paham y myn rhai ddewis yr addoldy sydd fwyaf cyfleus iddynt, yn enwedig pan nad oes moddion cludiant ganddynt. Fe all hynny, wrth gwrs, olygu weithiau newid enwad, ac fe ddaw hynny â ni at yr ail ystyriaeth, sef enwadaeth. Er ei bod yn wir nad oes i enwadaeth yr un grym ag yn y dyddiau gynt, ceir bod rhai aelodau'n amharod ddigon i adael eu cyfundeb eu hunain am un arall. Mae hyn yn arbennig o wir am y blaenor neu'r diacon sy'n fwy ymwybodol o hawl ei enwad arno na'r aelod cyffredin. Eithr bydd ystyriaethau cryfach yn cymell eraill i beidio â gweld newid enwad yn faen tramgwydd. Ffactor arall y gall aelod roi ystyriaeth iddi yw cysylltiadau teuluol neu gyfeillion. Gall cysylltiadau teuluol neu bresenoldeb cyfeillion mewn eglwys fod yn gryn dynfa i'r sawl sy'n edrych am Ie i ymgartrefu, ac o gymorth iddo i ddygymod â'i sefyllfa newydd. Ystyriaeth bwysig arall yw cwestiwn yr iaith. Mae'n naturiol i'r Cymro Cymraeg ddewis parhau i addoli yn ei briod iaith, tra bydd eraill nad ydynt mor rhugl yn yr iaith honno yn cael cyfle i benderfynu pa un ai'r Gymraeg neu'r Saesneg sy'n gweddu orau iddynt. Gyda phroblem dwyieithrwydd yn faich ychwanegol ar ein heglwysi Cymraeg yn y rhannau hynny o'r wlad a Seisnigeiddiwyd, tybed na ddaeth yr amser inni feddwl am ad-drefnu eglwysi ar dir iaith yn hytrach nag ar dir enwad. Mae gweld cau capel yn gallu bod yn brofiad poenus i'r ffyddloniaid hynny sydd wedi bod yn ymdrechu'n lew dros y blynyddoedd i gadw'r drws ar agor, ac nid peth rhwydd yw iddynt ddygymod â'u sefyllfa newydd. Fe gymer amser iddynt ymsefydlu yn yr eglwys a ddewiswyd ganddynt yn gartref newydd, ac nid peth rhwydd bob amser i'r sawl a fu'n dal swydd bwysig neu'n chwarae rhan amlwg yn yr eglwys wreiddiol yw bodloni ar fod yn aelod cyffredin. Un canlyniad anffodus i gau capel yw y gwelir colli rhai aelodau o blith y rheini na fuont yn nodedig am eu ffydd- londeb. Fe wêl y rhain esgus bellach dros aros gartref gan na fynnant ddatgan unrhyw deyrngarwch i eglwys arall. Yna fe geir yr aelod hwnnw sy'n ymesgusodi trwy honni na all byth addoli mewn capel arall. Mae'n amlwg oddi wrth agwedd y bobl hyn na chlywsant erioed bregeth ar y gwirionedd mawr a ddysgodd ein Harglwydd lesu i'r wraig o Samaria, neu os clywsant, nas deallasant! Ond clod i'w Enw, gofala Duw fod yn ei eglwys gnewyllyn o'i briod bobl Ef, ei weddill ffyddlon, ac i'r rhain nid yw hyn 011 namyn rhwystr bychan dros dro, her i'w derbyn a'i gorchfygu yn nerth yr hwn a ddichon eu cadw'n ddi-gwymp ym mhob profedigaeth. Mae'n bwysig cofio hefyd, pan gaeir capel, fod dyletswydd a chyfrifoldeb ar yr eglwysi eraill yn yr un gymdogaeth i wneud yr hyn a allont i gynnig cymorth i'r chwaer- eglwys sydd mewn trafferth. Nid yw ambell air digon didaro o ymholiad neu gydymdeimlad o fawr gysur i eglwys sydd yn ei chyfyngder yn dyheu am unrhyw gynnig o gymorth penodol ac ymarferol. Un o ganlyniadau blin yr argyfwng presennol ym myd crefydd yw creu eglwysi mewnblyg sydd, yn wyneb anawsterau cynyddol, yn gorfod gofalu cymaint am eu buddiannau eu hunain nes peri nad oes ganddynt na'r awydd na'r adnoddau i helpu neb arall. Eithr y mae un peth