1. Y mae Macquarrie'n ddiwinydd cyfoes sy'n edrych ar gwestiynau diwinyddol o'r safbwynt anthropolegol. Dyn a'i broblemau ynghanol y sefyllfa gyfoes a'i obeithion ynglyn â'r dyfodd sy'n bwysig iddo. Mae cynnwys ei ddiwinyddiaeth yn ei alluogi i gydnabod yr elfen o barhad sy'n bodoli rhwng Cristionogion a phobl eraill ar y lefel foesol ac ar y lefel grefyddol, er ei fod ef yn ofalus iawn i egluro'r gwahaniaeth rhwng eschatoleg Gristionogol a'r hyn a eilw yn scientific futurism: Yn wir, yn y cyswllt hwn y gwelir ei ddawn ar- bennig i ddadansoddi gwendidau a pheryglon y ddynoliaeth nad yw'n medru dirnad nac ymateb i'r sanctaidd ynghanol bywyd. 2. Wrth iddo bwysleisio dynoliaeth lawn yr Iesu y mae Macquarrie'n pwysleisio'i gyfoesedd ar yr un pryd. Mae'n ail ofyn cwestiwn Bonhoeffer: 'Pwy yw Iesu Grist i ni heddiw?' gan fynnu nad gwirionedd haniaethol yw'r gwirionedd amdano ond gwirionedd byw a rhyddhaol sy'n gofyn am ymateb llwyr dyn, ac nid ei ymateb ymenyddol yn unig. Gwirionedd yw gwirionedd Crist sy'n esgor ar effeithiau creadigol ac adeiladol. Yn y cyswllt hwn mae gan Mac- quarrie lawer i'w ddweud am foeseg Gristionogol gan bwysleisio'r cysylltiad hanfodol rhwng ymchwil hunan ymwadol y Cristion am gyfiawnder â'r awydd am gymod. 3. Er bod Macquarrie'n feirniadol o bietistiaeth arallfydol ac yn achub pob cyfle i dynnu sylw Cristionogion at eu cyfrifoldebau yn y byd, eto y mae ganddo le arbennig i ras Crist ac i waith yr Ysbryd Glân yn yr Eglwys. Mae'n werth sôn yn y cyswllt hwn am bererindod ysbrydol Macquarrie ei hun o Galfiniaeth Eglwys yr Alban at Eingl-Gatholigaeth sacramentaidd ei naws. Meddai am y Cristion mewn pamffledyn ar 'Yr Eglwys a'r Weinidogaeth': 'Cred bod cyflawniad cymeriad yn rhywbeth mwy na ffawd genedigaeth neu amgylchfyd neu'n ffrwyth ymdrech ddynol ddigymorth, ond bod gweddi, y sagrafennau a bywyd yn y gymdeithas Gristionogol o'r pwysigrwydd mwyaf: Meddai wedyn am yr Ysbryd Glân yn ei lyfr Gostyngeiddrwydd Duw: 'Y mae Ef yn ein gwahodd ni i fywyd ysbrydol dyfnach, nid yn yr ystyr o fyfyrio'n dawel ar wirioneddau tragwyddol, ond yn yr ystyr o adael i'n bywydau gael eu meddiannu a'u cyffroi gan weddïau a dyheadau'r Ysbryd, ie gan ei wewyr a'i ddio- ddefaint yn a thros y greadigaeth gyfan, oherwydd y mae ymdrechu'r Ysbryd yn un â dioddefaint Crist.' Mae Macquarrie'n awyddus i weld y darlun organaidd o Dduw sy'n pwysleisio ei gysylltiad gwaredigol â'r byd yn cymryd lle y darlun monarchaidd ohono, sef yr hen ddarlun sy'n gosod Duw gyferbyn â'r byd. Nid yn unig y mae'r diwinydd cyfoes hwn yn pwysleisio perthynas Cristionogion â'r byd ond mae'n pwysleisio eu safle fel stiwardiaid cyfrifol creadigaeth Duw wrth iddynt gyd-weithio â phobl eraill i fagu ymateb mwy cyfrifol tuag at yr amgylchfyd; amgylchfyd a fygythir mewn modd mor ddifrifol gan awydd hunan ddinistriol y ddynoliaeth i ymelwa. Y mae'r Parchg. Athro Eifion Powell yn Athro Hanes yr Eglwys yng Ngholeg yr Annibynwyr Cymraeg, Aberystwyth. NADOLIG LLAWEN! Y Nadolig hwn cyfarchwch eich cyfeillion gyda chardiau Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol Brynrefail yn yr eira (C.C. Hall) Eglwys Llanbadarn Fawr a'r Llew Du (A. Worthington) Cynllun ffenest o Eglwys Llanspyddid Y Llifwr (John Petts) Mair, yr Iesu a'r Doethion (o lawysgrif Cwrtmawr) Cyflwyno anrhegion i'r Iesu (o Lyfr Oriau) Mul a throl yn yr eira (Llandysul c 1890) Y Doethion ('Cymru'r Plant' 1959) Rhan o Efengyl Luc (Gwasg Gregynog, 1927) 25c yr un — Ar gael gyd chyfarchiad Cymraeg neu â chyfarchiad dwyieithog Cludiant- £ 2.00 neu 10% ar archebion dros £ 20.00 I archebu nodwch deitl y cardiau, y nifer, iaith y cyfarchiad a'ch enw a chyfeiriad ar ddalen lân o bapur Anfonwch ef gyda'ch tâl i'r cyfeiriad isod Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth, Dyfed, SY23 3BU