Pedwar can mlynedd i eleni, ar 29 Mai 1593, crogwyd y Piwritan o Gymro, John Penri JOHN PENRI: FFANATIG YNTEU MERTHYR? R. TUDUR JONES Cofiaf glywed Dr. Islwyn Davies, pan oedd yn Ddeon Bangor, yn disgrifio Penri fel 'ffanatig o'r isfyd anghydffuriîoF. Ar yr un cywair yr oedd erthygl flaen y Times, union ganrif yn ôl, wrth sôn am ddienyddio Greenwood, Barrow a Phenri, yn mynegi'r gobaith na wnâi'r Eglwysi Rhyddion ddim i ganu clodydd 'í/iese misguided men'. Fel arall y bu. Fr Eglwysi Rhyddion arwyr oeddent. Yn y cyfamser bu newid yn yr hinsawdd. Yn un peth daethpwyd i wybod llawer iawn am Penri ac am ei yrfa, yn ogystal ag am yr esgobion yr oedd yn ymdderu â hwy. Ar ben hynny, bu diddordeb cynyddol yn ystod y deugain mlynedd diwethaf mewn sectariaeth. I haneswyr peidiodd y gair 'sect' a bod yn rhyw fath o reg ecwmenaidd gan fod y cymdeithasegwyr wedi ein dysgu i ddefnyddio'r gair i ddisgrifio math neilltuol o gymdeithas grefyddol. CYLFWR YSBRYDOL CYMRU Rhaid cydnabod fod Penri'n ysgrifennu'n dra ymosodol. Gallai ysgrafellu ei wrthwynebwyr yn ddidrugaredd. Daw hyn yn amlwg yn ei lyfrau cyntaf sy'n cynnwys ei ymgyrch tros gael gwell trefn ar fywyd crefyddol Cymru. Gorffennodd ei yrfa coleg yng Nghorffennaf 1586, yn wr gradd yng Nghaer- grawnt a Rhydychen. Yn Ionawr 1587 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, yr Aequity, ar ffurf deiseb i Dy'r Cyffredin. Yn ei ail lyfr, yr Exhortation, a gyhoeddwyd yn Ebrill 1588, anelodd ei saethau at Lywydd Cyngor Cymru, Henry Herbert, Iarll Penfro, un o garedigion yr iaith Gymraeg. Yn nechrau Mawrth 1589 ymddangosodd ei drydydd llyfr yn ymwneud â Chymru, y Supplication. Yr hyn a'i poenai oedd cyflwr ysbrydol Cymru. Cwynai fod y llywodraeth, byth er pan ddaeth y Frenhines Elisabeth i'r orsedd, wedi esgeuluso'r wlad. Prin iawn oedd pregethwyr effeithiol. Ceid llu o bersoniaid yn dal bywiolaethau heb fynd yn agos atynt gydol y blynyddoedd, mewn llu o blwyfi prin y ceid gwasanaeth crefyddol o gwbl. A sut bynnag, pa ddiben cynnal gwasanaethau yn Saesneg pan nad oedd y bobl yn deall yr iaith honno. A oedd y Cymry i fynd i golledigaeth am na wyddent Saesneg? Yr oedd bai mawr ar yr esgobion am esgeuluso eu dyletswydd ac edrych ar eu swyddi fel cyfle i fwynhau moethusrwydd yn hytrach na pharatoi bwyd ysbrydol i'r plwyfolion. Mae'r canlyniadau i'w gweld yn anwybodaeth erchyll y bobl am Gristionogaeth. Tystia eu rhegfeydd a'u hanfoesoldeb a'u hymroddiad i ofergoelion dlodi'r ddarpariaeth ysbrydol. Mewn gair, y mae cenedl gyfan yn mynd ar ei phen i uffern oni wneir rhyw symudiad buan i gyfarfod eu hangen. A beth yw'r feddyginiaeth? Digon o bregethwyr a wyr sut mae addysgu'r bobl trwy esbonio'r Beibl a gwirioneddau'r ffydd Gristionogol iddynt. A'r rheini, wrth gwrs, yn bregethwyr Cymraeg eu hiaith. Ac yr oedd yn rhaid wrth Feibl Cymraeg cyflawn. Y cam cyntaf i gyrraedd yr amcan hwn oedd cael gwared â'r drefn esgobyddol, trefn, meddai