gwerthfawr y gall unrhyw eglwys ei wneud, sef yw hynny, derbyn a chroesawu'n gynnes aelodau o eglwys a chwalwyd. Fe all ffyddlondeb a pharhad yr aelodau hynny ddibynnu ar ansawdd y croeso a gânt. Pan fyddwn yn digalonni wrth feddwl am gyflwr truenus llawer o'n eglwysi y dyddiau hyn, ni ddylem gau ein llygaid i arwyddion pendant fod llaw Duw i'w gweld yn amlwg mewn a thrwy sefyllfaoedd sydd i bob golwg allanol yn peri dryswch i ni. Mae ei law Ef i'w gweld yn amlwg yn y ddau ddatblygiad llesol a ddaeth i'r golwg yn hanes yr Eglwys Gristnogol yn y ganrif hon, sef y mudiad eciwmenaidd a'r pwyslais cynyddol a roir ar Ie a chyfraniad y lleygwr ym mywyd yr eglwys. Er nad yw'r mudiad eciwmenaidd yn symud mor ebrwydd ag y byddai ei bleidwyr yn dymuno, mae eto achos i lawenhau ein bod fel enwadau ac eglwysi wedi dod yn llawer nes at ein gilydd, ac nad oes erbyn hyn gymaint o rwystr wrth groesi o'r naill i'r lla.ll. Cyn belled ag y mae undod eglwysi yn y cwestiwn y peth delfrydol fyddai i eglwysi uno â'i gilydd yn wirfoddol yn eu cryfder yn hytrach nag yn eu gwendid, ond efallai ein bod yn gweled yma eto ôl ei law Ef. Ein harferiad ni, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wrth gau capel yw cynnal yr hyn a elwir yn wasanaeth datgorffori. Ar ddiwedd y gwasanaeth hwnnw cyflawnir gweithred symbolaidd wrth baratoi i gloi'r drws am y tro diwethaf, sef cario Beibl agored allan i'r stryd fel arwydd o ffydd ddiysgog yr eglwys yng ngwirionedd anorchfygol y Gair a sicrwydd ei barhad. Pan ddaw'r cyfarfod olaf hwnnw mi wn o'r gorau y byddwn bawb yma dan deimlad dwys gyda rhai yn colli dagrau, ond os oes capel yn cael ei gau cofiwn nad yw ei eglwys Ef yn cael ei difa. Faint gwell ydym ni fel eglwysi o neilltuo wythnos o weddi am undod Cristnogol bob mis lonawr, oni wnawn rywbeth cadarnhaol i wireddu'r freuddwyd honno? Teimlwn yn hyderus ein bod ni yma, er ein tristwch wrth gau ein capel annwyl, yn cymryd cam pendant i'r cyfeiriad hwnnw yn unol a'i ewyllys Ef. Er nad oes unrhyw gysylltiad uniongyr- chol rhwng y llun o Gapel Coffa John Evans a'r capel a ddisgrifir yn yr erthygl hon, fe'n hatgofier o'r tristwch sy'n gysylltiedig â'r weithred o ddatgorffori eglwys, er bod ymdriniaeth ddewr a sensitif yr awdur o'r mater yn ennyn ein hedmygedd. (Gol.) I gyfaill a benderfynodd aros gartref ar ôl gweld ei gapel ei hun yn cau Pan gaewyd drysau Bethel Fu gynt yn falchder bro, A rhoi dy hoff addoldy Dan waradwyddus glo, Enciliaist tithau yn dy siom A digio dan yr ergyd drom. Cans Bethel oedd dy fywyd, Duw Bethel oedd dy Dduw, Ac wedi'r cau a'r cilio, Ni fynnit yn dy fyw Addoli'r lôr mewn arall fan, Na gwneud dy gydwybodol ran. A dyma tithau bellach Heb fynd i unman mwy, Bu cau dy annwyl Fethel I ti'n alaethus glwy', Ac nid oes arall dan y ne' All gymryd ei ddihafal Ie. Ond, gyfaill, nid mewn capel, Nac mewn cadeirlan gref, Er maint eu bri a'u hurddas, Y mae ei drigfan Ef, Cans calon edifeiriol dyn Yw priod demel Duw ei Hun. Gwyn fyd na welet heddiw Mai Ef, y Garddwr mawr, Wrth ddyfal drin ei winllan, Sy'n tocio yma'n awr Ganghennau gwyw y gwinwydd gwan I'w cael i ffrwytho yn y man. MORGAN D. JONES