greadigol ac yn abl i wneud yr amhosibl yn bosibl. Gwelwn fod hanes diweddar Iwrop yn dangos sut mae hyn yn digwydd yn y cylch seciwlar, ond hyd yn oed yn y fan honno y mae tystiolaeth gyson merthyron a dioddefwyr Cristnogol yr ugeinfed ganrif wedi gadael ei hôl, a'r eglwys wedi gwneud cyfraniad yn ei chystudd a'i dioddefiadau! Gobeithio mai tro gorllewin Iwrop fydd cael diwygiad rhag i'n bydolrwydd lygru gore'r dwyrain! GAIR O ARGYHOEDDIAD Dros y blynyddoedd mae cyfrolau wedi eu sgrifennu ar bregethu, ac mae'n syndod faint sydd yn y dyddiau hyn. Mae George Target wedi sôn mewn dwy gyfrol fechan am 'TELL IT THE WAY IT IS' a 'WORDS THAT HAVE CHANGED THE WORLD: Yn ei ddull pryfoclyd dywed fod pregethu wedi gwacáu yr eglwysi. Nid dadlau y mae fod y Gair yn ddirym, ond fod y gair amherthnasol yn ddirym. Tra bo'r eglwys yn cyflwyno'i neges mewn modd llenyddol, does dim syndod fod cyn lleied yn gwrando! Ceir pwyslais mwy cadarnhaol gan Howard Williams a Colin Morris. Mae Howard Williams yn rhoi cryn bwyslais ar bregethu proffwydol, ac ar ddylanwad y gair. Dyfynna Bernard Levin sy'n sôn am ddylanwad geiriau mewn llenyddiaeth yn ddigon i'n ffurfio, ein newid, a bron ein creu. Mae Colin Morris, yntau, Sain a Synnwyr, Huw Williams, W. Williams a'i Fab, Treffynnon. £ 1.50. 'Rwy'n cofio fy mam yn ceisio dysgu bachgen tua saith oed i ledio emyn 115, ac yn cael trafferth fawr i'w gael i ynganu'r gair 'helbulus' ym mhennill William Edwards Y Bala: 'Does dim yn gwir ddifyrru foes Helbulus yn y byd Wedi sawl ymgais dyma'r crwt yn egluro'i broblem, "Dwi ddim yn gwybod beth ydi 'bulus' heb sôn am fynd allan i'w 'hel' nhw"! Daeth y stori yna i'm meddwl wrth ddarllen y ddarlith gyfoethog hon a draddodwyd yn Nhre'r Ddôl fis Medi y llynedd. Ynddi mae Huw Williams yn ymholi faint o ymdrech a wneir heddiw i ddeall yr hyn a genir gen- nym mewn oedfa. Yn wir, mewn ambell Gymanfa Ganu ni wneir unrhyw ymgais i egluro neges emyn, a 'does ryfedd fod ein yn wynebu'r haeriad bod dydd y bregeth wedi darfod, ac yn mynnu os yw'r bregeth wedi darfod, felly hefyd y mae tranc yr eglwys yn ymyl, oblegid trwy bregethu y daeth i fod, a thrwy bregethu y bydd byw. Peth arall yw pregethu perthnasol. Rhaid dechrau ble mae'r gynulleidfa, ac nid ble 'roedd pobl y canrifoedd gynt. Nid yw gwybodaeth o ddaearyddiaeth y Beibl dda i ddim os nad yw gwybod ble mae nhw 'nawr, a beth yw ystyr y Gair iddynt yn eu sefyllfa bresennol. Rhaid hefyd siarad yn iaith y bobl, yr iaith sy'n ddeallus i'r rhai y bwriedir y neges. Un peth arall, mae lle i amrywiaeth mewn patrymau pregethu, nid yn unig ymysg pregethwyr, ond yn yr un weinidogaeth. Rhaid rhoi lle i'r bregeth esboniadol, athrawiaethol, gymdeithasol, genhadol a phersonol, a ble bynnag mae dyn yn dechrau, rhaid gorffen gyda Duw yn ei air, yn galw a herio, yn diddanu ac ysbrydoli. Rhaid cydnabod ar derfyn dydd mai gweision anfuddiol ydym, a gofyn 'Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?' Ond Duw addawodd na ddychwel Ei air ato yn wag. Ef sy'n rhoddi'r cynnydd. (Paratowyd yng nghyfres Darlithiau Coffa Dewi Gravelle, Coleg y Bedyddwyr, Bangor. Traddodwydy ddarlithyn Hermon, Abergwaun, 24 Ebrill 