Anerchiad allweddol ar Addysg Grefyddol a'r Cwricwlwm Cenedlaethol Adnoddau Addysg Grefyddol Y mae gan yr eglwysi, yn ogystal a'r llywodraeth a'r Awdur- dodau Addysg Lleol, gyfrifoldeb i gefnogi a hybu addysg grefyddol yn genedlaethol ac yn lleol. Dyna oedd bwrdwn anerchiad Archesgob Cymru, y Parchedicaf Alwyn Rice Jones, mewn anerchiad yn y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol ym Mangor ar y 5ed o Fawrth. 'Dylai addysg ac addysg grefyddol fod yn faterion sy'n uchel ar agenda pob un llys enwadol. Dylai'r eglwysi gyda'i gilydd ar lefel leol, drwy ymgynghoriad ac nid mewn cystadleuaeth, sicrhau eu bod yn cael y corff gorau o Iywodraethwyr er sicrhau bod eu hysgolion lleol yn gweithredu'n effeithiol yn ôl y Ddeddf,' meddai'r Archesgob. CREFYDD A'R CWRICWLWM Sefydlodd Deddf Addysg 1988 bynciau craidd a sylfaenol ar gyfer Cwricwlwm Cenedlaethol. Un elfen a sefydlwyd gan y Ddeddf oedd y byddai Addysg Grefyddol yn rhan o'r cwricwlwm seiliol. 'Credaf ei bod yn angenrheidiol i bwysleisio hyn unwaith eto,' meddai Alwyn Rice Jones, 'oherwydd cyn belled ag y mae'r Ddeddf yn y cwestiwn, y mae Addysg Grefyddol yn bwnc statudol gyda'r un statws yn union â'r pynciau craidd.' Pwysleisiodd fod y Ddeddf yn disgwyl i'r cwricwlwm cyfan gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol a chorfforol disgyblion. Y mae hyn yn gyfrifoldeb ar ysgol gyfan a phob pwnc yn y cwricwlwm iaith, technoleg, gwyddoniaeth, ac yn y blaen, yn ogystal ag Addysg Grefyddol fel y cyfryw. Y mae hefyd yn gyfrifoldeb ar lywodraethwyr a phob aelod o staff. Gosodir hyn arnynt gan y Ddeddf. Yn ôl darpariaethau'r Ddeddf y mae tair elfen bwysig y mae'n angenrheidiol i ysgolion a'r Awdurdodau Addysg Lleol eu hystyried yn eu trefniadau ar gyfer Addysg Grefyddol, sef; natur y meysydd llafur a bennir; darparu 'amser rhesymol' yn y cwricwlwm ar gyfer Addysg Grefyddol, a natur yr addoliad a'i berthynas ag Addysg Grefyddol o fewn yr ysgol. 'Dylai Addysg Grefyddol gael cyfran o ddim llai na 5% o amser cwricwlwm ac y mae cyfrifoldeb ar brifathrawon a llywod- raethwyr i sicrhau fod hyn yn digwydd trwy holl flynyddoedd ysgol.' Y MEYSYDD LLAFUR Rhaid feysydd llafur Addysg Grefyddol adlewyrchu'r ffaith fod traddodiad cre- fyddol Prydain yn 'bennaf Gristnogol', ond rhaid iddynt hefyd roi sylw i'r prif gref- yddau eraill a geir ym Mhrydain. 'Mae'r gymdeithas aml ddiwylliannol ac aml gredöl yn realiti ymhob rhan o'n gwlad ni yma yng Nghymru,' meddai'r Arch- esgob. 'Ni all ein plant fod wedi eu haddysgu'n grefyddol onibai eu bod wedi cael cyfle i glywed, darllen, gweld a dysgu am gredoau ac arferion crefyddol amryfal grefyddau'r byd. 'Yn anffodus nid yw'r ymarfer o Gristnogaeth fel y gwelir hi gan y plant yn eu hannog i ymateb yn gadarnhaol. Maent yn gweld nifer fechan iawn o oedolion yn mynychu mannau addoli Cristnogol; ychydig o'u cyfodion sydd ag unrhyw gyswllt ag eglwys neu gapel, neu hyd yn oed ysgol Sul; nid yw safonau moesol Cristnogol yn cael eu coleddu; rydym yn gymdeithas sydd wedi ei chael hi mor dda fel nad ydym yn gweld yr angen am Dduw. Dyma brofiad byw y rhan fwyaf o blant ein hysgolion a dyma eu syniad am Gristnogaeth. 'Hyn hefyd, hwyrach, fyddai eu syniadaeth am grefydd drwodd a thro. Ond wrth gynnwys astudiaeth o greodau ac arferion crefyddau eraill o fewn cwricwlwm AG, hwyrach y byddant yn datblygu gael agwedd mwy cadarnhaol at grefydd yn ei chyfanrwydd. Maent yn gweld a dysgu am bobl gyda chredoau dwfn, wedi eu sylfaenu ar ysgrythurau ac arferion yn cael eu cynnal ar lefel bersonol. Mae eu ham- gyffrediad o grefydd fel rhywbeth sydd ag ystyr iddo ac fel rhywbeth sy'n gallu effeithio ar fywyd a'r ffordd o fyw o ddydd i ddydd yn cael ei ddyrchafu.' AMSER RHESYMOL Y mae'r meysydd llafur yn ddogfennau 'cyfreithiol' ac y mae cyfrifoldeb ar ysgolion ddarparu amser addas a digonol gyflawni'r hyn a ddisgwylir gan y maes llafur. Bu cytundeb cyffredinol rhwng y llywodraeth ac Awdurdodau Addysg Lleol y dylai Addysg Grefyddol gael cyfran o ddim llai na 5% o amser cwricwlwm ac y mae cyfrifoldeb ar brifathrawon a llywodraethwyr i sicrhau fod hyn yn digwydd trwy holl flynyddoedd ysgol. Ond