V GORNEL WEDDI Arglwydd ein gobaith a Rhoddwr pob llawenydd, rho inni yn ein haddoliad awydd i'th geisio, oleuni i ddeall dy addewidion, ymddiriedaeth i bwyso arnynt, a'th Ysbryd i ennyn ymateb ein mawl. O Dduw ein Tad, deuwn o'th flaen i lawenhau yn dy addewidion hael ac i ofyn i ti eu troi yn fendithion ac yn brofiadau real yn ein bywydau. Dywedodd Iesu Grist, 'Lle mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol yr wyffi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Rhoddaist i ni, Arglwydd, addewid o'th bresenoldeb a'r sicrwydd dy fod yn agos atom bob amser, pa beth bynnag a ddaw i'n rhan. Er ein beiau a'n hanufudd-dod nid wyt ti byth yn ein gadael nac yn anghofio amdanom. Gweddiwn dros y rhai hynny sydd heddiw yr hen, yn unig ac yn ddiymgeledd, wedi eu hesgeuluso a'u hanghofio; y rhai sydd heb deulu na pherthnasau, eu cyfeillion wedi prinhau, eu cymdogion yn ddiethriaid iddynt, a'u hunigrwydd yn eu llethu a'u dychryn. Bydd yn agos atynt a rho iddynt ddiddanwch dy gwmni. Dywedodd Iesu Grist, 'Fe dderbyniwch nerth wedi i'r Ysbryd Glân ddod arnoch pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe'ch arwain chwi yn yr holl wirionedd,' Rhoddaist i ni, Arglwydd, addewid o'th Ysbryd i fod yn Gyfnerthwr ac yn Ddiddanydd i ni, i drigo yn ein mysg ac i'n calonogi. Nid wyt yn gosod arnom dasgau heb roi i ni hefyd dy rym i'w cyflawni, ac nid wyt yn ein hanfon i unman heb i ti ddod yn gydymaith i ni. ADDEWIDION 'Doed fy llef atat, 0 Arglwydd; gwared fi yn ôl dy addewid Hyn fu fy nghysur mewn adfyd, fod dy addewid di yn fy adfywio' (Salm 119: 169, 50). 'Dyma'r hyn a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol' (1 Ioan 2:25). Gweddïwn dros bawb sy'n gwangalonni yng ngwaith dy deyrnas: y rhai sy'n gweld y dyfodol yn dywyll; y rhai sy'n teimlo bod eu hymdrechion yn ofer; y rhai sy'n wedi colli gobaith a hyder, a'r rhai sy'n brwydro yn erbyn difaterwch a gwrthwynebiad. Bydd yn nerth ac yn gadernid iddynt, a dangos iddynt fod pob peth yn bosibl ynot ti. Dywedodd Iesu Grist, 'Yr wyfyn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwify nhangnefedd fy hun Peidiwch â gadael i ddim gynhyrchfu 'ch calon, a pheidiwch ag ofni. Rhoddaist i ni, Arglwydd, addewid o'th dangnefedd. Cynorthwya ni i ymagor i ti fel y bydd dy dangnefedd yn llenwi'n meddyliau, yn gorlifo'n calonnau, yn distewi'n hofnau ac yn gwasgaru'n hamheuon. Gweddïwn dros y rhai sy'n llawn dicter, a'u malais a'u hatgasedd yn creu anghydfod; y rhai sy'n anniddig a rhwystredig, dan feichiau gwaith a gofidiau; y rhai mewn sefyllfaoedd o ryfel a therfysg sy'n byw mewn ofn a pherygl. Cofleidia hwy yn dy dynerwch a llanw hwy â'th hedd. Dywedodd Iesu Grist, 'Yr wyffi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder. Rhoddaist i ni, Arglwydd, addewid o fywyd, a'r sicrwydd ein bod yn byw yn dy gariad, wedi'n creu ar dy ddelw, ac wedi'n galw trwy ras i gyfranogi o'th fywyd di. Gweddiwn dros y rhai sydd mewn tristwch a thrallod: y rhai y mae eu bywyd yn wag a diystyr; y rhai sy'n byw i bethau materol yn unig; a'r rhai sy'n anfodlon ac anniddig eu byd. Arwain hwy atat dy hun ac at gyflawnder y bywyd sydd ynot ti. Arglwydd, ti yw ein gobaith a'n nerth; ynot ti yr ymddiriedwn, yn awr a hyd byth. AMEN.