1991, gan fab y diweddar Barch. Raymond Williams, Mr. Rhodri Williams. Copïau o'r ddarlith gyflawn ar gael oddi wrth y Parchg. Idwal Wynne Jones, 23 St. Andrew's Place, Llandudno, Gwynedd, Ysgrifennydd Coleg y Bedyddwyr, Bangor. Pris 50c.) hoedfaon mor swrth a di-egni. Nid safon Cymraeg addolwyr heddiw yn unig sydd dan y lach gan Huw Williams ond diffyg cefndir ysgrythurol hefyd, ac ofnaf fod ei gyhuddiadau yn gwbl wir. Gwaethygu fydd hanes pethau os nad ailgyflwynir cyfrol debyg i'r Rhodd Mam ar newydd-wedd i'n plant a'n hieuenctid. 'Cael bod yn fore dan yr iau' yn wir. Sonia Huw Williams hefyd am dafodiaith mewn emyn, gyda'r Gogleddwyr (druan ohonom) yn canu geiriau fel 'tyle', 'brwnt' a 'lan'. Dichon na fedr Gogleddwyr heddiw ymdopi ag iaith Pobol y Cwm! Nid problem i Ogleddwyr yn unig yw iaith y De ychwaith. Yr wyf wedi arwain llawer Cymanfa yn Ne Cymru erbyn hyn, ac fel Gogleddwr yn gorfod atgoffa hyd yn oed bobl Sir Gâr mai 'ma's' sy'n odli gyda 'gras', nid 'maes'. Yna â'r darlithydd ymlaen i nodi ei bod yn fanteisiol gwybod beth yw cefndir hanesyddol rhai o'r emynau y byddwn yn eu canu ac o dan ba amgylchiadau y lluniwyd hwy. Y mae hefyd yn trafod tonau addas, er na allaf fi (a an- wyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd) gytuno ag ef pan gyfeiria at 'Vienna' fel 'alaw-ymdeithgan- filitaraidd'. Alaw-werin o Croatia yw sail yr alaw a ehangwyd gan Haydn ac a ddefn- yddiwyd ganddo ar gyfer cerdd o glod i'r Ymherawdr Francis ac yn ddiweddarach ar gyfer amrywiadau tangnefeddus o hudolus yn y Pedwarawd yn C. Fel gyda phopeth arall ynglyn â'n caniadaeth a ddaw o ysgrifbin Huw Williams y mae'r ddarlith hon yn ddiddorol ac yn werth i'w darllen. Byddai trafodaeth ar ei chynnwys yn burion peth mewn Seiat. Salm 23 Detholiad o fersiynau Cymraeg, gol. Rhidian Griffiths, Cymdeithas Emynau Cymru, £ 1.50. Salm 23 Salm pob achlysur yw'r fwyaf adnabyddus yn siwr o'r salmau i gyd. Bu beirdd ar hyd y canrifoedd yn ei mydry- ddu, a phwrpas y llyfryn hwn yw dangos sut yr aethant at y dasg. Mae cymharu'r gwahanol fersiynau yn ddiddorol. Yn rhan gyntaf y casgliad ceir pedwar fersiwn o'r Salm ar ei ffurf Feiblaidd, a chawn sylwi na fu newid yn yr adnod gyntaf ers cyfieithiad William Morgan ym 1588. Dilynnir hwy gan un ar hugain o ffurfiau mydryddol yn rhychwantu'r canrifoedd o gyfnod y cynganeddwr Wiliam Midleton (cl550 cl600), hyd emynydd ein dyddiau ni, W. Rhys Nicholas. Yn naturiol, y mae mesur barddonol yn caethiwo symlrwydd y salm wreiddiol a rhaid cael geiriau a chymalau llanw i gadw'r mydr a'r odl cymalau fel 'On'd tirion ydyw'r arfau?' 'Fel na ddichon gwr na gwraig/Na diawl, na draig fy nrygu', 'Caersalem newydd', 'ffair y byd', ac yn y blaen. Fy hoff fersiwn i yn y casgliad yw eid- do Gwilym R. Tilsley (rhif 21) gan ei bod yn cadw mor agos at y gwreiddiol. Synnais rywfodd na welodd fersiwn Simon B. Jones (emyn 67 yn Y Caniedydd) olau dydd yn y casgliad hwn. Argraffwyd y llyfryn yn daclus gan Wasg Pantycelyn, er bod gofyn cael sgwrs â'r Cyfrifiadur ynglyn ag union leoliad yr acen grom! Llithrodd 'Er fod' hefyd i mewn i gerdd W. Rhys Nicholas. Serch hynny, gem o gyfrol yw hon. Ifor ap Gwilym, Aberteifi