Yr enaid ni châr ronyn A garo'r corff gorwag gwyn; Ni fyn y corffyn, be caid, Iddo a fynno f'enaid Lewis Glyn Cothi biau'r geiriau sy'n darlunio'r frwydr fawr rhwng yr hyn a alwai Paul yn "gnawd ac ysbryd": "Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd" (Gal. 5.17 BCN). O gofio am ddylanwad yr Apostol ar ddiwinyddiaeth Gristnogol, nid yw'n syndod, felly, fod tuedd oddi fewn i Gristnogaeth i ystyried y cnawd yn ddrwg tra bod y gair "cnawdol" yn gyfystyr â "drwg" a "drygioni". Dyna pam y dywedod Basil, "tad" mynachaeth Roegaidd yn y bedwaredd ganrif, "Dir- mygwch y cnawd" a daeth y ffordd fynachaidd o fyw yn boblogaidd gan Gristnogion. Yn wir, hyd heddiw y mae rhai yn ceisio marweiddio'r corff er mwyn diogelu ffyniant yr Ysbryd tra bod "pechodau'r cnawd" (sy'n gyfystyr â phechodau rhywiol, fel arfer) yn cael eu hystyried yn waeth na phechodau eraill. SARKS yw'r gair Groeg am gnawd a dichon nad oes un gair arall yn yr Ysgrythurau a gamddeallwyd yn fwy nag ef. Fe'i gwelir gant a hanner o weithiau yn y Testament Newydd dros 90 ohonynt yn yr Epistolau Paulaidd a phan aeth cyfieithwyr y Beibl Cymraeg Newydd ati i'w drosi i Gymraeg Cyfoes cawsant na allent ddilyn William Morgan a bodloni ar gyfyngu eu hunain i ddyrnaid o eiriau Cymraeg. Fel yng nghyfieithiad 1588, cnawd yw'r dewis amlaf, tra ffefrir cig weithiau (mewn ymadrodd fel "SARKS a gwaed"); ond gwelir hefyd corff, dyn, undyn byw, y ddynolryw, undyn meidrol, unrhyw ddyn, pobl, lIinach, ac ati, ar adegau eraill. Ar yr un pryd, y mae BCN yn cyfieithu'r ymadrodd KATA SARKA (sef, yn IIyth- rennol, "yn ôl y cnawd") gydag ymad- roddion amrywiol sy'n adlewyrchu'r cyd- destun megis: yn 61 safon y byd, safonau dynion, mewn ffordd ddynol, ar dir naturiol, fel dyn bydol, yn [ein] gwendid, [Israelí hanesyddol. Mae'r amrywiaeth a orfodwyd ar y cyfieithwyr cyfoes yn tanlinellu cyfoeth y gair ac yn rhybudd i'r darllenydd na ddylid uniaethu SARKS â'r corff dynol ac â rhyw. Ystyr arferol y gair yn yr Efengylau ac yn yr Actau yw person, dynoliaeth a dynolryw gan ddibynnu ar y cyd-destun i amlygu pa un o'r tri sy'n gweddu orau. Dau yn Y NATUR DDYNOL ymrwymo i fyw fel un person yw priodas (Mat. 19:6) ac fel cymundeb llawn â pherson Crist y dylid deall y cyfeiriadau at SARKS yn loan 6:51-58. Gwisgo'r natur ddynol (dynoliaeth) a wnaeth yr Arglwydd lesu pan ddaeth y Gair yn gnawd a phreswylio ymhlith dynion (loan 1:14); ac roedd ei ddyfodiad i'r byd yn gyfle i'r ddynolryw i weld iachawdwriaeth Duw (Luc 3.6). Gwelir yr ystyron uchod yn nefnydd Paul o'r gair ar adegau hefyd, ond fel arfer ym meddwl yr Apostol Saif cnawd yn bennaf am ddyn yn ei sefyllfa wrth natur ar wahan â Christ. Dynoda