cymysg. Os rhown yn hael i ryw achos da, yn fwy na thebyg fe erys yn ein calonnau fesur o hunan-foddhad am y weithred a disgwyliwn glod a diolchgarwch amdani. Ac nid yw'r un pregethwr mor ddiffuant nad yw'n teimlo balchder a hunan-foddhad o gredu ei fod wedi pregethu'n dda! Oni ddywedwyd wrth John Bunyan ryw ddiwrnod iddo bregethu'n rhagorol, ac atebodd Bunyan, "The devil already told me that as I was coming down the pulpit steps!" Felly, pwy mewn gwirionedd a all gyrraedd y purdeb hwn, a gwybod fod ganddo galon bur? Neb ohonom trwy ein cyrhaeddiadau ei hunan. Ond diolch i Dduw, fe allwn ddweud, "Gwyn eu byd y rhai sydd yn dod yn bur yng nghysgod y groes," oherwydd yno y mae'r tlawd yn yr ysbryd yn cael eu rhyddhau o bob amhuredd. Yno, o flaen y groes, y profwn wirionedd y geiriau, "Y mae gwaed lesu Grist yn ein glanhau ni o bob pechod" (1 loan 1:7). "Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd y cânt hwy eu galw'n feibion Duw." Y mae pwyslais ar heddwch a gwneud heddwch yn fynych yn nysgeidiaeth lesu Grist. Yr oedd yn briodol i gyhoeddi ei enedigaeth trwy i'r llu nefol ganu "Gogon- iant yn y goruchaf i Dduw ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd". Oni ddywedodd lesu ei hunan, "Carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sydd yn eich erlid, felly fe fyddwch yn feibion i'ch Tad sydd yn y nefoedd"? Y mae Efengyl Ioan yn dweud wrthym mai ei rodd olaf i'w ddisgyblion y noson cyn iddo farw oedd heddwch neu dangnefedd, "Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nghangnefedd fy hun." lesu Grist yw Tywysog tangnefedd, tangnefedd yn yr enaid ac ymysg dynion. Ac felly y mae'r gair tangnefedd yn un o allwedd-eiriau'r Testament Newydd, a'i ystyr canolog ydyw cymodi dyn â Duw. Yr oedd oes lesu, fel ein hoes ninnau, wedi ei rhwygo gan gasineb a gelyniaeth. Gwrthodai'r Iddew wneud dim â'r Samariad nac unrhyw Genedlddyn ychwaith; gwell oedd ganddo ei weld yn "Y tangnefeddwyr" marw na'i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd, ac yn yr un modd ni estynnai ei law tuag at y publican na'r pechadur. Nid gair negyddol yw'r gair tangnefedd yn yr Hebraeg; nid rhywbeth sy'n golygu absenoldeb gofid neu helbul yw Shalôm. Y mae'n golygu popeth sy'n arwain at ddaioni uchaf dyn. Y mae tangnefedd yn golygu, nid yn unig rhyddid o drafferthion, ond hefyd y mwynhad o bopeth sydd yn dda. A mae hynny'n golygu ein bod mewn iawn berthynas â'n cyd-ddyn ac mewn iawn berthynas â ni ein hunain hefyd. Y mae ymhob un ohonom dyndra mewnol, brwydr rhwng y da a'r drwg. Fe gawn ein tynnu i ddau gyfeiriad yn aml. Meddai Paul, "Yr wyf yn gwneud, nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, ond y peth yr wyf yn ei gasáu" (Rhuf. 7:15). Felly, y mae'n bwysig ein bod mewn heddwch a thangnefedd, nid yn unig â'n brawd, ond hefyd â ni ein hunain. Ond amhosibl yw i ni gyrraedd at y cytgord hwn hyd nes inni ddod iawn berthynas â Duw. Ac ni allwn ddod o hyd i'r tangnefedd hwn heb ein bod yn gyntaf yn cydnabod ein bod yn dlawd yn yr ysbryd ac yn dod i gysgod y groes, y man lle y mae heddwch wedi ei wneud rhwng y nefoedd a'r ddaear. Dim ond wedi inni ddod yn feibion i Dduw y gallwn fod yn wir frodyr i'n gilydd. "Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd." Nid yw'r gwynfyd yma allan o Ie yn ein hamser ni. Nid adlais o oes sydd wedi darfod mohono. Y mae erledigaethau yn bod o hyd ac y mae dilynwyr Crist yn dal i gael eu cadwyno a'u carcharu. Ac efallai mai felly y dylai hi fod. Os nad oes neb am ein herlid ni, onid y rheswm am hynny yw bod ein Cristnogaeth eisoes wedi ei chondemnio gan mor llugoer ydyw fel na wêl y drygionus unrhyw werth ynddi i'w herlid, dim ond ei hanwybyddu'n gyfan gwbl? A fu dywediad fwy paradocsaidd na hwn erioed? Y mae arweinwyr eraill, o ragweld trafferthion mawr, wedi cymell eu dilynwyr i achub y blaen ar eu gelynion trwy eu gwrthwynebu. Ond y mae lesu, i'r gwrth- wyneb, yn cymell ei ddilynwyr i dderbyn erledigaeth ac i fod yn llawen ym mhob caledi, oherwydd, meddai, "felly yr erlidiwyd y proffwydi a fu o'ch blaen chwi." I ni y mae hyn yn achos galar, ond dywed lesu wrthym i lawenhau. Awgryma mai cwmni llawen yw cwmni'r proffwydi a'u bod yn croesawu dilynwyr yn llawen i'w cymdeithas. Y mae erledigaeth yn ganmoliaeth i ber- son oherwydd y mae'n profi ei fod yn cael ei gymryd o ddifrif. Nid oes neb yn erlid dyn sydd yn ddi-fudd. NI ddaw erledigaeth ond i'r person sydd â'i fywyd mor gadarnhaol fel bod cymdeithas yn ei ystyried yn berygl. Y mae erledigaeth yn gyfle i ddangos teyrngarwch, oherwydd pan ddaw'r storm daw prawf ar ein Cristnogaeth. Fe rydd erledigaeth gyfle i'r Cristion ddangos nad oes arno gywilydd o'r Efengyl ac nad yw'n ofni dangos eiddo pwy ydyw a phwy y mae'n ei wasanaethu. Ar y llaw arall, y mae'n wir dweud nad yw pob erledigaeth yn wynfydedig. Y mae'n rhaid i'r cymhelliad fod yn gywir. Fe all dyn ddioddef merthyrdod yn ddewr, yn ogoneddus ac yn urddasol, ond o'r cymhellion mwyaf anghywir. Ond y mer- thyron sydd yn dlawd yn yr ysbryd, y rhai sy'n dilyn ôl traed y Crist, yw'r rhai y dywedodd Pedr wrthynt, "Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael i chwi esiampl, i chwi ganlyn yn ôl ei draed" (1 Pedr 2:21). Y rhai sydd yng nghysgod y groes a eilw Crist yn wynfydedig ac eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.