Beth fydd effeithiau Mesur Darlledur Llywodraeth? A yw dyfodol darlledu crefyddol yn y fantol? Ai cyfrifoldeb yr eglwysi yw cynhyrchu rhaglenni crefyddol? Dyma rai o'r cwestiynau a drafodir yn yr ysgrif hon DYFODOL DARLLEDU CREFYDDOL MEURWYN WILLIAMS Petai angen codi testun i drafod Mesur Darlledu y Llywodraeth, gellid cynnig: "Yn awr y mae yn aros Ansawdd, Cystadleuaeth, Dewis, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw Dewis". Yn fras, y prif argymhellion a wneir yn y Mesur yw- Ychwanegu Sianel Newydd (Sianel 5) yn 1993, gyda chweched sianel yn bosib yn nes ymlaen. Newid enw Teledu Annibynnol i SIANEL 3 0 1993 ymlaen. Ychwanegu dwy sianel loeren ychwanegol yn 1990 (BSB). Posibilrwydd o sefydlu gorsafoedd teledu lleol. Y sianelau yn cael yr hawl i ariannu eu hunain trwy dderbyn tâl uniongyrchol neu trwy werthu hysbysebion. Y cyfan yn atebol i'r Cyngor Safonau Teledu (CST). SAFON NEU SOTHACH? Bydd pawb ohonom felly yn gweld cynnydd yn y dewis o raglenni fydd i'w gwylio, ond eisoes mynegwyd gofid am ansawdd y rhaglenni rheini. Bydd y gystadleuaeth hefyd yn un ffyrnig, a hynny bellach rhwng BBC, ITA a'r gorsafoedd Teledu Lloeren. Un ddadl a ddefnyddir yw fod y dewis a'r gystadleuaeth yn mynd i orfodi'r cynhyrch- wyr ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel. Ond dadl eraill yw y bydd cwmnïau yn rhy barod o lawer brynu "sothach" o wledydd eraill er mwyn plesio'r gwylwyr. Dyna pam meddir y sefydlwyd CST i orfodi a gwarchod safonau-a hynny, yn ddigon eirionig, gan Brif Weinidog a ddywedodd flwyddyn a hanner yn ôl wrth Gymanfa Eglwys Bresbyteraidd yr Alban: "any set of social and economic arrangements which is NOT founded on the acceptance of individual responsibility, will do nothing but harm Ar y cefndir cyffredinol hwn bu cynrychiolwyr o enwadau a chrefyddau "Y canlyniad posib fydd dileu darlledu crefyddol oddi ar y rhwydweithiau". gwahanol yng Nghymru yn trafod lle Darlledu Crefyddol yn y mesur darlledu mewn cynhadledd yn Llanbed fis Tachwedd diwethaf. Gwnaed yn eglur gan Gadeiryddes yr Ymgyrch Dros Deledu o Safon, Angela Graham, fod rhaglenni fel crefydd, addysg, celfyddyd, plant a materion cyfoes, 011 mewn perygl o dan system ddad-reoli sydd i ddod yn y dyfodol. Prif siaradwr y gynhadledd oedd Dr. Colin Morris, Rheolwr y BBC yng Ngogledd Iwerddon, a bwysleisiodd yr angen am 'galon' o wasanaeth darlledu cyhoeddus wrth i ni symud ganol bedlam electronig. Ar hyn o bryd mae'n orfodol ar y cyfun- drefnau darlledu drosglwyddo rhaglenni crefydd; ond o dan y mesur newydd bydd yr orfodaeth honno yn cael ei dileu. Yn ogystal ni bydd y God-Slot, fel y'i gelwir yn para, a gall cynllunwyr ddarlledu rhaglenni heblaw rhai crefyddol rhwng chwarter i a chwarter wedi saith ar nos Sul. Y canlyniad posib fydd dileu darlledu crefyddol oddi ar y rhwydweithiau. "Fe allai'r Mesur Darlledu ddeffro'r eglwysi i'r posibiliadau o ymffurfio'n 'gwmníau' i ddarparu rhai mathau o raglenni". BETH AM GYMRU? Y cwestiwn diddorol yw A fydd Cymru yn wahanol i Loegr? Beth am S4C? Eisoes, gwnaed ambell ddatganiad am y dyfodol, yn cynnwys rhoi blaentroed yn y môr ynglŷn â dyfodol Dechrau Canu, Dechrau Canmol. A phetai newidiadau'n dod i fod, a fydde'r eglwysi yn codi llais? Digon eiddil yw'r ymateb raglenni yn gyffredinol yng Nghymru. Ond gwaeth fyth, llai o lawer o ddefnyddio'r cyfryngau fel cyfryngau a wna'r eglwysi. Ond fe allai'r Mesur Darlledu ddeffro'r eglwysi i'r posibiliadau o ym- ffurfio'n "gwmnïau" i ddarparu rhai mathau o raglenni i'w darlledu gan y rhwydweithiau. Ymhlith y penderfyniadau a wnaed yn y Gynhadledd yn Llanbed er enghraifft, oedd galw am weld mwy o fynegiant o ffydd o bob math; ac ar S4C yn arbennig, am fwy o raglenni'n dangos y weithred o addoli. Tybed a oes i'r eglwysi swyddogaeth gyflawni'r angen hwn dan gyfarwyddyd darlledwyr proffesiynol? Fe ddigwyddodd eisoes yn America. Mae cwmnïau NBC ac ABC wedi gwneud i ffwrdd â'u hadrannau crefydd yn ddiweddar, ac mae NBC bellach yn rhoi miliwn o ddoleri'r flwyddyn i'r prif grwpiau crefyddol wneud rhaglenni sy'n cael eu cynhyrchu gan yr Interíaith Broadcasting Commission (Yr Eglwys Gatholig a'r prif enwadau Protestannaidd) a'r Jewish Theological Seminary. Os yw'r rhaglenni yn dod i fyny â gofynion NBC, yna mae nhw'n cael eu dangos ar y rhwydwaith ac yn cael eu cynnig i'r cwmnïau lIai sydd yn eiddo NBC. Tybed welwn ni sefyllfa fel yna yng Nghymru yn y blynyddoedd yn dilyn y Mesur Darlledu Newydd? Os hynny, a fydd yr eglwysi yn ddigon effro i ymateb i her yr awdurdodau darlledu sydd eisoes wedi profi eu hawydd, os yn bosib, i gynnwys darlledu crefyddol ar eu taflenni amser? Gall y degawd nesaf fod yn ddiddorol iawn!