yn y sector uwchradd y mae llawer o ysgolion yn esgeuluso'u cyfrifoldeb, neu yn fwriadol yn torri'r Ddeddf. Yn yr un modd, nid yw Addysg Gref- yddol yn cael ei thrin yn deg pan ddaw i ddewisiadau TGAU, naill ai drwy ei gosod mewn un golofn ddewisol, neu drwy ei gosod yn erbyn dewisidau afreal. O wneud hyn y mae prifathrawon a llywodraethwyr yn methu yn eu dyletswydd i'r disgyblion a dylai rhieni fod yn effro i hyn a mynnu bod disgwyliadau'r Cynghorau Ymgynghorol Statudol ar Addysg Grefyddol (CYSAG) yn cael eu gwireddu. CYNGHORAU YMGYNGHOROL Rhybuddiodd yr Archesgob y gallai'r bwriad i ad-drefnu llwyodraeth leol yng Nghymru gael effaith ar y CYSAGau. 'Mae'n hollol glir y byddai'n ffwlbri i gael 21 o CYSAGau ac felly 21 o feysydd llafur gwahanol yng Nghymru. Hyderaf y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn derbyn hyn ac yn cadw'r nifer o CYSAGau i 8. Byddai'n sarhad bod yr holl waith a wnaed eisoes ar y meysydd llafur newydd yn cael ei ddiddymu oherwydd newid Yr olaf o ysgrifau Glyndwr Williams ar hen gymeriadau clerigol hynod J. h ynne joi\es Euthum o Landinorwig, via Bangor, i Gaernarfon ac ni bûm yno'n hir cyti sylwi fod llawer o'r bobl hynaf yn dal i gofio am oes euraidd Yr Hen Wynne- Jones, er ei fod wedi gadael y plwyf ers hanner canrif. Cofient ef yn fwy na dim am ei garedigrwydd. Dywedai un wraig iddi ei weld un prynhawn yn tynnu'i sgidiau yn Stryd Llyn a'u rhoi i dramp a mynd adre'n nhraed ei sanau. 'Anghofía i byth mo'r peth,' meddai. Mab oedd i'r Hybarch Wynne-Jones, Archddiacon Bangor yn ei ddydd ac yn Nhreiorwerth yn Sir Fôn yr oedd hen gartref y teulu cefnog. Yn wahanol i John Gower a gafodd ond blwyddyn o goleg yn Birmingham a James Salt ddwy yn St. Aidan, Penbedw, cafodd Wynnejones y cyfle i fynd i Rydychen. Graddiodd yng Ngholeg Eglwys Grist ac ordeiniwyd ef yn 1875. Wedyn bu'n gurad yng Nghaernar- fon, ond ar ôl dwy flynedd yn unig, ac ef ond 26 mlwydd oed, dyrchafwyd ef i fod yn Ficer Aberdâr, tref ac ynddi ddeg mil ar hugain o drigolion. Cyn pen dim priododd Jessie, trydedd merch yr Arglwydd Aberdâr cyntaf, a fu mor ffiniau. Fodd bynnag, os bydd yr Ysgrif- ennydd Gwladol yn cadw'r rhif i 8, siawns na fydd yn sylweddoli hefyd bod yn rhaid darparu cyllid i weinyddu'r Cynghorau. Ar hyn o bryd disgwylir i'r Awdurdodau Addysg Lleol ariannu'r CYSAGau, ond credaf ei bod yn deg dweud nad oes yr un o GYSAGau Cymru yn cael ei ariannu'n ddigonol i gyflawni ei waith.' LLYFRAU NEWYDD Yn dilyn ei anerchiad lansiodd yr Arch- esgob Alwyn Rice Jones 16 o lyfrau newydd a gyhoeddir gan y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol. Y mae 15 ohonynt yn yr iaith Gymraeg, a chyhoedd- wyd un, sef Cristion Ydw I, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Sylfaenwyd y gyfrol ar Rhian (Roberts), geneth 10 oed sy'n mynychu Capel Coffa Henry Rees, Llansannan a'r Ysgol Gynradd yn y pentref. Mae'n byw yn Cae Du sy'n adnabyddus drwy Gymru ben baladr fel cartref William Salesbury. Felly dyma rychwantu pedair canrif yn hwylus. Tynnwyd y rhan helaethaf o'r ffotograffau yn arbennig ar gyfer y llyfr gan Richard Clements, Bae Colwyn ac fe welir llawer o wynebau a sefyllfaoedd cyfarwydd yn y flaenllaw ym mudiad sefydlu Prifysgol Cymru. The Honourable Mrs. Wynne-Jones oedd hi wedyn. Wedi chwe blynedd yn Aberdâr ac un flwyddyn yn esgobaeth Tyddewi dychwelodd WynneJones i fod yn Ficer Llanbeblig gyda Chaernarfon. Bu yno 0 1885 tan 1919, cyfnod o 34 mlynedd. Yn 1892 dechreuodd gylchgrawn misol i'r plwyf a pharhaodd i'w gyhoeddi tan 1918. Mae'r cyfrolau ar gael, ac felly gallwn edrych ar dref Caernarfon a'i phobl trwy lygaid sylwedydd craff a doniol a wyddai sut i wisgo digwyddiadau cyffredin y gymuned mewn iaith mor gain nes eu gwneud yn wir gofiadwy. Tref wedi ei chywasgu i gylch cyfyng iawn oedd Caernarfon yn yr hen ddyddiau. Oherwydd cyflwr gwael llawer o'r tai a chyntefigrwydd y garthffosiaeth ysgubodd llawer haint marwol drwyddi yn rhan gyntaf y ganrif ddiwethaf. Erbyn dyddiau WynneJones roedd pethau'n dechrau gwella, ond glynai tlodi mawr mewn rhai mannau. Roedd Caernarfon yn dref hynod am ei chymreictod (ac felly y pery) ac roedd y Ficer yn Gymro glân, ond yn Saesneg yr ysgrifennai bob mis. Dylanwad cryf y lleiafrif Seisnig, llawer ohonynt yn byw ym mhlastai bach y fro, oedd yn cyfrif am ffotograffau. Awduron y gyfrol yw Huw John Hughes a Rheinallt A. Thomas. Mae'r fersiwn Saesneg I am a Christian yn gyfad- dasiad o'r Gymraeg. Yr oedd Rhian ac amryw o rai eraill sydd a'u lluniau yn y llyfr yn bresennol yn y lansio. Teitlau eraill yn y gyfres yw Iddew Ydw I, Sikh Ydw I, Hindw Ydw I, Mwslim Ydw I. Y SYLWEDYDD