y natur ddynol heb yr Ysbryd Dwyfol; sefyllfa y creadur cyn neu mewn cyferbyniaeth i'w dderbyniad o'r elfen Ddwyfol trwy yr hon y gwneir ef yn greadur newydd yng Nghrist; yr holl fywyd dynol heb ei ddwyn dan ddylanwad gras Duw. (William Edwards, Cyfieithad Newydd III, 1913). Hynny yw, cynrychioli'r meidrol mewn person a wna'r gair "cnawd" pan yw Paul yn ei gyferbynnu â'r Ysbryd. [Er nad y gair SARKS a arferir yn 1 Corinthiaid 15.44, y mae trosiad Yr Oraclau Bywiol yn drawiadol: 'Y mae corf anifeiliol, ac y mae corff ysbrydol"]. Y mae'r cnawd yn feidrol- anifeiliol ac o'r herwydd ni fedr werth- fawrogi'r hyn sy'n ysbrydol ac yn drag- wyddol. Cynrychioli dwy lefel wahanol o fywyd, felly, a wna'r cnawd a'r enaid a dyna pam y gallai'r Apostol ddweud wrth aelodau'r eglwys yng Nghorinth: er ein bod yn byw yn y cnawd, nid ar wastad y cnawd yr ydym yn milwrio (2 Cor. 10.3 BCN). Ac nid oedd amheuaeth yn ei feddwl fod Cristnogion yn byw nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd. Oherwydd y sawl sydd â'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd (Rhuf. 8:4-5 BCN). Wrth gwrs, os mai "ar wastad y cnawd" y mae person yn byw h.y. heb Dduw ac heb Grist y mae'n dilyn y bydd pechod yn fwy amlwg yn ei fywyd nac yw ym mywyd y person sy'n byw "ar wastad yr Ysbryd". Yn y cyswllt hwn y mae modd galw'r cnawd yn "gnawd pechadurus" (Rhuf. 8:3) a gellir galw pechodau yn "fudreddi'r cnawd" (1 Pedr 3.18), ac ati (cymh. 2 Pedr 2.18). Er hynny, hyd yn oed yn yr enghreifftiau hyn a'u tebyg, dylid osgoi uniaethu cnawd â'r corff dynol a chredu fod y Testament Newydd yn dweud fod y corff yn ddrwg. Creadigaeth Duw yw'r cnawd â'r corff. Fe'u rhoes i ddyn yn ddefnydd-crai bywyd: The flesh is the common stuff of human nature which we inherit. Paul does not think of it as necessarily evil but as powerless for moral ends (C.H. Dodd). Ac meddai T. Glyn Thomas: Try'r greddfau a'r nwydau a'r dyheadau, sy'n ddeunydd-crai pechod pan fyddwn yn byw yn ein nerth ein hunain, yn ddeunydd-crai sancteiddrwydd pan ddeuwn o dan arglwyddiaeth y Crist (Ar Ddechrau'r Dydd, t. 61). Diau mai pechod a orchfygai pe adewid y cnawd i'w ddyfeisgarwch ei hunan, ond gyda chymorth yr Ysbryd Glân y mae posibilrwydd ei droi yn deml i'r Duw byw (1 Cor. 6:16). D. HUGH MATTHEWS Emyn:"Gŵyl Ddewi" Tydi sy'n anfon gweision l'r maes i daenu'r had, O pâr i lafur Dewi Ddwyn cynnyrch yn ein gwlad. Tydi a roes i Gymru Yn nawdd, ddewisol sant, eto ddeuparth O'i Ysbryd ar dy blant. Tydi sy'n rhoi i'n Drysorau'n heniaith wiw, O cadarnha'n diofryd Tra bom, fyw. Tydi sy'n cynnal gobaith Am weled tecach dydd, Meddianna Di ein calon Â'th rym i gadw'r Ffydd. T. ELFYN JONES