Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb gyfrif troseddau dynion yn eu her- byn, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod." Da yw inni gofio hyn yn ystod Degawd yr Efengylu, a'n cenadwri i bobl "y ffenomen newydd, sef Cymry ymwybodol o'u Cymreictod a sydd yn anghredinwyr proffesedig", y sonia'r Dr. John Davies amdanynt yn Hanes Cymru, yw: "Felly cenhadon yn cynrychioli Crist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Yr ydym yn deisyf amoch, er mwyn Crist, cymoder chwi â Duw." A dyna'r peth-eisiau'n cymodi ni ddynion, yn wyr a gwragedd, â Duw sydd yn ein newid ni, nid newid y Cariad digyfnewid. Gall rhodd ddigonol Duw yng Nghrist wneud y neb a gredo'n rhan o'r greadigaeth newydd ac yn ymwybodol o gariad Crist yn ei annog a'i orfodi, neu yn ôl un cyfieithiad Saesneg, "ei lywodraethu". Oedd, yr oedd Crist "yn leicio gneud", a hynny am ei fod yn rhan o'r realiti dwyfol y dywedodd Hiraethog amdano: Dyma gariad fel y moroedd, Tosturiaethau fel y IIi: T'wysog bywyd pur yn marw, Marw i brynu'n bywyd ni: Pwy all beidio â chofio amdano? Pwy all beidio â thraethu'i glod? Dyma gariad nad a'n angof Tra fo nefoedd wen yn bod. Yr olaf o fyfyrdodau'r Parchedig W. Alwyn Lloyd ar Y GWYNFYDAU "Gwyn eu byd y rhai pur o galon, oher- wydd cânt hwy weld Duw." Pe baem yn cynnal cystadleuaeth yn ein cynulleidfaoedd er mwyn canfod pa un o'r gwynfydau a ddeuai gyntaf i'r cof, y mae'n sicr mai hwn a fyddai'n ennill bob tro. Y mae pob plentyn a arferai ddweud adnod, neu sy'n dal i ddweud ei adnod yn yr oed- fa, wedi dweud hon rywbryd neu gilydd a mwy na thebyg wedi ei dweud hi fwy nag unwaith gan ei bod yn standbei go dda. Ac y mae hynny'n syndod mawr pan ystyriwn pa mor anghyraeddadwy yw'r gwynfyd hwn. Ond y mae un peth yn sicr, nid yw lesu byth yn gwawdio ein gobeithion. Beth yw purdeb calon? Y mae'r galon fel rheol yn y Beibl yn golygu'r holl ber- sonoliaeth. Y mae'n golygu nid yn unig yr Ar Galfaria yr ymrwygodd Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr; Torrodd holl argaeau'r nefoedd Oedd yn gyfain hyd yn awr: Gras a chariad megis dilyw Yn ymdywallt yma 'nghyd, Y Drindod yn y Groes emosiynau ond hefyd yr ewyllys a'r meddwl. Y gair a ddefnyddir yma am burdeb yw kathros. Yn wreiddiol golygai lendid neu bod yn lân. Er enghraifft, gallai gael ei ddefnyddio am ddillad a drochwyd ac a olchwyd yn lân. Defnyddiwyd y gair hefyd am ŷd a nithiwyd oddi wrth yr us, am win neu laeth a oedd heb ei gymysgu â dwr, neu fetal pur nad oedd yr un mymryn o aloi yn gymysg ag ef, megis aur pur. Ystyr gwreiddiol kathros oedd rhywbeth pur, digymysg. Felly, fe ellir cyfieithu'r gwynfyd yma fel hyn: 'Gwyn fyd y dyn sydd â'i gymhellion yn ddigymysg, oherwydd y dyn hwn a gaiff weld Duw." Efallai mai'r ddau syniad llywodraethol yw cywirdeb meddwl ac unplygrwydd cymhelliad. Yn anaml iawn y cawn ein hunain yn rhydd o gymhellion A chyfiawnder pur a heddwch Yn cusanu euog fyd. Y GROES A'R DRINDOD Yn yr Eisteddfod prynais gyfrol ddiddorol y Canon Glyndwr Williams, Y Tair Coeden. Yn honno y mae'n cyfeirio at, i'w ddyfyn- nu: "Un o'r darnau gwydr lliw hynaf yng Nghymru." Yn Eglwys Llanrhychwyn y mae'r dam hwnnw i'w weld. Yn ôl yr awdur, "Fe'i gwelir yn y ffenestr uwchben yr allor a darlun yw o'r Drindod'. Dengys y,Tad yn dal pwysau'r Groes a'r Mab ynghrog arni, a'r Ysbryd ar ffurf colomen yn ei fynwes." Nid oes yn y dehongliad gweledol hwn "wahanu'r Sylwedd". Fel y mae'n digwydd y mae pennill o waith Pantycelyn wedi ei osod i'w ganu, yn dilyn dau bennill Hiraethog, yn Emynau'r Eglwys. Y mae hon eto'n datgan undod Duw yn ei berthynas â marwolaeth Crist, rhag inni amau bod rhyw ran ohono nad oedd "yn leicio gneud". Dyma'r pennill: O ddyfnderoedd o ddoethineb! O ddyfnderoedd maith o ras! O ddirgelion anchwiliadwy, Bythol uwch eu chwilio i maes! Mae Seraffiaid nef yn edrych Gyda syndod bob yr un Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol- Duw yn marw dros y dyn. Ers ymddeol ychydig flynyddoedd yn ôl o blwyf Uanilar, Ceredigion, bu'rCanon Dewi Thomas yn byw yn Rhydaman. "Y pur o galon"