CYNNWYS Llyfrau Newydd 2 Golygyddol 3 Shelter Cymru 3 Lena 4 Alwyn I. Williams Gweinidogaeth Gwrando 5 Peter M. Thomas Ochr yn Ochr yn Enw lesu 7 John Macquarrie 7 W. Eifion Powell Proffwyd yr Arglwydd 10 John H. Tudor Y Gwynfydau 12 Alwyn Lloyd 'Mark Rutherford' 13 lorwerth Jones Y Cwis Ysgrythurol 14 Haydn Davies Dod Ynghyd 15 Morgan D. Jones Gair o'r Gair 18 D. Hugh Matthews Byd y Pregethwr 19 Raymond Williams Adolygiadau 21 Ifor ap Gwilym Gair Duw a Geiriau Dynion 22 F.M. Jones Y Gornel Weddi 23 Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: E. ap Nefydd Roberts, Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth SY23 2LT. Ffôn: 0970-624574 neu 828745. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: John Williams, Saunton, Maesdu Ave.. Llandudno. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: Maxwell Evans Ysgrifennydd y Pwyllgor: W.H. Pritchard. Cylchrediad a Hysbysebion: Alun Creunant Davies, 3 Maes Lowri, Aberystwyth. Ffôn: 0970-612925 Argraffwyr: Gwasg John Penry, 11 Heol Sant Helen, Abertawe. 0 Wasg Efengylaidd Cymru MEDDIANNU TIR IMMANUEL Cymru a Mudiad Cenhadol y Ddeunawfed Ganrif Dewi Arwel Hughes Clawr meddal 60 tud. £1 .99 Ar ddechrau'r 'degawd efengylu', mae'n gymwys ein hatgoffa ein hunain o'r cyfnod disgleiriaf yn hanes efengylu'r byd er oes yr apostolion. Nid am ddim y gelwir y bedwaredd ganrif ar bymtheg y 'Ganrif Fawr' yn hanes twf yr eglwys Gristnogol. Beth a roddodd i'r eglwys y fath Iwyddiant? O ble daeth y weledigaeth a barodd i gannoedd nage, miloedd adael eu cartrefi a'u mamwlad a mentro i wledydd pell i gyhoeddi neges yr efengyl? Beth oedd rhan Cymru yn y mudiad cenhadol? Pwy oedd y prif gymeriadau? A beth, wedi'r cyfan, yw ystyr 'cenhadu'? I ddarganfod atebion i gwestiynau fel hyn, mae'r Dr. Dewi Hughes yn ein tywys yn ôl i'r ddeunawfed ganrif. Cawn olwg nid yn unig ar gyfraniad rhai arweinwyr crefyddol amlwg fel Griffith Jones, Llanddowror, a Williams Pantycelyn, ond hefyd ar gyfraniad cymeriadau lliwgar ac anturus fel John Evans a'i Indiaid Cochion Cymreig a John Davies, yr athro tlawd o Sir Drefaldwyn a dreuliodd tua hanner canrif yn genhadwr ar ynys Tahiti bell. Os yw'r eglwys Gristnogol yng Nghymru am weld adfywiad ac ennill tir yn ystod y degawd sydd o'n blaen, bydd angen iddi ailafael yng ngweledigaeth Williams Pantycelyn a'i gyfoeswyr. Ac wedyn, pwy a ŵyr na fydd y ganrif nesaf yr un mor gyffrous a'r 'Ganpf Fawr'? O ardal y Bala y daw Dr. Dewi Hughes yn wreiddiol, ond y mae wedi ymgartrefu ers blynyddoedd ym Mhontypridd. Bu'n ddarlithydd mewn astudiaethau crefydd ym Mholitechnig Cymru, Trefforest, ac ef bellach yw trefnydd 'Tear Fund' yng Nghymru. DẂR YN YR ANIALWCH D. Martyn Lloyd-Jones Clawr meddal 20 tud. 75c Deng mlynedd yn ôl bu farw'rpregethwr dylanwadol Martyn Lloyd-Jones, ac eleni gwelwn Wasg Efengylaidd Cymru yn ailgyhoeddi un o'i bregethau mwyaf adnabyddus. Pregeth ar Eseia 35:7 yw hon, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1947, ond y mae diwyg lliwgar a modern yr argraffiad newydd yn pwysleisio fod ei neges yr un mor berthnasol heddiw ag erioed. Mae'r byd hwn drwy wahanol ffyrdd drwy adloniant, cyfoeth ac ati yn denu megis rhith, ond wastad yn twyllo. Yn y bregeth hon fe'n cyfeirir at Grist a'i waith trosom ac ynom fel unig ffynhonnell gwir hapusrwydd, a hynny dros byth. Nid rhith mohono ond yr unig sylwedd a all ddiwallu pob angen. Mae'r bregeth hon ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dŵr yn yr anialwch yw teitl y fersiwn Cymraeg a theitl y fersiwn Saesneg yw Water in the Desert. YR UNION 10 Deg Gorchymyn ar gyfer heddiw gan Gwyn Davies; sylwebaeth 'Co Bach' gan D. Alwyn Owen Clawr meddai 56 tud. £ 1 .99 'Mm 'im yn ddrwg! Amball frycheuyn ond dim byd mawr o'i Ie. Nag oes wir.' Dyna a ddywed y 'Co Bach' wrth edrych yn y drych, yn ôl un o'r cartwnau sydd gan Alwyn Owen i eglurebu testun y llyfr darllenadwy hwn gan Gwyn Davies. A dyna, mae'n debyg, fyddai sylw llaweroedd o bobl heddiw wrth edrych i ddrych y Deg Gorchymyn a bwrw bod hamdden ac awydd ganddynt i wneud y fath beth. Yn wir, erbyn hyn go brin bod llawer yn gwybod beth yw'r Deg Gorchymyn hydyn oed, ac eithrio 'Na ladd' neu 'Na odineba' neu 'Na ladrata'. Gwahoddir ni yn llyfryn hwn edrych yn y drych. Er mwyn ein helpu ceir dadan- soddiad dadlennol a bachog ar ystyr ac arwyddocâd pob un o'r Deg Gorchymyn, ynghyd â chartwnau difyr a phwrpasol. Ni fyddai'n syndod yn y byd clywed i lawer un sy'n darllen hwn gael nid yn unig dipyn o hwyl, ond tipyn o sioc hefyd!