Gair o Guyana CYFRIFOLDEB CENHADWR GUTO PRYS AP GWYNFOR Pan gyhoeddais fy mwriad i wasanaethu'r genhadaeth dramor fe godwyd dau brif wrthwynebiad i'm penderfyniad. Yn gyntaf, cyhuddwyd cenhadon yn gyffredinol o fod yn foddion i ddinistrio diwylliannau a chymunedau cynhenid ac felly y maent yn groes i ysbryd yr efengyl. Yn ail, (a dyma'r gwrthwynebiad mwyaf llafar o bell ffordd) dywedwyd fod angen cenhadu yng Nghymru ac mai gweithred anghyfrifol oedd mynd o'r wlad ar adeg mor dynged- fennol yn ei hanes. Ceisiaf ddefnyddio'r gofod hwn i ymateb i'r ddau gyhuddiad. CYFOETHOGI DIWYLLIANNAU Yn gyntaf, carwn gydnabod yn ddi-flewyn- ar-dafod y gallai'r ddau gyhuddiad fod yn wir. Cydnabyddaf mewn cywilydd ac edifeirwch fod yna 'genhadon' sydd yn brysur ddinistrio cymdeithasau a diwyll- iannau a'u bod o'r herwydd yn gweithredu'n groes i efengyl y Duw byw. Er hynny, nid dyna'r gwir am bob cenhadwr ac yn enwedig felly genhadon o Gymru. Y mae llawer cenedl yn diolch i Dduw am ddyfodiad y cenhadon hynny i'w gwledydd cenhedloedd fel Madagascar, y Khasi yn India, Papwa a chenhedloedd y Caribi. Gwnaeth y cenhadon waith enfawr yn cyfoethogi diwylliannau'r gwledydd hyn. Cymro, Ebenezer Davies o Rhuthun, oedd y cyntaf ddechrau addysgu plant caethweision yma yn Guyana, a hynny yn nannedd gwrthwynebiad ffyrnig y tirfedd- ianwyr Seisnig. Bendith oedd eu dyfodiad, a hynny'n fendith tymhorol yn ogystal ag ysbrydol. Nid yw pob cymdeithas genhadol yn ystyried cenhadaeth fel cyfle i rannu'r ffordd Ewropeaidd o fyw drwy'r byd. Mae hyn yn arbennig o wir am CWM, a gweledigaeth flaengar y gymdeithas hon a'm taniodd i sylweddoli bod cenhadaeth yn golygu llawer mwy na 'mynd i sôn wrth eraill am yr efengyl.' Yn ôl gweledigaeth CWM rhannu pobl ac adnoddau yw prif waith y gymdeithas genhadol gyda'r cenhadwr yn plygu ddisgyblaeth yr eglwys leol ac nid yn tra-arglwyddiaethu drosti. Cyfrifoldeb cenhadwr yw rhannu o'i ddoniau i gynorthwyo'r eglwys yn ei hangen a hefyd i ddysgu gan yr eglwys honno, er mwyn iddo ddychwelyd i'w wlad ei hun yn gyfoethocach o'r profiad. Gall ei genhadaeth fod o fudd, nid yn unig Y mae angen cenhadon yng Nghymru sy'n barod i weld fod gennym lu o bethau i'w dysgu gan ddiwylliannau a chenhedloedd eraill. i'r wlad y mae'n gwasanaethu ynddi, ond hefyd i'r wlad y daw ohoni. CENHADON YNG NGHYMRU Arwain hyn yn naturiol i'm hymateb i'r ail gyhuddiad, sef fod angen cenhadon yng Nghymru. Er mwyn ateb hyn yn llawn rhaid gofyn cwestiwn pwysig, sef beth yw cenhadaeth? Neu, cenhadu dros beth? Oes, mae angen cenhadon yng Nghymru, cenhadon sy'n gweld yr efengyl fel moddion gwaredigaeth i'r holl fyd. Y mae angen cenhadon yng Nghymru i gyhoeddi bod ar y eglwysi gyfrifoldeb i'w cenedl eu hunain ac i genhedloedd eraill a chyhoeddi mai pechod yw bod yn ynysig a mewnblyg. Y mae angen cenhadon yng Nghymru sy'n barod i weld fod gennym lu o bethau i'w dysgu gan ddiwylliannau a chenhedloedd eraill ac y byddwn yn llawer bywiocach a chyfoethocach ein tystiolaeth a'n cenhadu os y gwrandawn arnynt a'u hastudio. A pha fodd gwell i ddysgu ganddynt na bod yn eu plith am gyfnod a rhannu eu profiadau a'u doluriau, nid fel ymwelydd (y mae ymwelwyr yn amlach na pheidio yn cael camargraff o wledydd), ond fel cydweithiwr. Dyma paham yr wyf yn ystyried fy nghenhadaeth yn Guyana fel rhan holl-bwysig o'm cenhadaeth yng Nghymru. Y llynedd yr aeth Guto Prys ap Gwynfor yn genhadwr i Guyana o dan nawdd CWM. Cyn hynny bu'n weinidog gyda'r Annibyn- wyr yn Llanbedr Pont Steffan a'r cylch ac yn athro yn y Coleg Coffa, Aberystwyth. Bancio ar lesu Y Gair a ddaeth i'n gwared a hoeliodd fethdaliad ein tynged. A ni'n dal yn ein dyled Ei log yw'r breichiau ar led. I ddyn gŵyl gwag ei ddwylo ceir ansawdd crynswth heb gynilo. Yr lôn 'di'r banc sy'n gwrando, un iawn yw ei sofren O. Ei fendith yw ei fondiau;-trwy ei sêl troir y Salm yn stociau. Ceir ar agor bob oriau fenter heb gownter ar gau. Di-golleda golledwyr; un â'i Ras yw'r holl gyfranddalwyr. O gael gweithredoedd ei gur ni sudda ei fuddsoddwyr. Einion Evans Penffordd, Treffynnon.