PEDWAR GWYNT ADDOLI ARBROFOL 'Bob mis ym Mhenrhyn Coch mae na oedfa arbrofol ac yn honno y mae torri tir newydd yn digwydd 'Rwy'n awyddus bod gan fy mhobl sbectrwm defosiynol gweddol eang. Byddaf yn tynnu'n drwm o'r traddodiadau eglwysig gwahanol. Mae yna Ie i ddulliau Taizé ac i ddulliau mwy arbrofol fel sydd ar hyn o bryd yn yr Eglwys yn Lloegr. Mae lle hefyd i ddeialog, i ddawns a symudiad a sumboliaeth. 'Da ni wedi bod yn defnyddio cannwyll yn ddiweddar fel cyfrwng i ganoli sylw wrth ein bod ni'n addoli. Mae yna nifer o bethau y dyle ni geisio'u defnyddio'n rymus, a'r cwbl, wrth gwrs, yn cael eu cyfeirio at ogoneddu Crist a grymuso'r addoliad. Mae'n anodd argymell yr un dulliau i bawb. Mae gwahaniaeth rhwng cynulleidfa a chynulleidfa. 'Dwi'n credu bob hyn a hyn ei bod yn bwysig i ni i gyd i weld cyfle i dorri tir newydd i'n pobol weld nad rhywbeth ffurfiol, traddodiadol yn unig, yw'n ffydd, a'n bod ni'n medru uniaethu â rhywbeth llawer mwy byw o ganlyniad.' (Y Parchg. Peter M. Thomas yn 'Seren Cymru', 5 Chwefror 1993). HOSPIS AR Y DAITH 'Roedd hospis yn y Canol Oesoedd yn golygu gorffwysfan i deithwyr blin yn ystod eu pererindodau meithion gyrchfannau crefyddol. Mae'r hospis fodern hefyd yn cynnig gorffwys i'r rhai sy'n flinderus-ond bod eu taith ychydig yn wahanol, sef y siwrnai ansicr yn ystod salwch difrifol. Gall hon weithiau fod yn hir a phoenus, bryd arall yn fyr a di-boen. Gwelwn rai yn ei rhodio yn wrthryfelgar, eraill yn dangnefeddus o dawel; pawb yn darganfod eu ffordd eu hunain o ymdopi yn yr argyfwng arbennig hwn. Mae yna lawer i'w wneud yn ystod y daith arbennig hon a'n gwaith ni yw ceisio sicrhau fod y claf yn medru byw bywyd mor llawn ag sydd bosibl o fewn cyfyngiadau'r afiechyd Mewn hospis mae yna lawer o bwyslais ar ansawdd bywyd yn ei gyfanrwydd. Rhaid edrych ar ôl y person cyfan, yn gorff, meddwl ac enaid ac yn aml fe welir tyfiant ysbrydol sylweddol yn ystod y cyfnod hwn. Nid yw yn beth anghyffredin gleifion ddatgan mai dyma amser gorau'u bywyd am fod yr afiechyd wedi peri iddynt newid eu blaenoriaethau a chanolbwyntio ar wir hanfodion bywyd.' (Dr. Rosina Davies yn 'Gwyliedydd', Chwefror-Mawrth 1993). CWMPEINI SAINT 'Tra bo Gweledigaethau'r Bardd Cwsg yn arw ac yn bigog, y mae Rheol Buchedd Sanctaidd yn addfwyn ac yn esmwyth. Tra bo'r Gweledigaethau yn sathredig ac yn llafar eu hiaith, y mae'r Rheol yn urddasol ac yn llenyddol. Sionc yw'r Gweledigaethau, araf yw'r Rheol. Mae'r naill yn ymosod, a'r llall yn enillgar. Pwyll O'R ac ystyriaeth dawel biau'r Rheol: angerdd a min biau'r Gweledigaethau. Diolch am gwmpeini saint fel Jeremy Taylor yn y traddodiad Cristnogol Cymraeg. Diolch am eu hanogaeth inni geisio mwy o sancteiddrwydd a duwioldeb, fel na theimlwn yn unig ymhlith plant dynion. Fe'n hamgylchir gan gyfeillion llafar, ymarferol, ysbrydol eu bryd, a chlywn ganddynt beunydd acenion gras. Diolch am y fath gyfoeth o lendid a daioni i'n cynorthwyo i weddïo ac i lenwi ein pleser â meddyliau am Grist.' (Bobi Jones yn trafod cyfieithiad Ellis Wynne o 'Rheol y Buchedd Sanctaidd', Jeremy Taylor, yn 'Y Cylchgrawn Efengylaidd,' Gaeaf 1992-3). BYWYD NEWYDD YN ALBANIA Oherwydd y degawdau o erlid creulon, testun syndod aelodau tîm o ymwelwyr o Gyngor Eglwysi'r Byd, oedd y bwrlwm bywyd yn yr Eglwys yn Albania. Yn ddiweddar agorwyd coleg diwinyddol mewn hen westy yn Durres heb bwt o wres ynddo a chyda nifer o'r ffenestri wedi eu torri. Er nad oes ddesgiau na llyfrgell y mae 80 a fyfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn ddynion yn eu tri a'u pedwar degau. Yn ddiweddar ordeiniwyd 35, yn offeiriad neu'n ddiaconiaid, sy'n teithio wahanol ardaloedd ar y Suliau ond sy'n parhau a'u hastudiaethau yn ystod yr wythnos. Dychwelwyd hanner cant o adeiladau eglwysig a ddefnyddid fel adeiladau secwlar dan y drefn gomiwnyddol a chafwyd adroddiadau bod cynulleidfaoedd yn niferus ac yn cynyddu'n gyflym. Er bod pawb dan 60 oed wedi byw ar hyd eu hoes dan y drefn gomiwnyddol y mae'r to iau yn dangos diddordeb mawr mewn dosbarthiadau Beiblaidd. Cyhoeddir papur newydd misol gyda'r enw 'Atgyfodiad'. (O'r 'Goleuad', 5 Mawrth 1993). RHYFEL CYFIAWN? 'Mae'n hawdd deall sut y gall amryw o foesolwyr fod o'r farn fod y syniad o 'ryfel cyfiawn' wedi ei oroesi. Os oedd yn safadwy erioed, nid yw'n gymwys o gwbl i'r byd sydd ohoni heddiw. Gellir meddwl nad ydyw ond esgus, rhesymoliad, ystryw a ddefnyddir gan rai sydd am ddefnyddio grym, i gyfiawnhau hynny iddynt hwy eu hunain ac i'r byd. Weithiau fe ddywedir fod rhai pobl, gwaetha'r modd, yn gorfod baeddu eu dwylo dros achos da, a bod hynny'n iawn hefyd. Ac fe all 'baeddu dwylo' arwyddocáu, mewn gwirionedd, losgi llond dinas o bobl mewn noson, 'mamau, plant, babanod, myrdd i'r sarn i'r gwir gael ei gwrs,' chwedl Waldo. Hawdd deall y farn na ellir cyfiawnhau rhyfel fel y mae wedi datblygu ers canrif neu ddwy.' (John Fitzgerald yn Narlith Goffa Lewis Valentine, Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru).