Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw' (Math. 5:8). Dyma un o adnodau mawr a mwyaf adnabyddus y Beibl ac adnod y mae iddi uchder a dyfnder na ellir mo'u mesur â mesurau'r ddaear. Mae ynddi gyfoeth ysbrydol dihysbydd. Y PUR EU CALON Y mae'r Bregeth ar y Mynydd yn siarter unigryw gweinidogaeth yr Arglwydd lesu yn y byd ac yn fynegiant diamwys o nod- weddion bywyd a chymeriad deiliaid ei deyrnas. Ac yn yr adnod hon ceir mynegiant clir, cryf a chadarn o berffeithrwydd ysbrydol y mae Cristionogion yn cyrchu ato'n gyson yn hyn o fyd ac i'w sylweddoli'n llawn ar ôl hyn. Mae'r tri chymal sydd yn yr adnod yn awgrymu tair elfen yn y perffeithrwydd hwn Perffeithrwydd perthynas: 'Gwyn eu byd.' Perffeithrwydd personoliaeth: y rhai pur o galon'; Perfeithrwydd profiad: canys hwy a welant Dduw.' Daw i'n cof eiriau nodedig lesu yn adnod olaf y bennod hon: 'Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.' (Mathew 5:48). Nid perffeith- rwydd y Duwdod a olygir, wrth gwrs, ond perffeithrwydd dynol Cristionogol. Yn ysbryd brawdgarwch a goddefgarwch Cristionogol tuag at grefyddau amryw ac amrwd y byd, daliwn mai perffeithrwydd dyndod yw'r Cristion, a pherffeithrwydd y Cristion yw'r Sant. Dyma yw nod a her parhaol y Cristion a'r Eglwys ar y ddaear. PERFFEITHRWYDD PERTHYNAS 'Gwyn eu byd Ymadrodd awgrymog a chyfoethog iawn yw hwn yn y Gymraeg. Saif lliw gwyn yn ein hiaith am y perffaith a lliw du yn hollol i'r gwrthwyneb. Ac y mae'r gair 'byd' hefyd yn cyfleu llawer iawn. Er nad yw ond diferyn o air mae iddo fôr o gynnwys. Mae'n peri inni feddwl am fyd uwchlaw'r byd hwn. Yn y cyfieithiadau Saesneg o'r ymadrodd cawn Blessed are. a How blest geiriau sy'n cyfleu bendith a'r graddau eithaf o fendith. Mentrwn ddweud nad yw agos cyn gryfed ag yn y Gymraeg. Gwelwn fod nifer o gyfieithiadau Saesneg diweddar yn trosi'r ymadrodd yn Happy ac yn How happy Yn bersonol, nid da gennyf o gwbl y gair Happy na Hapus yn y cysylltiadau arbennig hyn. Y mae gormod o flas hap ar hapus. Y mae gair arall sy'n fwy cydnaws â'r ystyr, sef dedwydd, fel y cyfieithir yn Y Ffordd Newydd: 'Mor dded- GWYNFYD TUDOR DAVIES 'Byd y perffeithio yw'r byd yma, nid byd y per- ffaith; byd y puro nid y pur; byd y dysgu nid y gwybod.' wydd yw y pur o galon, fe ga nhw weld Duw'. Er bod y gair hapus yn ddigon addas a didramgwydd mewn cysylltiadau cyffredin, rhaid pwysleisio nad ar unrhyw fath o hap a damwain, neu Iwc a ffawd, y dibynna dedwyddwch a gwynfyd pobl Dduw, ond ar eu perthynas â Duw. Mae'n hollol wir nad yw ein perthynas â Duw yn berffaith yn y byd hwn. Byd y perffeithio yw'r byd yma, nid byd y perffaith; byd y puro nid y pur; byd y dysgu nid y gwybod: 'Oherwydd amherffaith yw ein gwybod Yn awr gweld mewn drych yr ydym a hynny'n aneglur, ond yna cawn weld wyneb yn wyneb (1 Corinthiaid 13:12. BCN). Byd y cysgodion yw'r byd daearol hwn, y byd ysbrydol yw byd y sylweddau. Byd y paratoi a'r ymbaratoi yw byd amser, y byd tragwyddol y tu hwnt i amser yw'r Gwynfyd. Ystyr llawn Gwynfyd, fe ddaliwn, yw byd y berthynas berffaith lle nad oes na chlefyd na phoen na marwolaeth. Mae'r pwyslais 'Gwyn eu byd drachefn a thrachefn gan yr Arglwydd lesu yn yr adran hon. Mae hyn yn cyfeirio ac yn dyrchafu'n hysbryd a'n meddwl a'n hewyllys at y perffaith y Gwynfyd diledryw a diderfyn. Nid bod yn arallfydol yw hyn, ond cydnabod fod ystyr y materol yn yr ysbrydol, ac ystyr amser yn y tragwyddol, ac ystyr ein bywyd yma, i'w gyrraedd a'i gyflawni y tu draw i angau. Gesyd yr apostol Paul y gwirionedd mawr hwn mewn modd cofiadwy pan mae'n sôn am brofiad ei ffydd a'i gymeriad fel Cristion: 'Nid fy mod eisoes wedi cael hyn, neu fy mod eisoes yn berffaith, ond yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu'r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gan Grist lesu. Yr wyf yn cyflymu at y nod i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist lesu (Philipiaid 3:12, 14. BCN). Yr oedd y Gwynfyd llawn a'r berthynas berffaith â'i Dad Nefol yn ddyhead a thynfa gyson yr Apostol. PERFFEITHRWYDD PERSONOLIAETH 'Gwyn eu byd y rhai pur eu calon Dau air arbennig iawn ac o bwys neilltuol yn hanes crefydd yn yr Hen Destament a'r Testament Newydd yw pur a chalon. Mae'r ddau air yn pwysleisio'r mewnol, nid yr allanol; y gwirioneddol nid yr ymddangosiadol. Golyga pur yr hyn sy'n ddigymysg ac o'r un sylwedd drwyddo'i gyd. Byddwn yn dweud 'Aur pur' ac 'Awyr bur'. Dywedir hefyd 'Gwenwyn pur'-rhyfedd yw'r ymadrodd hwn ar un olwg, ond ei ystyr mae'n siwr yw fod y sylwedd yn wenwyn llwyr heb unrhyw ran nad yw'n wenwyn. Ond y mae pur, ym gymaint â dim, yn cyfleu ar hyn sy'n ddidwyll a dilychwin, fel gwydr clir golau y gellir gweld drwyddo heb ddim i amharu ar y gweld. Neu, a newid y ffigwr eto, oni ellir diffinio pur fel 'dwr pur'? Cofiaf yn dda flynyddoedd yn ôl, hyd tua deg neu unarddeg oed, fynd yn gyson i