Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(JEff DONI LYNN EDWARDS Dwy'i ddim yn meddwl y bydd llawer o ddarllenwyr y cylchgrawn hwn yn gyfarwydd â'r eglwys yn Llundain y byddaf yn ei mynychu ar y Sul ac ar achlysuron eraill. Beudy o Ie ydyw! Fe'i cynlluniwyd ar ddechrau'r ganrif gan Lutyens, y pensaer sy'n adnabyddus am ei waith ynglyn â'r 'Cenotaph' a dinas Deli Newydd, a noddwyd gan y Fonesig Henrietta Barnett. Saif Eglwys Sant Jiwd a'i chymar yr Eglwys Rydd yng nghanol y casgliad o gartrefi a elwir Hampstead Garden Suburb. Y mae fy mhriod, Elinor, erbyn hyn yn gyfarwydd iawn ag anawsterau a diffygion cynllun Lutyens gan mai hyhi, fel Warden, sydd yn gyfrifol am gynhaliaeth yr adeilad. Ond os mai 'beudy' 0 le yw'r eglwys, nid oes amheuaeth mai beudy prydferth ydyw, yn enwedig un man o fewn yr eglwys, sef Capel y Forwyn, sydd yn y gornel ogledd-orllewinol. Y mae'r welydd a'r nenfwd, fel gweddill yr eglwys, wedi'u haddurno a lluniau alfresco. Yn yr eglwys ei hun, mae lluniau yn mynegi pob agwedd o 'Deyrnas Nefoedd' ynghyd â llawer o'r damhegion. Ar y nenfwd, gwelwn ddigwyddiadau Wythnos y Dioddefaint. Y mae'r croeshoeliad ar gryndo croes yr eglwys; a thu ôl i'r Uchel Allor y mae darlun o'r Swper Olaf, a phob cymeriad yn fwy na maint corff (mewn sawl ystyr). Ar welydd y capel bychan, y mae lluniau o forynion a gwragedd enwog yr Hen Destament. Gwelir lluniau hefyd o wragedd nodedig o hanes Cristnogaeth ar y cryndo, er enghraifft y Santes Feronica, y Santes Catherin, Harriet Beecher Stowe, Elizabeth Fry a'r Fonesig Baden Powell. Y mae Mari Jones, a'i het dal ddu, yn eu plith. Efallai bydd y darn isod yn cyflwyno rhyw damaid o'r harddwch a brofaf bob tro y mentraf i mewn i'r Eglwys. Carwn sôn am ddigwyddiad diweddar yn y Capel bach, Capel y Forwyn. Y mae'r stori'n wir. Gall golau dwyllo o dro i dro. Rydym yn gyfarwydd â'r enfys ac hefyd â rhithlun, ac er bod y cyntaf o'r rhain yn brydferth, rhith ydyw sef golau sy' wedi'i blygu drwy brism-ffug diferyn o law. Y mae'r golau yn twyllo yn Sant Jiwd hefyd! Pan gerddaf i mewn i'r eglwys cyn Hwyrol Weddi ganol haf, y mae pelydryn crwn yn goleuo pen ac ysgwyddau'r Arglwydd Iesu, Llywydd y Wledd Olaf y cyfeiriais ati eisoes. Wrth gwrs, nid oes ffenestr gron yn agos i'r eglwys, ond nid yw hynny'n bwysig Ymwelodd yr Arglwydd a Sara yn ôl ei air. Nid oedd yr haul yn tywynnu ar y noson arbennig hon, noson gymun canol wythnos. Mewn ffaith, yr oedd hi'n noson eithaf diflas. Yr oedd y Capel yn ddigon tywyll a digysur: nid oedd glaw na storom, yr oedd y cymylau'n isel, oeddent, ond dim mwy na hynny mewn gwirionedd. Yn syml, noson ddiflas oedd hi. Dim mwy, dim llai! Dywedodd Rebeca, 'Yf, f arglwydd Yr oedd y cyfan yn dywyll heblaw'r ddwy gannwyll a'r geiriau a baentiwyd y tu ôl i'r Tabernacl sy'n dal yr Elfennau Cysegredig ar gyfer Cymun y Cleifion. Darllenais y geiriau am y tro cyntaf, ni sylwaswn arnynt o'r blaen Ecce, Agnus Dei Dyma Oen Duw Dim rhagor. Y mae'r adnod yn anghyflawn, ac nid yw'n mynd ymlaen fel y dylid ecce, qui tollit peccata mundi sy'n cymryd ymaith bechod y byd Adnod briodol, ynghyd â thema briodol ar gyfer myfyrdod a pharatoad cyn y Cymun. yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth Eithaf priodol mewn gwirionedd — Capel y Forwyn a hithau'n edrych arnom o'i cholofn, efallai ei bod hithau'n dal i glywed y geiriau Mulier ecce filius tuus Wraig, dyma dy fab di Troes yr eiliadau yn funudau, llawer ohonynt. Yna symud yn sydyn yn ôl i dir y byw a chlywed y geiriau cyfarwydd Gloria in excelsis Deo, et in terra Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear ond yn Saesneg wrth gwrs. Yna yr Hen Destament, Yr Epistol, dweud Salm, Yr Efengyl, pregeth fer, Credo, Yr Ymbiliad. Canodd Miriam gân iddynt. Cenwch i'r Arglwydd Pax vobiscum Tangnefedd yr Arglwydd a fo bob amser gyda chwi