hadu'r mynydd. O'ch chi'n neb os nag o'ch chi'n ail-hadu tirmynydd. Yna'n sydyn, o'n nhw wedi sylweddoli fod hyn yn sbwylio'r tirwedd. "Dwi'n gwybod," medde rhyw foi rhyw ddiwrnod, "rown ni grant iddyn nhw i beidio â'i wneud e!" Roedd e'n fodlon cydnabod fod ei waith, yn enwedig ei waith radio, yn cynnwys elfen o gyfaddawd ac o droedio llinell denau (llinell denau iawn ar brydiau). Weithiau mae'r pwysau oddi allan, dro arall mae'r temtasiwn oddi mewn. Wrth siarad â fi, mae e'n ymladd i beidio â'i gyfiawnhau ei hun. Dwi'n gwybod bod fy hiwmor i'n gallu bod dipyn bach yn 'naughty' 'Mae gen i sens of hiwmor sy'n eithaf dwi'n gorfod 'i ymladd e. hiwmor 'ridiculous' a dwi'n gwybod bod fy hiwmor i'n gallu bod dipyn bach yn "naughty" Mae'r hanner gwên yna ar ei wefusau unwaith eto, y wên sy'n gymar YN NEWYDD O'R WASG TRO AT YR IESU 20 o ganeuon Cristnogol newydd gan Eilir Jones a Jina Gwyrfai yn addas i blant o bob oed. Mae rhywbeth yma at ddant pawb o Noa i Dilyn Iesu Grist. £ 5.95 Cofiwch hefyd am ein llyfrau eraill ar gyfer yr Ysgol Sul:- PWY WNAETH Y SÊR UWCHBEN? Y casgliad enwog o ganeuon gan Arfon Wyn. £ 3.99 DEWCH I'R WLEDD 14 o ganeuon Cristnogol poblogaidd gan Arfon Wyn. £ 4.95 BOED NOËL Casgliad safonol 0 26 o unawdau, deuawdau a damau corav gan rai o gyfansoddwyr amlycaf Cymru. £ 7.99 STORI'R GENI Drama gerdd gyffrous gan Anne Jones a Helen Williams sy'] adrodd hanes y Nadolig ar lafar ac ar gân. £ 5.50 Holwch am ein gwasanaeth cyhoeddi a chysodi cerddoriaeth beth am gyhoeddi casgliad o emynau neu ganeuon? CURIAD. Uned 6. Canolfan Fenter Dyffryn Nantlle. Pen-y-Groes. Caernarfon. Gwynedd LL546DB (01286) 882166 annisgwyl efallai i syberwydd ei athrawiaeth. Ifan Gruffydd y diddanwr, y ffarmwr, y dyn teulu -ydy'r gwahanol alwadau yma'n gwneud bywyd yn straen? Dwi'n cael yr argraff wth siarad ag e fod cael sawl haern yn y tân yn apelio at y cymeriad amlochrog yma. 'Dwi'n "Jack of all trades" dwi'nber- son sy'n gallu mynd yn "bored" yn gloi iawn A i ddim i gicio'r gwaith, dwi'n gwybod fod acto'n beth arwynebol, ond dwi'n 'i fwynhau e dwi'n mwynhau dianc iddo fe ambell waith.' Ar y llaw arall, mae e'n ymwybodol o'r peryglon pan fo gwaith yn mynd yn bopeth, ac o effaith niweidiol hynny ar deuluoedd y dyddiau yma. 'Mae "love-hate relationship" 'da fiibob job ac mae hynny'n bwysig Mae hyn- ny'n arbennig o bwysig i'r comedïwr. "S'dim pwynt mynd i chwilio am hapusrwydd drwy hiwmor mae 'na wahaniaeth mawr rhwng hapusrwydd a jyst comedi Does dim byd gwaeth na gorfod bod ar Iwyfan a gorfod gwneud i bobl chwerthin os y'ch chi'ch hunan yn hollol "miserable" Er ei fod yn un o wynebau'r 'cyfryngau', mae rhywun yn cael yr argraff mai ar ymylon y bywyd yna mae e mewn gwirionedd. Unwaith mae'r ffilmio drosodd, mae'n troi am adref yn syth. Mae dod adref yn bwysig iddo. Mae e'n mwynhau eistedd lawr, gweld y teledu, darllen, sgwrsio gyda phobl-mae e'n mwynhau dod adref. 'Mae 'na ddywediadyn Saesneg; "Many comedians go home to darkness", a hynny achos 'i bod nhw yn bobl melancolic-wel, dwi ddim fel'na, dwi'n edrych ymlaen i ddod gartref dwi'n gallu bod fi fy hun dwi'n licio'r siwrne gartref o bob man.' Ond mae 'na ffactor arall ar wahân i'w gartref sy'n gweithio fel ffrwyn i'w ddal yn ôl rhag gor-weithio. 'Dwi wedi cael fy mendithio gan un peth pwysig iawn diogi mae rhywfaint o ddiogi yn bwysig iawn. Go brin y gallwn ni gysylltu'r gair 'diogi' gyda pherson sy'n byrlymu o storïau ac athrawiaeth, o anecdotau ac o athroniaeth bywyd fel y mae Ifan Gruffydd. Mae siarad ag e yn brofiad cyfoethog a lliwgar iawn, a hynny efallai, oherwydd ei fod yn gweld bywyd yn ddu ac yn wyn, ond byth, byth yn llwyd. IFAN GRUFFYDD BYWGRAFFIAD BYR Ganwyd a magwyd Ifan Gruffydd ar fferm Cefn 'Resgair Fawr ger Tregaron yng Ngheredigion, ac y mae'n dal i rannu'i amser rhwng gwaith ar y fferm honno a'i waith fel comecíiwr mewn cyngherddau byw ac ar y teledu. Daeth ei gyfle cyntaf i berfformio gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc a bu'n cymryd rhan ym Mhan- tomeim Theatr Felin-fach lle cyfarfu ag Euros Lewis sydd bellach yn cyd- sgriptio ei waith teledu. Wedi arwain a chynnal nosweithiau llawen yn ei sir enedigol, cafodd wahoddiad yn 1984 gan Teledu'r Tir Glas i ymddangos ar un o'u rhaglenni 'Noson Lawen' ac o hynny allan y datblygodd ei yrfa ddisglair ar deledu a radio o ddifrif. Mae e bellach yn wyneb cyfarwydd yn dilyn cyfresi o 'Ma Ifan 'Ma', 'Nyth Cacwn' a 'Y Ferch Drws Nesaf' ac mae ei lais yr un mor gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru fel cyfrannwr i raglenni fel 'Pwlffacan a 'Dros Ben Llestri'. Erbyn hyn y mae 'n briod ac mae ef a'i wraig, Dilys, bellach wedi ym- gartrefu yn 'Y Border Bach' ar gyrion Tregaron. Mae Ifan yn aelod gyda'r Presbyteriaid yng Nghapel Bwlchgwynt.