Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Erbyn heddiw dosbarthir drwy'r byd rhyw ddwy filiwn o'r Ysgrythurau bob mis mewn nifer fawr o ieithoedd, a rhennir y derbyniadau ariannol, fel am bob copi a ddosbarthir yn y wlad hon rhoddir un am ddim i wledydd tlotaf y byd.' Dim ond un enghraifft nodedig yw hon o waith gras Duw, ond clywn am filoedd o hanesion llai cyffrous efallai, ac eto yr un mor ddilys, o bobl yn dod gredu y Mherson Crist a derbyn maddeuant Duw drwy ddarllen yr Ysgrythur neu drwy hynny ynghyd â thystiolaeth unigolion. ENGHREIFFTIAU LLEOL Yr ydym wedi ein calonogi yn lleol drwy ymateb rhai pobl y cawsom y fraint o glywed eu stori; fel y Gymraes ifanc a gymerodd y Testament Cymraeg a gafodd ei brawd yn yr ysgol, ac ar ôl ei ddarllen am dros flwyddyn, a heb ei wir ddeall, rhyw fore daeth dan argyhoeddiad dwfn o bechod. Yna ar ôl clywed y Gair yn cael ei bregethu, daeth i ffydd yng Nghrist a sicrwydd o'i chadwedigaeth. Mae yn awr mewn Coleg Beiblaidd yn paratoi fynd yn genhades i wledydd tramor. Cafwyd enghraifft arall o fyfyriwr yn dwyn Beibl o un o westai Aberystwyth oherwydd rhyw awydd mawr yn dod drosto ar y pryd i'w ddarllen. Ar ôl misoedd o ddarllen, ac yng nghlyw yr Efengyl, cafodd ffydd gredu yn y Gwaredwr ac mae heddiw yn gwasanaethu gyda'r Birmingham City Mission mewn mannau anodd ac anghenus y ddinas. Ein hangen fel Cymdeithas yng Nghymru yw cael mwy o Gymry Cymraeg i ymgymryd â'r gwaith, ac i rannu yn y wefr o weld 'gwyrthiau'r Arglwydd' yn digwydd heddiw yn ein gwlad. Os bydd gennych ddiddordeb ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch, naill ai â'r Gedeoniaid Rhyngwladol (yn Ynysoedd Prydain) Western House, George Street, Lutter- worth, Leicestershire LE17 4EE, neu â leuan Jones, 13 Coedlan y Pare, Aberystwyth, Dyfed SY23 1PF. Y Mae Afon\ *? EVAN DAVIES Pe tasech yn digwydd edrych ar fap manwl o'r hen Sir Aberteifi, dinod iawn fyddai dynodiad yr afon Soden arno. Dim mwy na rhyw gynffon o edau sbâr ar ôl gorffen gwnïo botwm, ac eto dyma'r afon, yr unig afon wyf yn ei llwyr adnabod. Yn wir, am rai blynyddoedd, dyma'r unig afon y gwyddwn amdani, a phan fyddai sôn am yr lorddonen yn yr Ysgol Sul, yn ôl y Soden y mesurwn hi tipyn o gam â'r lorddonen, oherwydd rhyw ddeuddeg llathen ar draws, fwy neu lai, yw'r Soden! Beth bynnag, yr afon Soden oedd terfyn isaf y tyddyn lle'm magwyd, a syrthiai un ochr o'i chwm cul serth yr ochr isaf i'r tŷ. Lle ardderchog i sglefrio os gallech atal eich hun rhag disgyn dros Ian yr afon a disgyn rhyw bymtheg troedfedd i'w gwely caregog! Er ei bod tua pymtheg milltir o'i tharddiad i'w genau ac mai dim ond rhyw hanner milltir oedd yn rhedeg trwy ein tir ni, nid oedd amheuaeth gennym ni'r plant mai'n hafon ni oedd hi. Roedd ei chyflwr a'i thymer yn rhan o'n bywyd. Wedi glawogydd trymion, haf neu aeaf, nesaem ati gyda pharchedig ofn, oherwydd byddai yn llawn o ddwr llwyd a hwnnw'n rhuthro'n gyflym tua'r môr. 'Doedd dim gobaith ddyn nac anifail ddod yn fyw o'i chrafangau ffyrnig. Ond ar dywydd sych, braf yn yr haf, llifau'n loyw a soniarus rhwng y cerrig glân, a threuliem ddyddiau bwygilydd yn chwarae ar ei gwely a'i glannau. Y chwarae mwyaf difrifol oedd gwneud llyn mawr trwy atal ei llif bron yn gyfangwbl wrth adeiladu argae o gerrig mawr a mân yn grwn ar draws ei gwely ac yna hwylio cychod gwneud ar draws y llyn. Fel yr aem yn hyn, crwydrem yn bellach i fyny ac i lawr yr afon gan chwilio yn ei phyllau dyfnion am bysgod a llyswennod, ac am gnau a mwyar duon ar ei glannau. Prin iawn oedd ei phoblogaeth o frithyll. Unwaith yn unig y daliasom ddigon i wneud pryd a phryd bach oedd hwnnw! Gwyddem lle'r oedd yr afon wedi gadael twyni o gerrig mân bron fel tywod a lle ar ei glannau byddem yn fwyaf tebygol o gael coed mân i ddechrau tân. A chan mai i'r afon y taflai yr ychydig bobl oedd yn byw o fewn cyrraedd iddi eu sbwriel digon diniwed, 'roedd yna bosiblrwydd cyffrous o ddarganfod rhywbeth defnyddiol i chwarae efo fo, fel hen olwyn beic neu sospan i'w gwisgo fel helmet. Roeddem yn byw tua hanner y ffordd rhwng tarddiad a genau'r afon ac er mwyn cael digon o amser i gyrraedd y naill neu'r llall, roedd angen prynhawniau hir yr haf. Rhaid oedd trefnu'r anturiaethau hyn gan ‘od y ddau begwn yn rhy bell inni grwydro gerfydd ein trwynau tuag atynt. Byddai'n rhaid egluro absenoldeb o bedair neu bum awr.i'n rhieni, ac wedi cael eu caniatâd, a'u rhybuddion, ac yn fwy na dim, pecyn o fwyd, teithiem ar ddyddiau hirddydd hafan ein hieuenctid fyny ac lawr y Soden. Daethom i adnabod pob tro a throbwll ynddi. Profasom ei pheryglon a mwynhasom ei haddfwynder. Cawsom hwyl a helynt, dychryn a diddanwch. Yn y gaeaf cerddasom ei glannau gan ryfeddu at y newid yn ei gwedd a'i natur. Ni fynnai cydmar addfwyn yr haf ein hadnabod mwyach. Ysgybai bawb a phopeth o'i blaen. Aeth hamddena'r haf yn frys gwyllt y gaeaf. A phan beidiai'r llifogydd, a ninnau'n mentro 'nôl i'w glannau, gwelem fod llawer o bethau wedi newid-darn o tan wedi'i olchi ffwrdd fan yma, coeden wedi diflannu fan acw. Twmpath o 'ro newydd ar un tro a thro arall wedi diflannu'n llwyr; ac o dipyn i beth addewidion am anturiaethau a chwaraeon newydd ar gyfer yr haf nesaf yn amlygu eu hunain Trwy fod yn ei chwmni, daethom i adnabod ac i barchu'r afon. Felly hefyd mae dod i adnabod a pharchu'r Arglwydd. "Y mae afon a'i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf". (O'r Cylch, cychgrawn gofalaeth Porthaethwy (P), Ynys Môn).