Teyrnged i Gyfaill: HUW WYNNE GRIFFITH ERASTUS JONES Y peth olaf a ddarllenais o waith Huw oedd ei deyrnged i Gwen Robson yn Cristion, Ionawr/Chwefror eleni. 'Roedd Gwen,' meddai, n dangos, mewn modd eithriadol, ystyr ecwmeniaeth ar raddfa'r aelod cyffredin. Yr oedd yr elfennau hynny a welir yng ngweithgarwch Cyngor Eglwysi'r Byd ysbrydoledd, gofal am yr amgylchedd, undeb, cyfiawnder, cymod yn amlwg yn ei bywyd hi. Fel Cristion unigol roedd ynfynegiant o fywyd corff byd-eang a hynny mewn rhyddid, gan mai bywyd yr Ysbryd ydyw. Dyna i mi ddisgrifiad o berson Huw ei hun, ac o drywydd ei fywyd, ac o'i amgyffred o swydd Eglwys Iesu Grist yn ein dyddiau ni. Roedd yn nodweddiadol ohono iddo osod 'ysbrydoledd' yn flaenaf yn y rhestr 'elfennau', beth bynnag am drefn y lleill. Roedd defosiwn personol disgybledig yn ganolog i'w holl fyw. DYLANWAD YR S.C.M. Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr a daniodd ei weledigaeth. Bu'n arweinydd yn y gangen ym Mangor ac yna'n Ysgrif- ennydd Teithiol dros Gymru. Roedd hi'n dal yn oes aur ar y Mudiad y pryd hynny. Ymwelai hoelion wyth y Gristnogaeth arloesol â'r canghennau. Daeth C.F. Andrews i Fangor gan adael y fath argraff ar Huw ifanc fel ag i ysgogi Huw'r hynafgwr i draddodi ei Ddarlith Davies arno a chyhoeddi gwerthfawrogiad ffres o'i gyfraniad yn ei lyfr: C.F. Andrews: Cyfaill Gandhi ac Arloeswr y Genhadaeth Gyfoes. Ymhob cyfarfod mawr canolog gan yr SCM roedd baner fawr mewn man amlwg yn dwyn y geiriau UT OMNES UNUM SINT ('Fel y byddent oll yn un'), adnod o weddi Iesu 'y nos y bradychwyd ef a adawodd ei ôl ar genedlaethau ohonom. Daeth Huw yn apostol y weddi hon. Yn Llawlyfr Gweddïo 1991 datganodd: 'Yn y byd heddiw y mae cannoedd lawer o eglwysi sydd yn wahanol i'w gilydd, ac yn annibynnol ar ei gilydd. Eu cenhadeth yw ceisio argyhoeddi y byd ddarfod i'r Tad ddanfon ei Fab i'r byd. Y mae'r Mab yn ei weddi arch-offeiriadol yn dweud yn gwbl eglur fod undeb ei ddisgyblion yn hanfodol i lwyddiant eu tystiolaeth iddo.' Fis Awst 1939 daeth Cristnogion ifainc y byd ynghyd yn Amsterdam, a Huw yn eu plith. Geiriau'r faner o'u blaen y pryd hwnnw oedd: CHRISTUS VICTOR ('Crist sy'n Fudduol. ') Yn y gred honno roedd Huw'n dal i fedu cyhoeddi, eto yn Llawlyfr 1991. `. am y rhai sydd am fynd i Deyrnas Dduw. Pobl yn edrych ymlaen ydynt. Rhybuddia'r Arglwydd ei ddisgyblion rhag disgwyl yn oddefol. Rhaid i'r gweision sy'n disgwyl eu Harglwydd weithio gweithio yn y Tŷ ac yn y farchnad.' Fe weithiodd Huw. HYRWYDDO'R MUDIAD ECWMENAIDD Roedd yn agos at y canol ymhob symudiad ffurfiol tuag at undeb gweledol ymhlith eglwysi Cymru, fynychaf fel ysgrifennydd: Trafodaethau'r Tri Enwad, y Pedwar Enwad; Cyfamodi Tuag at Uno. Er na lwyddodd y ddau cyntaf gael y maen i'r wal ac mai rhannol oedd llwyddiant y trydydd o ran cynnwys yr holl enwadau yn y Cyfamod, buont i gyd yn foddion magu perthynas agos rhwng arweinwyr o bob enwad a dwysau'r awydd i gyd-weithio rhyngddynt. Rwy'n credu mai'r mudiad gwirfoddol i 'gredinwyr' ecwmenaidd, sef Cymdeithas Ecwmenaidd Cymru, a'r mudiad i greu fframwaith a chyfle i enwadau dyfu a gweithredu gyda'i gilydd, sef Cyngor Eglwys Cymru, oedd agosaf at ei galon. Bu'n gadeirydd yn ei dro ar y ddau gan adael ei ôl arnynt. Etifeddodd y Gymdeithas draddodiad ac ewyllys da 'Urdd y Deyrnas', cynnyrch un o ragflaenwyr Cyngor Eglwysi'r Byd, Mudiad Bywyd a Gwaith, ynghyd â'i chylchgrawn Yr Efrydydd, y daeth Huw yn olygydd arno. Diben y Gymdeithas newydd, yn y Pum degau oedd ymateb i gyfnod newydd Cyngor Eglwysi'r Byd a lansiwyd yn Amsterdam ym 1948, a'i debyg yn fwy lleol, gan hyrwyddo'r mudiad ecwmenaidd yng Nghymru. Dan gadeiryddiaeth Huw daeth y Gymdeithas yn wir gyfeillach, a ysgogodd cymaint o weithgarwch cadarnhaol, gan gynnwys, er enghraifft, daearu gwaith Cymorth Cristnogol yng Nghymru. Wrth ffarwelio â'n cadeirydd, goddefwch i mi ddwyn i gof yn annwyl gyd-weithwyr caled eraill a'n gadawodd: John Campbell, Abel Ffowc Williams, Gwilym Williams (Arch- esgob Cymru yn ddiweddarach) a John Hughes (Jac) ein trysorydd. PARTNERIAETH Nid cadeirio pwyllgorau oedd unig na phrif gyfraniad Huw. Gwn fel ysgrifennydd i'r ddau gorff yn eu tro cymaint oedd ei weithgarwch o'r golwg. Roedd yn ysgafnhau baich fy swydd innau yn bur aml a buom yn cyd-ymgynghori yn gyson. Yn y bartneriaeth weithredol hon y daethom yn gyfeillion agos. Braint fawr i mi oedd cael cyd-gerdded â Huw ar ran helaeth o daith bywyd. Teyrnged i gyfaill y gwelaf ei eisiau yn fawr yw hon. (parhad ar dudalen 19)