig i un pwyslais diwinyddol mohono. Gwyr pawb mai dyma'r gwir, ond pery'r feirniadaeth sectyddol serch pob tystiolaeth i'r gwrthwyneb. Y cyfraniad mwyaf y gallwn ei wneud at ffyniant gwir ecwmeniaeth yng Nghymru, oddi mewn i'r enwadau Ym- neilltuol a'r tu hwnt iddynt, yw cydnabod Yn y Pafiliwn Dydd Gwener Mai 3ydd, Dydd Sadwrn Mai 4ydd a Dydd Llun Gẁyl Calan Mai, Mai 6ed 1996 £ 12,000 mewn gwobrau Telir grantiau teithio i gorau. Cystadleuaeth 'Côr yr Wyl' gwobr £ 1,200 Hefyd GWYL DDRAMA'R EISTEDDFODAU dros y ddau benwythnos Mai 10/11 a Mai 17/18 Manylion pellach oddi wrth yr Ysgrifenyddion Cyffredinol Selwyn a Neli Jones, Glanrhyd, Maesydderwen, Pontrhydfendigaid, Ystrad Meurig, Dyfed, SY25 6EU. Rhif ffôn 01974 831695 BLWYDDYN FFAFR hyn yn wylaidd; nid eithrir neb ohonom o ofynion costus edifeirwch. DYBLU DIANGEN P'un ai bwriad rhagluniaeth fydd creu 'Un Eglwys Rydd Gymreig' ai peidio ni wn. Cyndyn yw hen arferion a styfnig yw hen draddodiadau. Nid pawb o blith cynrych- iolwyr yr enwadau fydd yn cytuno mai trwy ildio argyhoeddiad ynghylch trefn eglwysig er enghraifft, neu ddull a deiliaid bedydd efallai, y gellid hwylsuo'r genhadaeth Gristionogol orau yn ein plith. Ond mae un peth yn glir. Etifeddasom sefyllfa a oedd, yn ei hanterth Fictorianaidd, yn wastraffus hurt. Nid oedd dim rhinwedd mewn cref- ydda cystadleuol a dyblu di-bwrpas pan oedd tipyn o fynd arnynt hyd yn oed. O osod ein hunain 'o dan y Gair' fel y dylem fel Anghydffurfwyr da, gwelwn fod y cyfiawnhad dros enwadaeth a sectydd- iaeth, nad yw'n ddim namyn enwadaeth o dan enw arall-yn diflannu. Nid eglwys Annibynnol oed yn Rhufain, na chapel Methodist yng Nghorinth, na Bedyddwyr na Chatholigion nac Anglicaniaid nac Efengylwyr yn Philipi, Thesolonica nac Effesus. Patrwm y Testament Newydd oedd cael un achos ym mhob cymdogaeth, a hwnnw'n cynrychioli holl bobl Dduw yn y fan a'r lle. Petai 'Un Eglwys Rydd Gymreig' yn gam tuag at gyrraedd y nod dra ysgrythurol hon, byddai'n haeddu'n cefnogaeth oll. D.D.M. EISTEDDFODAU TEULU JAMES PANTYFEDWEN PONTRHYDFENDIGAID 1996